Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall unrhyw un gael ei ddal mewn perthynas gamdriniol, yn ddynion ac yn ferched. Os oes gennych chi bartner treisgar, neu os ydych yn amau bod ffrind mewn perthynas gamdriniol, mae cymorth wrth law.
Nid oes rhaid i berthynas fod yn dreisgar i gael ei galw'n gamdriniol. Gall unrhyw fath o ymddygiad neu iaith a ddefnyddir er mwyn bygwth, codi ofn neu reoli rhywun arall ddisgrifio perthynas gamdriniol, ac mae hyn yn cynnwys cam-drin emosiynol, geiriol neu rywiol.
Dyma rai o'r pethau sy'n cyfrif fel cam-drin mewn perthynas:
Gall unrhyw fath o berthynas droi yn un gamdriniol, beth bynnag y bo'ch oed. Efallai eich bod yn canlyn rhywun sy'n gwneud i chi deimlo'n fach yng ngŵydd ei ffrindiau, neu efallai fod aelod hŷn o'ch teulu yn achosi niwed corfforol i chi. Dim ond ychydig enghreifftiau o berthynas gamdriniol yw'r rhain.
Os ydych mewn perthynas gamdriniol, mae'n bwysig eich bod yn siarad â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo, fel ffrind neu berthynas. Mae gan rai ysgolion a cholegau gynghorwyr ar y safle y gallwch siarad â nhw, neu efallai yr hoffech ddweud wrth athro hefyd.
Mae'n bwysig i chi gofio nad ydych ar eich pen eich hun. Mae amryw o bobl wedi bod yn gaeth mewn perthynas gamdriniol ac wedi llwyddo i ddianc o'r berthynas honno.
Mae hefyd yn bwysig eich bod yn cofio nad arnoch chi mae'r bai am ymddygiad rhywun arall. Efallai eich bod yn meddwl eich bod wedi dweud rhywbeth neu wedi gwneud rhywbeth o'i le gan eu hypsetio a pheri iddynt droi'n ymosodol. Beth bynnag yr ydych yn meddwl eich bod wedi'i wneud, does dim esgus dros sarhau cyson a bygythiadau o drais.
Gall dynion a merched ddioddef perthynas gamdriniol, ond mae'r rhan fwyaf o achosion trais yn y cartref yn cynnwys merched neu blant.
Ond gall pobl ifanc sy'n canlyn rhywun hefyd fod yn ddioddefwr mewn perthynas gamdriniol.
Os ydych yn pryderu bod perthynas neu rywun arall yr ydych yn ei adnabod mewn perthynas gamdriniol, dylech siarad â nhw am y peth.
Efallai eich bod yn teimlo na ddylech fusnesu ym mywyd rhywun arall, ond ni fydd anwybyddu'r broblem yn helpu a gall wneud i'r dioddefwr deimlo'n fwy ynysig ac unig.
I helpu rhywun, gallwch wneud y canlynol:
Mae'n bwysig nad ydych yn ceisio herio'r person sy'n bod yn dreisgar. Byddwch yn rhoi eich hun mewn perygl drwy wneud hyn.