Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n dymuno newid eich gyrfa, meithrin sgiliau newydd neu ddim ond cwrdd â phobl newydd, efallai mai dychwelyd i ddysgu yw’r ateb. Gallwch gael cyngor am ddim i'ch helpu i benderfynu ar eich camau nesaf.
Gellir cael mwynhad wrth ddysgu. Mae'n ffordd wych o wneud iawn am unrhyw beth y gwnaethoch golli allan arno yn yr ysgol, neu fe allai eich paratoi ar gyfer eich cam nesaf yn eich gyrfa.
Mae sgiliau’n dod yn fwy pwysig mewn mannau gwaith y dyddiau hyn, a gallai dilyn cwrs agor drysau at ddewisiadau newydd o ran swyddi.
Beth bynnag yw’ch rhesymau dros ddychwelyd i ddysgu, mae llawer o gefnogaeth ar gael i’ch helpu.
Cyngor am ddim dros y ffôn neu e-bost
Mae’r Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd yn cynnig cyngor di-dâl a diduedd dros y ffôn:
Mae'n bosib y bydd gennych hawl i dair sesiwn gynghori dros y ffôn. Bydd y rhain yn eich helpu i bennu'ch amcanion a chadw golwg ar eich cynnydd ac yn eich helpu gyda CVs, cyfweliadau a chynlluniau gweithredu. Yn ogystal â hyn, gallwch gael gwybodaeth am y cymorth ariannol a all fod ar gael i chi.
Hefyd, cewch drefnu i rywun roi galwad ffôn yn ôl i chi ar amser cyfleus, neu anfon eich cwestiwn dros e-bost at gynghorydd dysgu.
Cyngor wyneb-yn-wyneb am ddim: nextstep
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd modd i chi hefyd gael cyngor wyneb-yn-wyneb gan eich gwasanaeth nextstep lleol. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.
Mae’n bur debyg eich bod wedi bod yn meithrin sgiliau fel rhan o fywyd bob dydd
Mae dysgu pethau newydd yn rhan o fywyd pob dydd. Hyd yn oed os nad ydych wedi bod mewn ystafell ddosbarth ers blynyddoedd, mae’n bur debyg eich bod wedi bod yn meithrin y sgiliau y mae eu hangen arnoch i'ch gwneud yn ddysgwr llwyddiannus:
Os nad ydych yn hoff o arholiadau, peidiwch â gadael i hyn eich rhwystro: mae llawer o gyrsiau sy’n gadael i chi ddangos beth yr ydych wedi’i ddysgu mewn ffordd sy’n llai ffurfiol. Mae’r rhain hefyd yn ffyrdd o asesu:
Cofiwch ei bod yn bosib y gallech gael cymorth ariannol – gan gynnwys cymorth gyda chostau gofal plant.
Bydd llawer o gyrsiau’n rhoi cyfle i chi astudio mewn ffordd sy’n addas i chi, felly gallwch ddysgu o gwmpas eich ymrwymiadau eraill. Gallech ystyried cwrs sy’n gadael i chi wneud rhywfaint neu’r cyfan o’ch gwaith gartref. Gelwir y math yma o gwrs yn gwrs ‘hunan-astudio’, ‘dysgu o bell’, ‘dysgu agored’ neu ‘e-ddysgu’.
Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion nifer sylweddol o fyfyrwyr ‘hŷn’, a byddant yn aml yn ystyried ystod o gymwysterau wrth edrych ar geisiadau. Efallai y gwelwch hefyd i chi gael eich canmol am brofiad gwaith blaenorol.
Os nad yw eich cymwysterau'n ateb y gofynion mynediad safonol ar gyfer addysg uwch, fe allech ddilyn cwrs Mynediad.
Does dim rhaid i chi gael llawer o gymwysterau blaenorol i ddilyn cwrs Mynediad, a bydd yn caniatáu i chi feithrin sgiliau astudio, gwybodaeth a hyder.
Cofiwch y gallwch astudio cwrs addysg uwch mewn nifer o golegau lleol a hefyd mewn prifysgolion. Gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr - gan gynnwys, mewn rhai achosion, cymorth ariannol ychwanegol os oes gennych blant.
Dod o hyd i gefnogaeth gyrfaoedd a dysgu wyneb-yn-wyneb gan eich swyddfa nextstep leol