Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Myfyrwyr a'r Dreth Gyngor

Os ydych chi'n byw yn un o neuaddau'r brifysgol yr ydych yn astudio ynddi, neu mewn tŷ lle mae pawb yn cyfrif fel myfyriwr amser llawn at ddibenion y Dreth Gyngor, cewch eich eithrio rhag talu'r Dreth Gyngor. Mae'r rheolau'n wahanol os ydych chi'n byw gyda rhywun nad yw'n fyfyriwr amser llawn - ond mae dal yn bosib y caiff eich aelwyd ddisgownt.

Os dim ond gyda myfyrwyr amser llawn eraill yr ydych yn byw: eithrio rhag talu'r Dreth Gyngor

Os dim ond myfyrwyr amser llawn sy'n byw mewn tŷ bydd yr aelwyd honno'n cael ei heithrio rhag talu'r Dreth Gyngor. Felly, os ydych chi'n byw yn un o neuaddau'r brifysgol - neu mewn tŷ lle mae pawb yn fyfyriwr amser llawn - ni ddylech gael bil.

Os ydych chi'n meddwl y dylech gael eich eithrio ond yn dal i gael bil, dilynwch y ddolen isod i weld sut mae gwneud cais i'ch cyngor lleol am gael eich eithrio.

Canfod a ydych chi'n fyfyriwr amser llawn at ddibenion y Dreth Gyngor

Fel arfer, byddwch yn cael eich ystyried yn fyfyriwr amser llawn at ddibenion y Dreth Gyngor:

  • os ydych yn dilyn cwrs mewn prifysgol neu goleg, a hwnnw'n para o leiaf un flwyddyn academaidd - cyn belled â'ch bod yn mynychu am o leiaf 24 wythnos o'r flwyddyn ac yn astudio am o leiaf 21 awr yr wythnos yn ystod y tymor, neu
  • os ydych yn iau nag 20 oed a bod eich cwrs yn arwain at gymhwyster hyd at (ond ddim uwchlaw) Safon Uwch neu gymhwyster cyfatebol - cyn belled â bod y cwrs yn para mwy na thri mis ac yn golygu mwy na 12 awr o astudio bob wythnos

Ond nid yw pob cwrs yn cyfrif at statws 'myfyriwr amser llawn'. Er enghraifft, nid yw fel arfer yn berthnasol i ddysgu o bell na dosbarthiadau nos. Hefyd, ni chewch eich ystyried yn fyfyriwr amser llawn os ydych yn dilyn cwrs sy'n berthnasol i'ch swydd - megis rhyddhau am ddiwrnod.

Rhaid eich bod hefyd yn astudio mewn 'man addysgu penodedig'. Bydd hyn yn cynnwys prifysgolion sefydledig a'r rhan fwyaf o golegau. Ond, yn y pen draw, eich cyngor lleol fydd yn penderfynu - os oes unrhyw amheuaeth, holwch nhw.

Os ydych chi'n byw gyda rhywun nad yw'n fyfyriwr amser llawn

Codir y Dreth Gyngor yn ôl 'annedd' neu dŷ, a bydd pob tŷ yn cael un bil Treth Gyngor.

Os oes rhywun nad yw'n fyfyriwr amser llawn yn byw yn y tŷ, bydd yr aelwyd yn cael bil, ond efallai y bydd yn gymwys i gael gostyngiad oddi ar y swm llawn.

Canfod pwy sydd wedi'i 'gyfrif' at ddibenion y Dreth Gyngor

Mae bil llawn y Dreth Gyngor yn seiliedig ar ddau oedolyn yn byw mewn un tŷ - os oes llai na dau, gall yr aelwyd gael gostyngiad.

At ddibenion y Dreth Gyngor, nid yw rhai mathau o bobl yn 'cyfrif' at nifer yr oedolion mewn tŷ - cyfrifir y bil fel pe na baent yn byw yno. Mae hyn yn cynnwys unigolion sydd:

  • yn cael eu hystyried yn fyfyrwyr amser llawn at ddibenion y Dreth Gyngor (gweler yr adran uchod, 'Canfod a ydych chi'n fyfyriwr amser llawn at ddibenion y Dreth Gyngor')
  • yn dilyn cwrs a fydd yn arwain at gofrestriad cyntaf fel nyrs neu fydwraig
  • yn dilyn Prentisiaeth a fydd yn arwain at gymhwyster sy'n cael ei gydnabod gan yr Asiantaeth Datblygu Cymwysterau a Chwricwlwm - cyn belled nad ydynt yn ennill mwy na swm penodol (£195 yr wythnos ar hyn o bryd)

yn iau na 25 oed ac yn dilyn hyfforddiant amser llawn sy'n cael ei gydnabod, a hwnnw'n cael ei ariannu gan y Cyngor Dysgu a Sgiliau

Gostyngiadau yn y Dreth Gyngor

Bydd tai lle mae pawb sy'n byw yno'n fyfyrwyr amser llawn yn cael eu heithrio rhag talu'r Dreth Gyngor ac ni fyddant yn cael bil. Gweler yr adran uchod - 'Os dim ond gyda myfyrwyr amser llawn eraill yr ydych yn byw: eithrio rhag talu'r Dreth Gyngor' - i gael gwybod mwy am eithrio.

Os oes llai na dau oedolyn sy'n cael eu cyfrif at ddibenion y Dreth Gyngor yn byw yn eich tŷ, bydd yn gymwys i gael gostyngiad ar y swm llawn. Os dim ond un sy'n byw yno, cewch ostyngiad o 25 y cant. Os nad oes dim oedolion sy'n cael eu cyfrif yn y tŷ - ond nad yw wedi'i eithrio - bydd yn gymwys i gael gostyngiad o 50 y cant.

Cofiwch, efallai y bydd yr aelwyd yn gymwys i gael mathau eraill o gymorth ariannol ar ben y gostyngiad i fyfyrwyr.

Pwy sy'n gyfrifol am dalu'r bil?

Er y gall y rhai sy'n byw yn y tŷ benderfynu ymysg ei gilydd faint mae pawb yn ei gyfrannu, mae'r gyfraith yn nodi pwy sy'n gyfrifol am dalu'r bil.

Bydd yr unigolion sy'n byw yn y tŷ yn cael eu rhannu'n gategorïau - perchen-feddiannydd, tenant ac ati - ac ar gyfer y rhan fwyaf o aelwydydd yr unigolyn agosaf at ben y rhestr sy'n gyfrifol. Gallwch ddod o hyd i'r rhestr hon yn 'Y Dreth Gyngor - pwy sy'n talu a faint a delir'.

Os oes dau neu ragor o aelodau'r tŷ yn yr un categori, byddant fel arfer yn rhannu'r cyfrifoldeb dros dalu'r bil i gyd.

Ond mae'r rheolau'n wahanol os ydych chi'n cael eich ystyried yn fyfyriwr amser llawn neu os nad ydych yn cael eich 'cyfrif' gan eich bod mewn addysg neu'n dilyn hyfforddiant. Yn yr amgylchiadau hyn, ni allwch fod yn gyfrifol heblaw eich bod chi - a chi'n unig - mewn categori sy'n uwch yn y rhestr na phob aelod arall yn eich tŷ (er enghraifft, eich bod chi'n berchen-feddiannydd a phawb arall yn denantiaid).

Gwneud cais am ostyngiad i fyfyrwyr

I gael disgownt myfyriwr ar eich Treth Gyngor, bydd angen i chi gael llythyr swyddogol gan eich coleg neu'ch prifysgol yn rhoi manylion amdanoch chi ac am eich cwrs. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod beth fydd ei angen ar eich cyngor lleol i brosesu eich cais - a sut mae gwneud cais am ddisgownt.

Allweddumynediad llywodraeth y DU