Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pensiwn y Wladwriaeth a'ch cod treth - enghreifftiau ymarferol

Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos sut mae’ch cod treth yn cael ei addasu yn ôl y dreth sy'n ddyledus gennych ar Bensiwn y Wladwriaeth. I gael mwy o wybodaeth ynghylch sut caiff eich cod treth ei bennu os byddwch yn cael pensiwn a/neu fudd-daliadau’r wladwriaeth, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, darllenwch yr erthygl berthnasol, ‘Pensiynau, budd-daliadau’r wladwriaeth a’ch cod treth’.

Enghraifft – blwyddyn dreth 2012-13

Rydych yn 67 oed, wedi ymddeol, ac yn cael £6,000 o bensiwn cwmni a £5,577 o Bensiwn y Wladwriaeth.

Mae gennych hawl i’r Lwfans Personol ar sail oed llawn ar gyfer eich grŵp oed gan fod cyfanswm eich incwm trethadwy yn llai na £25,400 – y terfyn incwm.

Dyma sut y bydd eich cod treth yn cael ei addasu er mwyn casglu'r dreth sy'n ddyledus ar Bensiwn y Wladwriaeth:

  • mae eich Lwfans Personol ar sail oed -y swm y gallwch ei gael yn ddi-dreth yn ystod y flwyddyn dreth - yn £10,500
  • mae Cyllid a Thollau EM yn tynnu’r £5,577 o Bensiwn y Wladwriaeth (hwn yw’r incwm trethadwy yr ydych yn ei gael heb i’r dreth gael ei thynnu – oherwydd hyn caiff ei thynnu o’ch Lwfans Personol di-dreth)
  • mae hynny'n eich gadael gyda balans Lwfans Personol o £4,923 (sef gweddill yr incwm y gallwch ei gael heb dalu treth arno)
  • 492P fydd eich cod treth – mae'r P yn nodi eich hawl i gael y Lwfans Personol ar sail oed llawn ar gyfer pobl rhwng 65 a 74 oed, ac mae’r 492 yn cyfeirio at swm y lwfans heb y rhif ola
  • mae Cyllid a Thollau EM yn tynnu balans eich Lwfans Personol (£4,923) o'ch pensiwn cwmni (£6,000)
  • mae hynny'n golygu mai £1,077 yw swm y pensiwn cwmni yr ydych yn talu treth arno

Enghreifftiau o gasglu Pensiwn y Wladwriaeth drwy ddarparwr pensiwn cwmni

Enghraifft – blwyddyn dreth 2011-12

Rydych chi’n 67 oed ac wedi ymddeol, ac rydych chi’n cael £6,000 o bensiwn cwmni a £5,577 o Bensiwn y Wladwriaeth.

Mae gennych hawl i’r Lwfans Personol ar sail oed llawn ar gyfer eich grŵp oed gan fod cyfanswm eich incwm trethadwy yn llai na £24,000 – y terfyn incwm.

Caiff eich cod treth ei addasu er mwyn casglu'r dreth sy'n ddyledus ar Bensiwn y Wladwriaeth o'ch pensiwn cwmni. Dyma sut:

  • mae eich Lwfans Personol ar sail oed, sef faint o incwm y gallwch ei gael heb orfod talu treth yn y flwyddyn dreth, yn £9,940
  • mae Cyllid a Thollau EM yn tynnu’r £5,577 o Bensiwn y Wladwriaeth o’r ffigur hwn (dyma’r incwm trethadwy yr ydych yn ei gael heb i’r dreth gael ei thynnu – oherwydd hyn caiff ei thynnu o’ch Lwfans Personol di-dreth)
  • mae hynny'n eich gadael gyda balans Lwfans Personol o £4,363 (sef gweddill yr incwm y gallwch ei gael heb dalu treth arno)
  • 436P fydd eich cod treth – mae'r P yn nodi eich hawl i gael y Lwfans Personol ar sail oed llawn ar gyfer pobl rhwng 65 a 74 oed, ac mae’r 436 yn cyfeirio at swm y lwfans heb y rhif olaf
  • mae Cyllid a Thollau EM yn tynnu balans eich Lwfans Personol (£4,363) o'ch pensiwn cwmni (£6,000)
  • mae hynny'n golygu mai £1,637 yw swm y pensiwn cwmni yr ydych yn talu treth arno

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am sut caiff eich cod treth ei bennu os byddwch yn cael pensiwn a/neu fudd-daliadau’r wladwriaeth, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, darllenwch yr erthygl berthnasol, ‘Pensiynau, budd-daliadau’r wladwriaeth a’ch cod treth’.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU