Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ceir nifer o ffynonellau ar-lein sy'n rhoi gwybodaeth yn ymwneud â dogfennau hanesyddol a threftadaeth ddiwylliannol y Deyrnas Unedig.
Ceir dogfennau allweddol yn ymwneud â hanes y Deyrnas Unedig yn yr Archifau Cenedlaethol, yn y Llyfrgell Brydeinig ac yn yr Archifau Seneddol.
Mae llawer o wybodaeth ar gael ar-lein a rhestrir rhai ffynonellau eraill isod.
Magna Carta
Mae Magna Carta yn aml yn cael ei ystyried yn gonglfaen rhyddid a'r prif amddiffyniad rhag rheolaeth fympwyol ac anghyfiawn yn Lloegr. Mewn gwirionedd, ychydig o ddatganiadau cyffredinol o egwyddor sydd ynddo, a'r hyn a geir yw cyfres o gonsesiynau a orfodwyd ar y Brenin John gan ei farwniaid gwrthryfelgar yn 1215. Fodd bynnag, sefydlodd Magna Carta am y tro cyntaf egwyddor gyfansoddiadol arwyddocaol iawn, sef y gellid cyfyngu ar bŵer y brenin drwy grant ysgrifenedig.
Mae pedwar copi o'r grant gwreiddiol hwn wedi goroesi. Mae dau yn y Llyfrgell Brydeinig tra bo'r ddau arall yn archifau cadeirlannau Lincoln a Salisbury.
Ar ôl yr arbrofion cyfansoddiadol byrhoedlog a gafwyd ar ôl y Rhyfel Cartref, ymgorfforwyd goruchafiaeth y Senedd yn y Mesur Iawnderau a basiwyd ym mis Rhagfyr 1689.
Yn yr 16eg ganrif, roedd deddfwriaeth wedi uno Cymru a Lloegr. Ym 1707 pasiwyd Deddfau Uno gan Seneddau Lloegr a'r Alban, gan ffurfio Teyrnas Unedig Prydain Fawr. Roedd y Deddfau hyn yn diddymu Senedd yr Alban ac yn trosglwyddo cynrychiolwyr yr Alban i San Steffan.
Creodd Deddf Uno 1800 'Deyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon.' Daeth 'hunanlywodraeth' i Iwerddon yn un o brif faterion diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rhannodd Deddf Llywodraeth Iwerddon 1920 Iwerddon gan wneud Gogledd Iwerddon yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
Ar ddechrau'r 19eg ganrif ym Mhrydain, ychydig iawn o bobl oedd yn cael pleidleisio. Rhoddodd Deddf Ddiwygio 1832 y bleidlais yn y trefi dim ond i ddynion a oedd yn berchen ar eiddo gyda gwerth blynyddol o £10. Ni chafwyd pleidlais i bob oedolyn ym Mhrydain, gan gynnwys hawliau pleidleisio i ferched (ond nid i rai o dan 30), tan fis Chwefror 1918.
Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy'n gyfrifol am bolisi'r llywodraeth ar y celfyddydau, chwaraeon, y loteri genedlaethol, twristiaeth, llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac orielau, darlledu, ffilm, y diwydiant cerddoriaeth, rheoleiddio a rhyddid y wasg, trwyddedu, hapchwarae a'r amgylchedd hanesyddol.
Mae hefyd yn gyfrifol am restru adeiladau hanesyddol a chofrestru henebion, darparu trwyddedau allforio ar gyfer nwyddau diwylliannol, rheoli casgliad celf y llywodraeth ac am Asiantaeth y Parciau Brenhinol.
English Heritage sy'n cynnal ac yn gofalu am amgylchedd hanesyddol Lloegr. Mae'n ceisio helpu pobl i ddeall a gwerthfawrogi pam fod y tirluniau a'r adeiladau hanesyddol o'u cwmpas yn bwysig.
Mae gan y Deyrnas Unedig 23 o safleoedd treftadaeth diwylliannol a naturiol sydd wedi'u rhestru gan Unesco.