Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Os ydych yn ddioddefwr

Os bydd rhywun yn troseddu yn eich erbyn, fe all hynny eich ysgwyd a pheri poen meddwl i chi. Mae'r heddlu a chyrff eraill yno i roi gwybod i chi sut y gallwch chi ddod dros y profiad.

Sut all yr heddlu helpu

Yn aml iawn, yr heddlu yw'r bobl gyntaf i'ch helpu os byddwch chi'n dioddef yn sgîl trosedd. Maen nhw'n gyfarwydd â helpu pobl sy'n ddigon teg wedi cael eu dychryn a'u hysgwyd gan y profiad.

Os yw'r trosedd newydd ddigwydd, byddan nhw am gael datganiad gennych. Bydd y datganiad yn cofnodi'n fanwl beth ddigwyddodd ac yn help i'r heddlu ddal y troseddwr.

Mae'n bosib y byddan nhw hefyd am gasglu rhywfaint o dystiolaeth i'w helpu gyda'u hymchwiliad. Fe allai hyn gynnwys olion bysedd, ffotograffau neu rywfaint o'ch dillad. Mae'r heddlu'n deall y gall hyn fod yn brofiad poenus, felly byddan nhw mor sensitif ag y bo modd.

Delio â thrallod

Mae'n naturiol eich bod yn teimlo'n fwy nerfus neu'n fwy amddiffynnol ohonoch eich hun ar ôl profi trosedd. Mae'n bwysig cofio nad chi sydd ar fai am rywbeth sydd wedi digwydd i chi ac nad yw'n ddim byd i chi gywilyddio ohono.

Fel arfer, mae'n well rhannu'ch teimladau gyda phobl eraill yn hytrach na'u cadw dan glo, felly mae'n bosib y byddwch chi'n awyddus i sgwrsio am eich ofnau a'ch pryderon gyda'ch teulu neu'ch ffrindiau agos.

Ar ôl i drosedd ddigwydd fe all eich teimladau amrywio yn ôl ei natur, felly mae'n bosib y byddwch chi'n awyddus i gael cyngor cyfrinachol gan rywun sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig i helpu pobl sydd wedi dioddef yn sgîl trosedd o fath penodol.

Cymorth i Ddioddefwyr

Os ydych chi'n teimlo wedi'ch ysgwyd, yn bryderus neu'n ofnus ar ôl bod yn rhan o ddigwyddiad, mae'n bosib y byddwch chi am gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr - Elusen Genedlaethol annibynnol sy'n helpu pobl sydd wedi dioddef yn sgîl troseddau neu wedi bod yn dyst iddynt. Ffoniwch nhw ar 0845 30 30 900. Mae ganddyn nhw wirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi ac fe allwch gael sgwrs gyfrinachol â nhw. Mae’r llinell gymorth ar agor:

  • rhwng 9.00 am a 9.00 pm yn ystod yr wythnos
  • rhwng 9.00 am a 7.00 pm ar benwythnosau
  • rhwng 9.00 am a 5.00 pm ar wyliau banc

Byddan nhw'n gallu rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i chi i'ch helpu i ddelio â'r digwyddiad. Os bydd yr heddlu'n cysylltu â chi ar ôl y digwyddiad a'u bod am gael mwy o help gydag ymchwiliad, bydd Cymorth i Ddioddefwyr hefyd yn gallu esbonio'r gwahanol brosesau y bydd yn rhaid i'r heddlu eu dilyn.

Gall Cymorth i Ddioddefwyr hefyd roi gwybod i chi beth fydd yn digwydd os bydd rhaid i chi fyn di'r llys fel tyst a pha fath o bethau y dylech eu disgwyl.

Iawndal

Efallai y gallwch chi hawlio iawndal os ydych chi wedi dioddef yn sgîl trosedd treisiol neu os yw eich eiddo wedi'i ddwyn neu wedi'u difrodi. Er enghraifft, os ydych chi'n gweithio, mae'n bosib eich bod wedi gorfod cael eich rhyddhau o'ch gwaith i roi datganiad yn swyddfa'r heddlu neu i gael beic newydd os yw wedi'i ddwyn.

Dylai'r heddlu roi gwybod i chi a fyddech chi o bosib yn gymwys pan fyddwch chi'n rhoi eich datganiad. Os na fyddan nhw'n gwneud hyn, cofiwch sôn. Os ydych chi am gael iawndal, bydd rhaid i chi nodi ar bapur faint o gyflog rydych chi'n meddwl i chi ei golli neu gadw'r derbynebau'n dangos cost y nwyddau newydd y bu'n rhaid i chi eu prynu yn lle'r rhai a gollwyd.

Mae sawl ffordd o hawlio iawndal. Bydd pa un y byddwch chi'n ei defnyddio'n dibynnu ar a oes rhywun wedi'i gael yn euog o'r trosedd ai peidio.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU