Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Newid eich cais UCAS

Ar ôl i chi ymgeisio am le drwy UCAS, gallwch weld sut mae'ch cais yn dod yn ei flaen ar-lein. Os bydd eich amgylchiadau'n newid neu os byddwch chi'n newid eich meddwl am eich cyrsiau, rhowch wybod i UCAS o fewn 14 diwrnod o dderbyn eich llythyr croeso.

Gwneud yn siŵr bod manylion eich cais i UCAS yn iawn

Unwaith i chi gyflwyno'ch cais i UCAS, cewch lythyr croeso gyda manylion y cyrsiau rydych wedi gwneud cais amdanyn nhw. Rhowch wybod i UCAS os yw'r manylion yn anghywir.

Mae'r llythyr croeso'n rhoi Rhif Adnabod Personol i chi i gael mynediad at ‘Trywydd’, un o nodweddion gwefan UCAS sy'n gadael i chi ddilyn trywydd eich cais. Hefyd bydd angen yr enw defnyddiwr a’r cyfrinair yr oeddech wedi defnyddio i wneud cais i gael mynediad at Trywydd.

Byddwch yn gallu gweld ar-lein pa brifysgolion sydd wedi cynnig lle i chi, ac yna, dderbyn neu wrthod pob cynnig ar-lein. Os byddwch yn cyflwyno'ch cais yn yr ychydig fisoedd cyntaf, mae'n bosib y cewch chi gynnig cyn gynted â mis Rhagfyr.

Diweddaru eich manylion

Os byddwch chi'n newid eich cyfeiriad post neu e-bost, gallwch newid eich manylion drwy ddefnyddio Trywydd.

Os oes unrhyw newid ym mhynciau eich arholiadau neu’ch bwrdd arholi, ysgrifennwch at UCAS, oherwydd allwch chi ddim newid y pethau hyn ar-lein.

Newid eich prifysgol neu'ch coleg

Cewch newid eich dewisiadau o brifysgolion, colegau a chyrsiau am hyd at 14 diwrnod ar ôl prosesu'ch cais.Ar ôl hynny, fel arfer ni fyddwch chi'n gallu newid eich dewisiadau, er bod modd caniatáu hyn weithiau os oes gan fyfyrwyr broblemau personol neu os yw amgylchiadau eu teulu wedi newid. Os yw hyn yn wir, fe ddylai eich ysgol neu'ch canolwr ysgrifennu at UCAS i esbonio'ch sefyllfa.

Os byddwch chi'n dewis llai na pum prifysgol neu goleg ar eich ffurflen gais, mae'n bosib ychwanegu mwy o ddewisiadau hyd at ddiwedd mis Mehefin os nad ydych chi wedi derbyn cynigion mewn man arall

Newid eich cwrs

Os ydych chi'n anhapus gyda'ch dewis, mae'n bosib y gallwch chi newid eich cwrs neu ohirio dechrau'r cwrs. Yn y naill achos neu'r llall, ysgrifennwch yn syth at y brifysgol neu'r coleg. Byddan nhw'n rhoi gwybod i UCAS am unrhyw newid.

Cyllid myfyrwyr

Os byddwch chi'n newid eich prifysgol, coleg neu gwrs ar ôl cyflwyno cais am fenthyciad myfyrwyr, bydd rhaid i chi roi gwybod i’r bobl berthnasol. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylech roi gwybod i'ch awdurdod lleol gyntaf.

Tynnu'ch cais yn ôl

Os ydych chi’n awyddus i dynnu’ch cais yn ôl, ffoniwch UCAS. Os byddwch chi’n tynnu’ch cais yn ôl, chewch chi ddim gwneud cais arall yn ystod y flwyddyn academaidd honno, a fyddwch chi ddim ychwaith yn gymwys ar gyfer y system Glirio

Os byddwch chi’n tynnu’n ôl oherwydd problemau personol a’ch bod yn dymuno ailgyflwyno cais am yr un flwyddyn academaidd, ysgrifennwch at UCAS, gan roi manylion llawn eich amgylchiadau. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol cewch ailgyflwyno cais.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU