Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi rhwng 16 a 19 oed, efallai y gallech gael help gyda chost cludiant i'ch coleg neu'ch chweched dosbarth, ac oddi yno.
Os ydych chi mewn addysg bellach, efallai y gall eich awdurdod lleol eich helpu gyda chost teithio i'ch canolfan ddysgu a mynd oddi yno.
Gan ddibynnu ar eich oed a ble byddwch yn astudio, efallai y gallech fod yn gymwys i gael cymorth.
Eich oed
Er mwyn bod yn gymwys i gael help gan eich awdurdod lleol, rhaid i chi
Ble rydych yn astudio
Yn ogystal â bod o fewn yr oed cywir, rhaid i chi fod yn mynd i un o'r canlynol:
Mae'r math o help y gallwch ei gael yn dibynnu ar ble yn Lloegr yr ydych yn byw - mae pob awdurdod lleol yn penderfynu beth sy'n addas ar gyfer yr ardal leol.
Efallai y bydd awdurdodau lleol yn edrych ar incwm eich teulu, pa mor bell yw'ch coleg agosaf o'r lle rydych chi'n byw, ble mae'ch cwrs ar gael, ac ystod o ffactorau eraill. Fodd bynnag, rhaid iddynt sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael eu rhwystro rhag mynd i goleg neu chweched dosbarth oherwydd nad oes gwasanaeth cludiant ar gael, neu oherwydd na allant fforddio'r tâl.
Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau hefyd nad yw myfyrwyr colegau yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai sy'n astudio yn y chweched dosbarth mewn ysgolion.
Bob blwyddyn, bydd eich awdurdod lleol yn cyhoeddi datganiad i ddangos y gefnogaeth y gallech ei derbyn. Bydd gan y datganiad wybodaeth am y gwasanaethau, y gostyngiadau a'r consesiynau sydd ar gael yn eich ardal.
Er mwyn cael gwybod beth sydd ar gael gan eich awdurdod lleol, cliciwch ar y ddolen isod a rhoi manylion ynghylch lle'r ydych chi'n byw.
Os ydych chi o dan 19 ac mewn addysg llawn amser neu'n dysgu yn y gwaith, gallech fod yn gymwys i deithio am ddim ar fysiau a thramiau yn Llundain.
Os ydych chi'n 19 neu'n hŷn efallai y gallech gael help gyda chostau teithio, drwy Gronfa Gefnogaeth Ddewisol eich coleg neu'ch chweched dosbarth.