Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Llenwi’ch ffurflen gais UCAS

Gwneir y rhan fwyaf o geisiadau am leoedd amser llawn mewn prifysgol neu goleg drwy gyfrwng UCAS. Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r dyddiad cau perthnasol - rhaid ymgeisio am rai cyrsiau a cholegau'n gynt nag eraill.

Cofrestru eich cais

Gwneud cais am 2010/11 nawr

Gallwch wneud cais i UCAS am gyrsiau sy’n dechrau o fis Medi 2010

Dim ond ar-lein y ceir gwneud ceisiadau i UCAS. Er mwyn cofrestru trwy ysgol, goleg neu sefydliad gyrfaoedd, bydd yn rhaid i chi gael eu 'gair hud'. Os ydych chi'n gwneud cais fel unigolyn, nid oes angen un arnoch chi. Ar ôl cofrestru, fe gewch chi enw defnyddiwr a gofynnir i chi lenwi cyfrinair eich hunain.

Gallwch gofrestru yn yr haf cyn i chi wneud eich cais ar-lein. Y cynharaf y gallwch gyflwyno cais wedi'i orffen yw'r mis Medi cyn i chi ddechrau eich cwrs, oni bai eich bod yn gwneud cais am fynediad wedi'i ohirio (er enghraifft, gwneud cais yn ystod cylch 2010 ar gyfer mynediad yn 2011).

Hyd yn oed os dewiswch ohirio eich lle tan 2011, bydd angen i chi fodloni unrhyw amodau (er enghraifft, graddau cymhwyso) erbyn diwedd mis Awst 2010.

Llenwi ffurflen gais UCAS

Mae saith adran i'r ffurflen gais: manylion personol; gwybodaeth ychwanegol (i ymgeiswyr o'r DU yn unig); dewisiadau, addysg, cyflogaeth, datganiad personol a geirda. Yn yr adran dewisiadau, cewch restru hyd at bump o gyrsiau.

Mae naidlenni ar y ffurflen gais sy'n rhestru prifysgolion a cholegau addysg uwch yn nhrefn yr wyddor, yn ogystal â chodau'r cyrsiau, felly'r cyfan y bydd rhaid i chi ei wneud yw clicio a dewis.

Adrannau datganiad personol a chyflogaeth

Dylai eich datganiad personol egluro pam fod gennych ddiddordeb yn y cyrsiau rydych wedi gwneud cais amdanynt, a’r hyn rydych yn gobeithio ei wneud ar ôl i chi orffen astudio.

Yn yr adran swyddi, gallwch restru eich swyddi rhan-amser neu swyddi haf.

Canolwyr

Wedi i chi lenwi pob adran o'ch ffurflen gais, cliciwch ar 'Anfon at ganolwr' er mwyn i'r sawl sy'n rhoi geirda i chi edrych i weld bod eich manylion yn gywir ac ychwanegu eu geirda nhw. Os nad ydych chi yn yr ysgol neu’r coleg a'ch bod yn gwneud cais annibynnol, pastiwch eirda eich canolwr ar y ffurflen gais ar-lein.

Y ffi ar gyfer gwneud cais drwy UCAS a'r dyddiad cau

Mae'n well gwneud cais mewn da bryd cyn y dyddiad cau

Ar gyfer 2010, mae'n costio £19 i wneud cais drwy UCAS, neu £9 os mai dim ond am un cwrs y byddwch chi'n gwneud cais.

Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau, bydd angen i chi anfon eich cais at UCAS erbyn 15 Ionawr er mwyn cael eich ystyried ‘ar amser’. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi wneud cais erbyn 15 Hydref os ydych yn astudio meddygaeth, deintyddiaeth, meddygaeth filfeddygol, gwyddoniaeth filfeddygol, neu os ydych yn gwneud cais i brifysgolion Rydychen neu Gaergrawnt.

Y dyddiad cau ar gyfer rhai cyrsiau celf a dylunio yw 24 Mawrth.

Pa gwrs bynnag y byddwch chi'n gwneud cais amdano, mae UCAS yn cynghori myfyrwyr i ymgeisio mewn da bryd cyn y dyddiad cau. Fodd bynnag, gallwch dal gwneud cais drwy UCAS i fyny at ddiwedd Mehefin. Efallai y bydd prifysgolion a cholegau yn ystyried eich cais, ond mae’n bosib y bydd y cyrsiau mwyaf poblogaidd yn llawn. Os ydych chi’n gwneud cais ar ôl ddiwedd Mehefin, byddwch yn dechrau’r drefn Glirio yn awtomatig.

Eich Rhif Adnabod a'ch cyfrinair

Unwaith y bydd UCAS wedi prosesu eich cais, byddwch yn cael Rhif Adnabod. Gallwch ddefnyddio hwn, ynghyd â’ch enw defnyddiwr a chyfrinair, i olrhain hynt eich cais. Cewch hefyd lythyr croeso yn y post.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Wedi i chi gyflwyno'ch cais i UCAS, gallwch wneud cais am help ariannol cyn gynted ag y bydd ceisiadau am gyllid myfyrwyr yn agor. Does dim rhaid i chi aros am gynnig.

Gweler ’Cyllid myfyrwyr’ i gael rhagor o wybodaeth am gymorth ariannol, a’r ‘Canllaw ar dderbyniadau i addysg uwch drwy UCAS’ i gael manylion am yr hyn sy’n digwydd unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais.

Allweddumynediad llywodraeth y DU