Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae baner yr undeb, yr anthem genedlaethol, arian, stampiau a digwyddiadau cenedlaethol eraill yn eich helpu i uniaethu a deall beth yw bod yn Brydeiniwr a byw yn y Deyrnas Unedig.
Baner yr Undeb, neu Jac yr Undeb, yw baner genedlaethol y Deyrnas Unedig ac fe'i gelwir felly oherwydd ei bod yn ymgorffori arwyddluniau'r tair gwlad wedi'u huno o dan un Frenhiniaeth - teyrnasoedd Cymru a Lloegr, yr Alban ac Iwerddon (er mai dim ond Gogledd Iwerddon, yn hytrach nag Iwerddon i gyd, sydd wedi bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig ers 1921).
Mae'n bosib fod y term 'Jac yr Undeb' yn mynd yn ôl i amser y Frenhines Anne (a deyrnasodd rhwng 1702 a 1714), ond mae ei darddiad yn ansicr. Efallai ei fod yn dod o 'jack-et' milwyr Lloegr neu'r Alban; neu o enw Iago I y cafwyd yr uno cyntaf yn ystod ei deyrnasiad yn 1603, naill ai ar ei ffurf Ladin neu Ffrangeg, 'Jacobus' neu 'Jacques'; neu, gan mai ystyr 'jack' ar un adeg oedd bychan, efallai fod yr enw'n deillio o broclamasiwn a gyhoeddwyd gan Siarl II yn nodi y dylid chwifio Jac yr Undeb dim ond gan longau'r Llynges Frenhinol fel jac, baner fechan ar y polyn blaen.
Mae'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn darparu gwybodaeth ynghylch sut a phryd y gellir chwifio Jac yr Undeb yn ogystal â gwybodaeth ynghylch y ffordd iawn o'i chwifio.
Mae'r Faner Frenhinol yn cynrychioli'r Frenhines a'r Deyrnas Unedig. Mae'r Faner Frenhinol yn cael ei chwifio pan fo'r Frenhines yn preswylio yn un o'r Palasau Brenhinol, ar gar y Frenhines ar deithiau swyddogol ac ar awyrennau. Gellir ei chwifio hefyd ar unrhyw adeilad, swyddogol neu breifat (ond nid ar adeiladau eglwysig), yn ystod ymweliad gan Y Frenhines.
Cân wladgarol oedd 'God Save The King' a gafodd ei chanu'n gyhoeddus gyntaf yn Llundain yn 1745. Cyfeiriwyd ati fel yr Anthem Genedlaethol o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Does neb yn gwybod pwy oedd yr awdur na'r cyfansoddwr, ac efallai eu bod yn dyddio'n ôl i'r ail ganrif ar bymtheg. Does dim fersiwn awdurdodedig o'r Anthem Genedlaethol gan mai mater o draddodiad ydy'r geiriau.
Mae'r lluoedd arfog yn aml yn gysylltiedig â llawer o'r seremonïau gwladol mawr. Ceir manylion digwyddiadau o'r fath ar wefan y Fyddin megis seremoni cyflwyno'r faner, agoriad swyddogol y Senedd, Sul y cofio ac ymweliadau gwladol swyddogol.
Mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi arian papur ers y'i sefydlwyd yn 1694. Mae ei wefan yn cynnwys gwybodaeth am hanes a dyluniad arian papur.
Gellir olrhain y Bathdy Brenhinol yn ôl dros fil o flynyddoedd ac mae'n dal yn un o adrannau'r llywodraeth. Ei brif gyfrifoldeb yw darparu darnau arian y Deyrnas Unedig. Mae gwefan y Bathdy yn gwerthu darnau arian ac eitemau casgladwy cysylltiedig.
Mae'r DU yn parhau i fod y tu allan i ardal yr ewro. Mae'r Trysorlys yn cynnal gwefan sy'n darparu gwybodaeth am waith y Llywodraeth yn sicrhau y gallai'r DU newid yn ddidrafferth ac yn gost-effeithiol i ddefnyddio'r ewro, os mai dyna fydd penderfyniad y Llywodraeth, y Senedd a'r bobl, mewn refferendwm.
Y Post Brenhinol sy'n cyhoeddi stampiau ar gyfer y DU.
Erys y symbolau o darddiad brenhinol system bost y DU: ceir amlinell fechan o ben y Frenhines neu'r Brenin ar bob stamp.
Sêl Fawr y Deyrnas yw prif sêl y Goron, a ddefnyddir i ddangos bod y frenhines/brenin yn cymeradwyo dogfennau pwysig y wladwriaeth. Gyda brenhiniaeth gyfansoddiadol heddiw, mae'r Frenhines yn dilyn cyngor Llywodraeth y dydd, ond mae'r sêl yn dal yn symbol pwysig o rôl y Frenhines fel Pen y Wladwriaeth.
Swyddogaeth yr Arfbais Frenhinol yw dangos y person sy'n Ben ar y Wladwriaeth. Yn y DU, dim ond y Brenin neu'r Frenhines sy'n cario'r Arfbais Frenhinol. Fe'i defnyddir mewn sawl ffordd sy'n gysylltiedig â gweinyddu a llywodraethu'r wlad, er enghraifft ar ddarnau arian, mewn eglwysi ac ar adeiladau cyhoeddus.
Mae'r arfbais frenhinol yn gyfarwydd i'r rhan fwyaf o bobl gan ei bod yn ymddangos ar nwyddau a chynnyrch deiliaid y Warant Frenhinol.
Mae'r coronau a'r trysorau sy'n gysylltiedig â Brenhiniaeth Prydain yn symbolau pwerus o frenhiniaeth. Ers dros 600 o flynyddoedd, mae brenhinoedd a breninesau Lloegr wedi storio coronau, gwisgoedd ac eitemau gwerthfawr eraill o regalia seremonïol yn Nhŵr Llundain. Mae'r casgliad hwn, ers y 17eg ganrif o leiaf, yn dwyn y teitl 'Tlysau'r Goron'.