Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae faint o help sydd ar gael i chi drwy Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn seiliedig ar asesiad o'ch anghenion personol chi - hyd at uchafswm y lwfans. Mae’r terfynau amrywiol â gwahanol lwfansau. Mae’r dudalen hon yn cynnig canllaw i faint allwch chi ei gael os ydych yn fyfyriwr o Loegr.
Nod Lwfansau Myfyrwyr Anabl yw helpu'r rhai sydd ag anabledd, cyflwr iechyd meddygol neu anhawster dysgu penodol i astudio ar yr un sail â myfyrwyr eraill. Felly mae faint o arian gewch chi yn dibynnu ar eich anghenion fel unigolyn - hyd at uchafswm y lwfans.
Pan fyddwch chi'n gwneud cais, bydd eich awdurdod lleol yn gofyn am gael asesiad o'ch anghenion er mwyn penderfynu pa gymorth yn union y bydd arnoch ei angen. Bydd yr asesiad hwn yn cael ei gynnal gan rywun sydd â phrofiad arbenigol mewn canolfan asesu annibynnol, neu mewn canolfan o fewn eich coleg neu'ch prifysgol. Efallai y gellir talu am yr asesiad anghenion drwy'ch Lwfansau Myfyrwyr Anabl.
Os ydych chi'n fyfyriwr rhan-amser, gall 'dwyster' eich cwrs - faint o amser yr ydych chi'n ei dreulio wrth astudio, o'i gymharu â myfyriwr amser llawn - hefyd effeithio ar faint o arian gewch chi.
Ni fydd incwm y cartref yn cael ei ystyried wrth gyfrifo faint o Lwfans Myfyrwyr Anabl y byddwch yn gymwys i'w dderbyn. Caiff ei dalu ar ben unrhyw gymorth yr ydych chi'n ei gael drwy'r pecyn cyllid myfyrwyr arferol - ac nid oes rhaid i chi ei ad-dalu.
Mae'r tablau isod yn dangos uchafswm y lwfansau ar gyfer myfyrwyr addysg uwch amser llawn a rhan-amser (gan gynnwys myfyrwyr y Brifysgol Agored a rhai eraill sy'n dysgu o bell).
Er mwyn rhoi cymorth pan fo lefel yr anghenion yn uchel y telir uchafswm y lwfans, felly bydd y mwyafrif yn cael llai na hynny.
Ar ben y lwfansau a restrir yn y tabl hwn, gallwch wneud cais am 'arian rhesymol i'w wario' ar gostau teithio ychwanegol ar gyfer y flwyddyn academaidd.
Yr uchafswm ar gyfer myfyrwyr addysg uwch amser llawn a rhan-amser: 2010/11 neu 2009/10
Math o lwfans |
Myfyrwyr amser llawn |
Myfyrwyr rhan-amser |
---|---|---|
Cyfarpar arbenigol |
£5,161 am y cwrs i gyd |
£5,161 am y cwrs i gyd |
Cynorthwy-ydd anfeddygol |
£20,520 y flwyddyn |
£15,390 y flwyddyn (yn dibynnu ar ddwyster y cwrs) |
Lwfansau Myfyrwyr Anabl Cyffredinol |
£1,724 y flwyddyn |
£1,293 y flwyddyn (yn dibynnu ar ddwyster y cwrs) |
Gall myfyrwyr ôl-radd (gan gynnwys myfyrwyr y Brifysgol Agored a myfyrwyr eraill sy'n astudio o bell) wneud cais am un lwfans i dalu am yr holl gostau.
Uchafswm y lwfans ar gyfer 2010/11 neu 2009/10 yw £10,260.
Bydd yr arian un ai'n cael ei talu i'ch cyfrif banc neu'n uniongyrchol i ddarparwr y gwasanaethau - er enghraifft eich prifysgol, eich coleg neu'ch darparwr offer.
Nid yw Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn cael eu cyfrif fel incwm wrth gyfrifo a ydych chi'n gymwys i dderbyn budd-daliadau neu gredydau treth.
Os yw'ch anabledd yn dod yn fwy difrifol yn ystod eich cwrs, gallwch wneud cais i gael asesiad anghenion arall. Cysylltwch â'r sefydliad a ddeliodd â’ch cais er mwyn trefnu hyn.
Byddwch yn dal yn gymwys i dderbyn Lwfansau Myfyrwyr Anabl os byddwch chi'n trosglwyddo'ch astudiaethau i gwrs arall. Ond os bydd angen offer gwahanol arnoch a'ch bod eisoes wedi defnyddio'ch lwfans offer, ni fydd yn bosib i chi gael mwy.