Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallai gwella'ch sgiliau cyfrifiadurol eich helpu i gadw mewn cysylltiad â'ch ffrindiau a'ch teulu, i ddringo yn y gwaith neu i'ch helpu â dysgu pellach. Dewiswch o amrywiaeth o gyrsiau, o sesiynau blasu ar-lein am ddim i gyrsiau sy'n arwain at gymwysterau.
Gall datblygu eich sgiliau cyfrifiadurol neu dechnoleg gwybodaeth (TG) agor y drws i amrywiaeth o adnoddau a gwasanaethau, megis bancio neu siopa ar-lein.
Os ydych yn dymuno symud ymlaen i addysg bellach, gallai mynd i'r afael â chyfrifiaduron a'r rhyngrwyd eich helpu i arbed amser a rhoi cyfle i chi gael gafael ar adnoddau ar-lein yn rhad ac am ddim, a allai'ch helpu gyda gwaith cwrs a gwaith ymchwil.
Mae cyrsiau cyfrifiadurol ar gael ar bob lefel, ar gyfer dechreuwyr ac uwch. Mae nifer o gyrsiau yn hyblyg, felly gallwch ddysgu wrth eich pwysau ar adeg sy'n hwylus i chi.
Yn aml iawn gelwir y cyrsiau'n gyrsiau TG neu TGCh (Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu). Gallwch hefyd ddilyn cyrsiau penodol ar bynciau megis defnyddio'r rhyngrwyd neu e-bost, a dysgu sut mae cyffwrdd-deipio.
Defnyddiwch wasanaeth chwilio am gwrs Cross & Stitch i bori drwy gyrsiau cyfrifiadurol a TG yn eich ardal chi.
Mae digon o gymorth a chyngor ar gael i'ch helpu i ddewis cwrs cyfrifiadurol sy'n addas i chi.
I gael arweiniad di-dâl a diduedd dros y ffôn, ffoniwch y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd:
Hefyd, cewch drefnu i rywun roi galwad ffôn yn ôl i chi ar amser cyfleus, neu anfon eich cwestiwn dros e-bost at gynghorydd dysgu
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd modd i chi hefyd gael cyngor wyneb-yn-wyneb gan eich gwasanaeth nextstep lleol. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.
Cymhwyster gan Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol yw'r Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL)
Gallwch wneud y cwrs mewn canolfan ddysgu neu fel cwrs dysgu o bell hyblyg. Mae'n cynnwys saith modiwl:
Mae’r cwrs ECDL Uwch yn cynnwys:
Mae'r cwrs Llythrennedd Cyfrifiadurol a Thechnoleg Gwybodaeth (CLAIT) yn gymhwyster sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol. Mae ar gael ar dair lefel:
Mae'r cwrs yn ymdrin â phrosesu geiriau, taenlenni a chronfeydd data. Cewch ddewis gwneud yr unedau yn unigol, cyfuno'r unedau i weithio tuag at gymhwyster neu wneud cyfuniad o unedau sy'n addas ar eich cyfer chi.
Gallwch gael cyngor am ddefnyddio cyfrifiadur yn eich canolfan UK online. Gall y staff roi arweiniad i chi ynghylch unrhyw beth, o ddefnyddio'r llygoden a'r bysellfwrdd i gymryd rhan mewn arwerthiant ar-lein.
Gall canolfannau UK online hefyd fod yn lleoedd da i ddilyn cwrs cyfrifiadurol: mae digonedd o gyngor ar gael bob amser.
Hefyd, mae canolfannau UK online yn darparu mynediad i'r rhyngrwyd yn rhad ac am ddim neu am gost isel. Yn ogystal â hyn, mae'n werth edrych i weld a allwch gael mynediad i'r rhyngrwyd am ddim yn eich llyfrgell leol
Mae canolfannau UK online hefyd yn lleoedd gwych i ddechreuwyr pur allu dechrau mynd ar-lein. Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir gwneud hyn yn rhad ac am ddim.
Mae miliynau o bobl sy'n dal heb gael cyfle i fanteisio ar y rhyngrwyd. Os oes angen cymorth ar un o'ch ffrindiau neu aelod o'ch teulu i ddechrau arni, dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut y gall eich canolfan UK online leol helpu.
Gall gwefan y BBC eich helpu i ddysgu mwy am Dechnoleg Gwybodaeth, o ddefnyddio'r rhyngrwyd ac e-bost i osgoi firysau cyfrifiadur.