Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n fyfyriwr a bod gennych swydd, bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol os ydych chi'n ennill mwy na swm penodol. Bydd hyn hefyd yn berthnasol os byddwch yn gweithio dramor yn ystod eich gwyliau, ac os ydych chi'n fyfyriwr o dramor sy'n gweithio yn y DU.
Efallai y bydd angen i fyfyrwyr sy'n gweithio tra'u bod yn astudio dalu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol. Gall y dudalen hon eich helpu i gael gwybod:
Os ydych chi'n gweithio i gyflogwr yn ystod tymor y coleg, bydd unrhyw Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol sy'n ddyledus yn cael ei dynnu o'ch cyflog cyn i chi ei gael. Gelwir y system hon yn system Talu Wrth Ennill (PAYE).
Gall pawb ennill swm penodol cyn ei bod yn rhaid iddynt ddechrau talu Treth Incwm - dyma'r lwfans personol (£6,475 ar gyfer blwyddyn dreth 2009-2010).
Ar gyfer blwyddyn dreth 2009-10, byddwch yn dechrau talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn ennill mwy na £110 yr wythnos (y trothwy enillion). I gael gwybod mwy am Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol, dilynwch y dolenni isod.
Pan fyddwch yn gadael swydd Talu Wrth Ennill, bydd eich cyflogwr yn rhoi Ffurflen P45 i chi. Bydd angen i chi gadw hon yn ddiogel a'i rhoi i'ch cyflogwr nesaf - i wneud yn siŵr na fyddwch yn talu gormod o dreth yn y dyfodol.
Os ydych chi'n fyfyriwr amser llawn sy'n gweithio yn ystod y gwyliau, efallai na fydd angen i chi dalu treth drwy'r cynllun Talu Wrth Ennill (byddwch yn dal yn talu Yswiriant Gwladol os bydd y swm a enillwch yn fwy na'r trothwy wythnosol).
Gallwch ofyn i'ch cyflogwr am ffurflen P38(S) (neu lwytho'r ffurflen isod) os yw pob un o'r canlynol yn berthnasol:
Os oes gennych swydd ran amser yn ystod tymor y coleg, allwch chi ddim defnyddio ffurflen P38(S) dim ond ar gyfer eich swydd yn ystod y gwyliau. Bydd eich cyflogwr yn gofalu am y gwaith papur er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych chi'n talu gormod o dreth.
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi talu gormod o dreth incwm, defnyddiwch y gwasanaeth gwirio treth myfyrwyr i weld a allech gael ad-daliad.
Os ydych chi'n gweithio i chi'ch hun, fydd gennych chi ddim cyflogwr i ofalu am dreth ac Yswiriant Gwladol ar eich rhan.
Yn hytrach na hyn bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesu bob blwyddyn yn datgan eich incwm a'ch treuliau.
Bydd hyn yn caniatáu i Gyllid a Thollau EM gyfrifo faint o dreth y bydd angen i chi ei dalu.
Mae'n rhaid i chi gofrestru'n hunangyflogedig o fewn tri mis i gychwyn gweithio. I wneud hyn, ffoniwch y llinell gymorth i bobl sydd newydd fynd yn hunangyflogedig.
I gael gwybod mwy am dreth ac Yswiriant Gwladol ar gyfer pobl hunangyflogedig, a chael gwybod sut mae llenwi ffurflen dreth, dilynwch y dolenni isod.
Os ydych chi'n byw ac yn astudio yn y DU fel arfer ond yn gweithio dramor yn ystod y gwyliau, at ddibenion treth, byddwch yn dal i gael eich cyfrif fel preswylydd yn y DU ar gyfer y flwyddyn dreth honno. Bydd angen i chi dalu treth yn y DU ar unrhyw swm y byddwch yn ei ennill dramor sy'n uwch na'r lwfans personol.
Fodd bynnag, os yw'ch cyflogwr dramor hefyd yn tynnu treth o'ch cyflog, ac os nad ydych yn gallu hawlio treth yn ôl yn uniongyrchol gan yr awdurdodau tramor, mae'n debygol y gallwch hawlio didyniad neu gredyd yn y DU.
Gofynnwch i'ch Swyddfa Dreth a yw hyn yn berthnasol i chi.
Os ydych chi fel arfer yn byw yn y DU ac yna'n mynd dramor i weithio i gyflogwr o'r DU bydd gofyn i chi dalu Yswiriant Gwladol pan fyddwch chi dramor.
Os ydych chi'n gweithio dramor i gyflogwr tramor ni fyddwch fel rheol yn talu Yswiriant Gwladol yn y DU, ond efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cyfraniadau dramor. Weithiau gall y rhain gyfrif at fudd-daliadau Nawdd Cymdeithasol yn ôl yn y DU.
Os byddwch chi'n gweithio yn y DU tra'ch bod yn astudio, byddwch fel rheol yn talu treth ac Yswiriant Gwladol y DU fel yr eglurwyd uchod.
Fodd bynnag, efallai y bydd gennych hawl i ad-ennill treth yr ydych wedi'i dalu pan fyddwch yn gadael drwy lenwi ffurflen P85 a'i hanfon i'ch Swyddfa Dreth - gall eich cyflogwr roi manylion i chi am hyn.