Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Os ydych yn dyst

Gall bod yn dyst i drosedd fod yn beth cythryblus, hyd yn oed os nad yn eich erbyn chi y cyflawnwyd y trosedd. Mae'n bosib eich bod yn poeni am beth fydd yn digwydd os byddwch chi'n riportio'r hyn welsoch chi, ond fe allai eich gwybodaeth fod yn hollbwysig er mwyn arestio troseddwyr yn eich ardal.

Beth ddylech ei wneud

Os ydych chi wedi gweld trosedd yn digwydd neu os oes gennych wybodaeth i'r heddlu a'ch bod yn meddwl y gallai fod yn ddefnyddiol, dylech fynd atyn nhw ar unwaith. Fe allai eich gwybodaeth arwain at ddychwelyd eiddo rhywun sydd wedi'i ddwyn, neu atal rhywbeth tebyg rhag digwydd i bobl eraill yn eich ardal.

Oni allwch chi weld y trosedd yn digwydd o'ch blaen, peidiwch â ffonio 999. Yn hytrach, dylech gysylltu â'ch gorsaf heddlu leol naill ai dros y ffôn neu fynd yno eich hun. Mae'n bosib y byddech chi hefyd am gysylltu â Thaclo'r Taclau os nad ydych chi am ddatgelu pwy ydych chi. Eu rhif ffôn yw 0800 555 111.

Hyd yn oed os ydych chi wedi gweld rhywun yn chwistrellu graffiti neu'n gwneud difrod i barc neu gae chwarae lleol, dylech ddweud wrth yr heddlu. Hyd yn oed os nad oes rhywun wedi dioddef yn sgîl y trosedd, mae'n bosib y bydd yr heddlu'n gallu defnyddio unrhyw wybodaeth rowch chi iddyn nhw i atal eich cyfleusterau lleol rhag cael eu difrodi.

Sut fydd yr heddlu'n defnyddio'r wybodaeth rowch chi

Unwaith i chi roi datganiad i'r heddlu, bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i geisio dod o hyd i'r bobl sydd wedi cyflawni'r trosedd.

Peidiwch â synnu os na chlywch chi ddim byd arall gan yr heddlu am dipyn o amser. Bydd angen misoedd i gwblhau rhai ymchwiliadau ac yn aml iawn, y cyfan y bydd yr heddlu am ei gael gennych chi yw'r datganiad.

Os caiff rhywun ei gyhuddo o'r trosedd, mae'n bosib y gofynnir i chi roi tystiolaeth yn y llys. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi fynd drwy eich datganiad eto, ac yna ateb cwestiynau gan yr erlyniad a'r amddiffyniad.

Archwiliadau adnabod

Os rhoesoch chi ddisgrifiad manwl o'r person welsoch chi'n cyflawni trosedd wrth roi eich datganiad, mae'n bosib y gofynnir i chi fynd i archwiliad adnabod.

Gofynnir i chi ddewis y person welsoch chi o blith nifer o bobl o'r tu ôl i ddrych un-ffordd, neu mae'n bosib y dangosir nifer o luniau i chi ar gyfrifiadur.

Ni fydd neb yn y rhes, gan gynnwys yr un sy'n cael ei amau, yn gallu'ch gweld ac ni fyddan nhw ychwaith yn cael gofyn pwy ydych chi nac ymhle rydych chi'n byw.

Y Gwasanaeth Tystion

Gall bod yn dyst i drosedd fod yn brofiad cythryblus, yn enwedig os oedd y trosedd yn un treisgar. Os ydych chi'n poeni neu'n ofnus ynghylch yr hyn welsoch chi, neu'n nerfus am roi tystiolaeth yn y llys, gallwch gael sgwrs gyda'r Gwasanaeth Tystion, gwasanaeth a redir gan Gymorth i Ddioddefwyr. Gallwch eu ffonio ar 01845 30 30 900.

Yn ogystal â'r dioddefwyr eu hunain, gall Cymorth i Ddioddefwyr hefyd fod o help os ydych chi wedi gweld trosedd yn digwydd. Byddan nhw'n gallu cynnig rhywun i chi siarad â nhw'n gyfrinachol am eich teimladau.

Os ydych chi'n teimlo fymryn yn nerfus am fynd i'r llys ac y byddech chi'n hoffi cael golwg ar y lle cyn i'r treial ddechrau, fe allan nhw drefnu hynny hefyd. Maen nhw ar gael i roi cymorth personol i chi, a phetaech chi'n dymuno, fe allen nhw hyd yn oed fynd i mewn i'r llys gyda chi ar y diwrnod ei hun.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU