Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dechrau gweithio: beth i’w ddisgwyl

Os ydych chi'n dechrau ar eich swydd gyntaf, mae rhai pethau y bydd eich cyflogwr yn rhoi i chi. Byddant yn eich cynorthwyo i wneud eich swydd yn ddiogel ac yn ateb yr holl gwestiynau sydd gennych am eich gweithle newydd.

Contractau cyflogaeth

Pan fyddwch yn dechrau gweithio i rywun, ceir contract rhyngoch chi a'ch cyflogwr bob amser. Er nad yw'n rhaid iddo bob amser fod ar papur nac wedi ei lofnodi, mae'r contract hwn yn nodi'ch hawliau sylfaenol yn y gwaith, fel yr hawl i gael eich talu.

Fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn cael datganiad cyflogaeth ysgrifenedig o fewn dau fis i'r dyddiad y gwnaethoch gychwyn os ydych yn gyflogai. Bydd hwn yn rhoi manylion am bethau megis:

  • cyfradd eich cyflog
  • eich hawl i wyliau
  • eich oriau gwaith
  • faint o rybudd sy'n rhaid i chi ei roi os byddwch yn dymuno gadael
  • faint o rybudd y bydd yn rhaid i'ch cyflogwr ei roi i chi os ydynt eisiau terfynu'ch cyflogaeth

Os na chewch chi un, holwch eich cyflogwr. Efallai y gwelwch fod y wybodaeth hon yn cael ei nodi yn y llawlyfr staff.

Os ydych chi'n gwneud Prentisiaeth, mae'n ofynnol eich bod yn cael contract ysgrifenedig wedi'i lofnodi gan eich cyflogwr.

Slipiau cyflog

Does dim ots faint o gyflog gewch chi na pha mor aml y byddwch yn cael eich talu, mae'n ofynnol eich bod yn cael datganiad cyflog ysgrifenedig bob tro y byddwch yn derbyn eich cyflog wythnosol neu fisol. Yn ogystal â gwybodaeth am faint a dalwyd i chi, bydd eich slip cyflog yn dweud wrthych faint o dreth ac Yswiriant Gwladol a dynnwyd, ac yn nodi eich cod treth a'ch rhif cyflogai.

Cadwch bob slip cyflog mewn lle diogel yn eich cartref. Os ydych wedi gweithio am ran o'r flwyddyn, neu'ch bod newydd gychwyn ar swydd newydd, efallai eich bod wedi talu gormod o dreth, felly bydd angen y manylion hyn arnoch er mwyn ei hawlio'n ôl. Os nad ydych yn cael slip cyflog, dywedwch wrth eich rheolwr neu'ch goruchwyliwr.

Cynefino

Er mwyn i chi ddod i arfer â'ch swydd newydd yn araf deg, bydd y rhan fwyaf o gwmnïau yn rhoi cyfle i chi gynefino yn ystod eich ychydig ddyddiau cyntaf. Fe'ch cyflwynir i'r bobl y byddwch yn gweithio â hwy, fe'ch dangosir o amgylch y gweithle a rhoddir gwybod i chi beth fyddwch chi'n ei wneud o ddydd i ddydd. Dylech hefyd gael yr holl hyfforddiant y bydd ei angen arnoch er mwyn gwneud eich swydd.

Dyma'r cyfle gorau i ofyn cwestiynau cyffredinol am y swydd ac am eich cyflogwr, felly os oes rhywbeth yn eich poeni neu os oes gennych unrhyw bryderon, mae'n syniad da sôn amdanynt ar ddiwedd y sgwrs hon.

Gwybodaeth iechyd a diogelwch

Mae gan gyflogwr gyfrifoldeb i edrych ar ôl eich iechyd a'ch diogelwch yn y gwaith, felly byddwch yn cael gwybod am unrhyw risg y gallech ddod ar ei thraws yn y gweithle, ac ym mhle mae'r offer diogelwch. Mae'r pethau y byddwch yn cael gwybod amdanynt yn cynnwys:

  • lle mae'r allanfeydd tân
  • lle allwch chi ddod o hyd i'r blwch cymorth cyntaf
  • a oes angen dillad neu wisg arbennig arnoch i'ch amddiffyn er mwyn cyflawni rhannau penodol o'ch swydd

Os ydych chi'n gweithio mewn cegin neu weithdy, efallai y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio offer sy'n gallu bod yn beryglus wrth wneud eich gwaith. Cyn gadael i chi ddefnyddio unrhyw offer, bydd eich cyflogwr yn gwneud yn siŵr eich bod wedi derbyn hyfforddiant llawn ar sut i'w ddefnyddio'n ddiogel. Peidiwch â cheisio defnyddio unrhyw ddarn o offer cyn i chi dderbyn yn hyfforddiant hwn.

Cyfleoedd eraill i gael hyfforddiant

Mae gweithio'n ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd. Bydd cyfleoedd i wneud pethau newydd yn ymddangos yn eithaf rheolaidd yn y gwaith, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud yn fawr o bob cyfle a gewch i gael hyfforddiant. Efallai na fyddwch yn teimlo'i fod yn ddefnyddiol ar y pryd, ond dydych chi byth yn gwybod pryd y gallai fod yn ddefnyddiol yn y dyfodol.

Os ydych yn clywed am gwrs hyfforddi y mae arnoch eisiau ei wneud, gallai eich cyflogwr dalu am eich costau os bydd yn teimlo y byddai'r hyfforddiant yn fanteisiol i'ch gwaith. Siaradwch â'ch rheolwr i gael gwybod am y gefnogaeth hyfforddi a gynigir gan eich cwmni. Efallai y bydd gennych hefyd hawl i gael amser o'r gwaith os ydych chi'n astudio ar gyfer cymwysterau penodol yn eich amser rhydd.

Harasio, bwlio a gwahaniaethu

Mae gan bob cyflogai hawl i weithio mewn man lle nad oes camwahaniaethu na bwlio, faint bynnag o amser yr ydych wedi bod yn gweithio yno. Ceir deddfau i'ch diogelu, beth bynnag y bo'ch oed, eich rhyw, eich hil, eich crefydd a'ch cyfeiriadedd rhywiol.

Yn ystod eich ychydig ddiwrnodau cyntaf, byddwch yn cael gwybod sut mae eich cwmni newydd yn delio â bwlio ac ymddygiad bygythiol yn y gweithle, a sut y byddant yn delio â chŵyn. Os oes rhywun yn gwahaniaethu'n eich erbyn yn y gwaith, dywedwch wrth eich rheolwr mor fuan â phosib.

Allweddumynediad llywodraeth y DU