Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pobl ifanc a digartrefedd

Yn ôl y gyfraith, gallwch fod yn ddigartref os ydych yn byw yn rhywle nad yw’n ddiogel, yn rhywle sy’n anaddas neu’n rhywle nad oes gennych hawl gyfreithiol i fod yno. Cyn i chi adael cartref, ceisiwch gael gwybod eich hawliau tai ac a all eich awdurdod lleol eich helpu i ddod o hyd i lety.

Gadael cartref a rhedeg i ffwrdd

Mae nifer o resymau pam y bydd pobl ifanc yn gadael cartref neu’n rhedeg i ffwrdd. Efallai eu bod:

  • yn dianc rhag perthynas dreisgar neu berthynas lle maent yn cael eu cam-drin gan aelod o’r teulu
  • wedi’u taflu allan gan eu rhieni neu’u gofalwyr
  • wedi colli’u rhieni

Gan na all unrhyw un dan 18 oed lofnodi contract tenantiaeth neu gytundeb morgais eu hunain, mae llawer o bobl ifanc ddigartref yn eu harddegau:

  • yn gorfod cysgu ar y stryd
  • yn cael benthyg gwely neu soffa am noson gan ffrind
  • yn aros gyda theulu arall

Os ydych chi yn unrhyw un o’r sefyllfaoedd hyn, byddwch yn cael eich ystyried yn ddigartref yn swyddogol, felly mae’n hynod bwysig cael gwybod beth yw’ch opsiynau.

Mae rhedeg i ffwrdd yn risg fawr ac fel arfer, nid dyna'r ffordd orau na'r mwyaf diogel i ddelio â phethau.

Hawliau tai ar gyfer pobl ifanc dan 16 oed

Os ydych chi o dan 16 oed, ni allwch wneud y penderfyniad i adael cartref eich hun, oherwydd bydd angen i oedolyn fod yn gyfrifol amdanoch chi.

Os ydych yn cael problemau difrifol gartref, gall eich awdurdod lleol:

  • eich helpu i ddatrys pethau gyda’ch rhieni
  • trefnu i chi fynd i fyw gydag aelod arall o’r teulu neu oedolyn, fel rhiant ffrind
  • dod o hyd i lety brys os ydych yn poeni am drais neu gamdriniaeth gartref

Byddwch hefyd yn gallu siarad gyda gweithiwr cymdeithasol ynghylch pam yr ydych yn teimlo bod angen i chi adael cartref.

Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn ceisio gweld a oes unrhyw ffordd y gallwch fynd yn ôl gartref. Os bydd byw gartref yn rhy beryglus neu’n amhosib, byddant yn pwyso a mesur posibiliadau eraill gan gynnwys gofal gan yr awdurdod lleol neu fyw gyda theulu maeth.

Hawliau tai os ydych yn 16 neu’n 17

Ystyrir pob person ifanc 16 neu 17 oed fel 'angen blaenoriaethol' wrth ystyried tai. Golyga hyn y bydd adran tai eich awdurdod lleol yn gallu eich helpu i ddod o hyd i rywle i fyw.

Yr eithriadau yw:

  • os ydych wedi byw dramor ac nad ydych yn ddinesydd Prydeinig
  • os ydych wedi treulio o leiaf 13 wythnos mewn gofal ers i chi fod yn 14 oed
  • os ydych yn cael eich ystyried fel ‘plentyn mewn angen’

Os bydd un o’r canlynol yn berthnasol i chi, yna bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn delio â'ch achos.

Bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn edrych ar eich sefyllfa i gael gweld a oes unrhyw fodd y gallwch ddychwelyd adref neu fynd i fyw gyda pherthynas arall. Ni allant eich gorfodi i fynd yn ôl i unrhyw le nad ydych yn teimlo’n ddiogel ynddo.

Hawliau tai os ydych yn 18 neu’n hŷn

Unwaith y byddwch yn 18 oed rhaid i chi wneud cais i’ch awdurdod lleol fel person digartref i gael gwybod a ydych yn gymwys ar gyfer cael tŷ.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’ch cais, bydd yr awdurdod yn gwneud ymchwiliad manwl i’ch sefyllfa bersonol.

Byddant yn gweld:

  • a oes arnoch angen llety ar frys tra mae eich cais yn cael ei ystyried
  • a yw’n rhesymol i chi aros yn eich cartref presennol
  • a yw’ch cartref presennol yn addas i chi

Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich awdurdod lleol yn anfon llythyr atoch sy’n egluro pam.

Hyd yn oed os nad yw’n llwyddiannus, mae’n bosib y gallant roi mwy o help a chyngor i chi i ddod o hyd i rywle i fyw.

Mae’n bosib y gallech hefyd gael cymorth ariannol a budd-daliadau i helpu gyda’ch costau byw.

Gadael gofal maeth neu ofal awdurdod lleol

Os ydych yn bwriadu gadael gofal maeth neu ofal awdurdod lleol, bydd y cymorth a'r gefnogaeth ariannol y gallwch eu cael yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys:

  • eich oedran
  • ers faint ydych chi wedi bod mewn gofal
  • beth oedd eich oedran pan y’ch rhoddwyd mewn gofal

Er mwyn cael y darlun llawn o'ch hawliau tai cyn i chi adael gofal, siaradwch â'ch canolfan cyngor am dai leol.

Tai i rieni ifanc

Os ydych yn feichiog neu os oes gennych blant yn barod a’ch bod yn poeni am eich sefyllfa dai, bydd eich cyngor lleol yn rhoi blaenoriaeth i’ch anghenion am dŷ.

Sefydliadau a all helpu gyda phroblemau llety

Shelter

Mae Shelter yn elusen genedlaethol sy’n helpu miloedd o bobl bob blwyddyn gyda phroblemau tai.

Er na all cynghorwyr Shelter ddod o hyd i rywle i chi fyw eu hunain, gallant eich cyfeirio at y trywydd priodol wedi i chi egluro eich sefyllfa.

Maent yn rhedeg llinell sy'n rhoi cyngor am dai yn rhad ac am ddim ac mae ganddynt wefan sy’n llawn gwybodaeth fanwl am amrywiaeth o faterion yn ymwneud â thai.

Sefydliad Foyer

Mae Sefydliad Foyer yn rhedeg 134 o adeiladau a elwir yn ‘foyers’ ar draws y DU.

Yn ogystal â chynnig lle i bobl ifanc ddigartref gael aros, mae foyers hefyd yn rhywle lle gall bobl ifanc gefnogi’i gilydd.

Gall byw mewn foyer hefyd roi cyfle i chi ddysgu, hyfforddi a chael cyngor am sut i ddod o hyd i swydd a byw’n annibynnol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU