Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Drefn Glirio: llefydd munud olaf mewn prifysgol neu goleg

Os na fyddwch wedi cael y graddau oedd eu hangen arnoch ar gyfer eich dewis cadarn neu eich dewis wrth gefn, mae’r drefn ‘Glirio’ yn rhoi cyfle arall i chi sicrhau lle mewn sefydliadau sydd â llefydd gwag munud olaf.

Canlyniadau eich arholiadau

Bydd y drefn glirio'n mynd rhagddi o ganol mis Gorffennaf tan ganol mis Medi

Mae UCAS yn rhoi canlyniadau arholiadau i brifysgolion a cholegau, fel y gallant weld a ydych wedi cael y graddau oedd eu hangen arnoch ai peidio.

Os mai dim ond o fymryn bach rydych chi wedi methu cael y graddau angenrheidiol, mae'n bosib y bydd y brifysgol neu'r coleg sy'n ddewis cyntaf i chi'n dal i fod yn barod i gadarnhau eich lle.

Mae'n bosib y gwelwch chi fod eich dewis cyntaf wedi'ch gwrthod ond eich bod wedi cael eich derbyn gan eich dewis wrth gefn. Trafodwch eich dewisiadau gyda'r bobl sy'n eich 'nabod chi orau - eich teulu, eich ffrindiau a'ch athrawon neu eich darlithwyr.

Sut mae’r drefn Glirio yn gweithio

Os bydd eich dewis cyntaf a'ch dewis wrth gefn yn eich gwrthod, gallwch ddefnyddio'r drefn 'Glirio' i ddod o hyd i le arall.

Os ydych chi'n gymwys, gallwch weld fotwm ‘Ychwanegu Dewis Clirio’ ar eich Rhif Clirio ar eich sgrin Trywydd. Os nad ydych wedi cyflwyno cais UCAS eto, bydd angen i chi wneud hynny cyn y gallwch ymuno â’r drefn Glirio.

Chwilio am gwrs prifysgol drwy’r drefn Glirio

O'r diwrnod pan gyhoeddir canlyniadau arholiadau safon Uwch ym mis Awst, bydd llefydd gwag ar gyrsiau'n cael eu hysbysebu ar wefan UCAS ac yn y wasg genedlaethol.

Ar ôl edrych ar lefydd gwag, dylech siarad â staff derbyniadau unrhyw brifysgol neu goleg â llefydd ar gael ar gyrsiau y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Dylech chi roi eich Rhif Clirio iddynt hefyd.

Bydd y staff yn gallu dweud wrthych a ydynt yn fodlon cynnig lle i chi. Os ydynt, ac os dewiswch dderbyn y cynnig, dylech lenwi manylion y sefydliad a’r cwrs ar Drywydd.

Gallwch dim ond llenwi manylion am un dewis. Os y bydd prifysgol neu goleg yn cadarnhau eich lle yn y Drefn Glirio, byddwch wedi ymrwymo i gymryd y lle hwnnw ac ni allwch geisio lle yn rhywle arall.

Fodd bynnag, os ydy’r prifysgol neu goleg yn dewis ddim cynnig lle i chi yn y Drefn Glirio, bydd y botwm ‘Ychwanegu Dewis Clirio’ yn ail-ymddangos ar Drywydd a byddwch yn gallu gwneud cais am gwrs arall.

Diwrnodau agored

Mae'n bosib y bydd gan brifysgolion a cholegau ddiwrnodau agored neu gyfleoedd eraill i chi ymweld, gweld y cyfleusterau a chyfarfod â'r staff.

Mae'n werth cymryd y cyfleoedd hyn. Mae angen i chi sicrhau y byddwch chi'n hapus i dreulio'r ychydig flynyddoedd nesaf o'ch bywyd yn astudio yno.

Cymorth ariannol

Os byddwch yn derbyn lle drwy’r drefn Glirio, dylech roi gwybod i’r bobl sy’n delio â’ch cais ar gyfer cyllid myfyrwyr.

Eich awdurdod lleol fydd hwn yn y rhan fwyaf o achosion. Gallant wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer unrhyw gymorth ariannol y mae gennych hawl iddo.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU