Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'n siŵr y byddwch yn gwneud profiad gwaith ryw dro yn ystod Blwyddyn 10 neu Flwyddyn 11. Mae'n gyfle gwych i gael blas ar swydd ac i weld pa sgiliau fydd arnoch eu hangen ar gyfer bywyd gwaith.
Mae lleoliad gwaith yn gyfle i chi dreulio cyfnod o amser y tu allan i'r ystafell ddosbarth, yn dysgu am swydd neu faes gwaith arbennig.
Yn ystod eich lleoliad, byddwch yn gallu gweld pa sgiliau y bydd cyflogwyr yn chwilio amdanynt pan fyddant yn cyflogi rhywun i lenwi swydd.
Cewch hefyd gyfle i roi hwb i'ch hunanhyder ac i wella'ch sgiliau cyfathrebu. Bydd hyn yn eich helpu i weithio'n well gyda phobl eraill mewn addysg bellach neu addysg uwch, yn ogystal ag yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Gydag ysgolion, dim ond ym Mlwyddyn 10 ac ym Mlwyddyn 11 y gellir gwneud lleoliadau gwaith. Ni fydd modd i chi wneud lleoliad gwaith gyda'ch ysgol nes eich bod yn cyrraedd yr oed hwn.
Gallai lleoliad profiad gwaith olygu gweithio'n llawn amser mewn busnes neu fudiad am rhwng un a thair wythnos, neu dreulio diwrnod yr wythnos yn y gweithle dros gyfnod o nifer o fisoedd.
Os ydych chi'n gwneud pwnc TGAU ymarferol fel peirianneg neu gelf a dylunio, gallai lleoliad ffurfio rhan o'ch cwrs. Ac mae'r cymhwyster Diploma newydd - ar gael mewn rhai ysgolion a cholegau dethol o fis Medi 2008 ymlaen - yn cynnwys o leiaf ddeg diwrnod o brofiad gwaith.
Mae profiad gwaith estynedig yn rhan ganolog o'r rhaglen Prentisiaeth Ifanc - rhaglen sydd bellach yn cael ei chynnig gan fwy a mwy o ysgolion. Byddwch yn astudio'r cwricwlwm cyffredin yn yr ysgol, ac yn ystod Blynyddoedd 10 ac 11 byddwch yn treulio 50 diwrnod yn ennill profiad gyda chyflogwr, cwmni hyfforddi neu goleg. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn gweithio tuag at ennill cymwysterau sy'n gysylltiedig â gwaith megis cymwysterau NVQ.
Os byddwch yn cwblhau'r rhaglen, mae'n bosib y gallwch symud ymlaen yn gynt tuag at ennill Prentisiaeth amser llawn yn yr ardal o'ch dewis. Fodd bynnag, gallech hefyd benderfynu aros mewn addysg amser llawn, naill ai yn yr ysgol neu mewn coleg.
Holwch eich athrawon a oes Prentisiaethau Ifanc ar gael yn eich ysgol chi.
Fel arfer, bydd eich ysgol yn trefnu lleoliad gwaith i chi ac yn gwneud yn siŵr bod yr holl waith papur yn cael ei lenwi'n briodol. Ond byddwch chi'n cymryd rhan yn y gwaith o drefnu pa fath o faes yr hoffech wneud eich profiad gwaith ynddo, a beth yr hoffech ei gyflawni yn ystod eich cyfnod yno.
Meddyliwch am y pynciau rydych chi'n eu hastudio a pha fath o yrfa yr hoffech ei dilyn yn y dyfodol. Yna holwch eich ysgol rhag ofn bod ganddi gysylltiadau gyda chwmni sy'n cyd-fynd â'ch anghenion chi yn barod. Os nad oes ganddynt gysylltiad â chwmni, efallai y gallant sefydlu cysylltiadau newydd - ond mae hyn yn cymryd amser, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn crybwyll y peth yn fuan pan fyddwch chi'n trefnu'ch lleoliad.
Os ydych chi'n dymuno cael rhagor o gyngor - neu os hoffech drafod beth yn union sy'n digwydd yn ystod lleoliad - siaradwch ag athro/athrawes neu gynghorydd gyrfa, neu â rhywun yn eich swyddfa Connexions leol.
Os ydych chi am gael y budd gorau o'ch profiad gwaith, mae rhai pethau y dylech eu gwneud cyn ac ar ôl eich lleoliad.
Dylai eich bod yn cael goruchwylydd neu fentor yn y lleoliad. Byddant yn mynd â chi o amgylch y lle ac yn dweud popeth y bydd angen i chi ei wybod ar eich diwrnod cyntaf, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn unrhyw gwestiynau cyffredinol sydd gennych iddynt. Bydd y goruchwyliwr yn gwneud yn siŵr eich bod yn deall y rheolau iechyd a diogelwch a'ch cyfrifoldebau tra'ch bod yn gweithio.
Yn ôl pob tebyg, bydd eich ysgol yn gofyn i chi gadw cofnod o'ch lleoliad, felly cofiwch ysgrifennu beth yr ydych wedi ei wneud ac unrhyw sylwadau yr hoffech eu gwneud ar ddiwedd pob diwrnod.
Dylech hefyd gofio ymddwyn yn broffesiynol bob amser yn ystod eich lleoliad. Efallai y bydd ambell ddiwrnod lle mai dim ond ychydig o waith a gewch chi, neu lle bydd y bobl yr ydych yn gweithio â nhw yn rhy brysur i egluro pethau wrthych - byddwch yn amyneddgar.
Unwaith y byddwch wedi gorffen treulio cyfnod ar leoliad, edrychwch ar y nodiadau yr ydych wedi eu gwneud a meddyliwch am yr hyn yr ydych wedi ei gyflawni a pha mor dda yr ydych wedi llwyddo i wneud hynny. Dylai cyflogwr y lleoliad yr ydych yn mynd iddo roi adborth i chi hefyd. Os nad ydych yn cael adborth, cofiwch ofyn amdano.
Efallai yr hoffech hefyd ychwanegu manylion ynghylch eich lleoliad ar eich CV os ydych chi'n meddwl gwneud cais am swydd ran-amser neu swydd yn ystod y gwyliau.