Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ysgaru a gwahanu

Os ydy'ch rhieni wedi penderfynu ysgaru neu wahanu, mae'n siŵr eich bod yn poeni beth fydd oblygiadau hyn i chi. Bydd siarad am y peth gyda phobl eraill yn help, a chewch chithau hefyd ddweud eich barn pan fydd angen penderfynu gyda pha riant y byddwch chi'n byw.

Pam eu bod nhw'n gwahanu?

Gall cwpwl wahanu am amryw o resymau ac yn aml iawn bydd cyfuniad o faterion cymhleth wrth wraidd penderfyniad i wneud hynny. Efallai y byddwch yn teimlo'n drist, yn flin neu'n cael braw pan glywch y newydd.

Efallai y byddwch hefyd yn teimlo'n euog eich bod, rywsut neu'i gilydd, wedi chwarae rhan yn y chwalu. Beth bynnag fo'r rhesymau pam mae perthynas eich rhieni wedi chwalu, mae'n bwysig eich bod yn cofio nad eich bai chi ydyw.

Os ydych yn teimlo rhyddhad, peidiwch â phoeni. Efallai fod hyn yn ymddangos fel ffordd ryfedd o ymateb i sefyllfa mor ddifrifol, ond os yw'ch rhieni wedi bod yn dadlau neu'n brifo ei gilydd, mae'n bosib y byddai'n well i bawb petaent yn byw ar wahân.

Byw gydag un rhiant

Mae'n bosib eich bod yn poeni y bydd yn rhaid i chi ddewis gyda pha riant yr ydych yn dymuno byw. Boed eich rhieni'n datrys eu problemau ynteu'n anghytuno â'i gilydd, dylech bob amser gael cyfle i leisio'ch barn.

Yn ystod ysgariad neu wahaniad, mae'n bosib y bydd eich rhieni'n mynd drwy broses gyfryngu er mwyn cael trefn ar y trefniadau. Fel rhan o'r broses hon, mae gennych hawl i ddweud eich dweud am yr hyn a fyddai orau er eich lles chi, ac a ydych yn fodlon â'r penderfyniadau a allai effeithio arnoch.

Nid mewn ystafell llys y cynhelir proses gyfryngu. Mae'n golygu sgwrs anffurfiol gyda swyddog lles neu swyddog cyfryngu, a fydd yn egluro penderfyniad eich rhieni ac yn gofyn sut ydych chi'n teimlo am y penderfyniadau hynny. Os byddwch yn anghytuno ag unrhyw beth, bydd y swyddog lles neu'r swyddog cyfryngu yn adrodd yn ôl ar eich teimladau chi ac mae'n bosib y caiff y penderfyniadau eu newid.

Cofiwch mai beth sydd orau i chi fydd y brif ystyriaeth wrth benderfynu gyda pha riant y byddwch chi'n byw. Ni fydd y penderfyniad yn seiliedig ar ddymuniadau'ch rhieni.

Trafod y mater

Mae bod yn rhan o ysgariad neu wahaniad yn brofiad gofidus i bawb sy'n rhan o'r peth. Er y gall fod yn anodd, mae'n bwysig eich bod yn siarad â'ch rhieni ynghylch sut yr ydych yn teimlo. Bydd hyn yn rhoi syniad iddyn nhw o ba mor dda yr ydych yn ymdopi â'r sefyllfa ac yn rhoi cyfle i chi ddeall yn well pam eu bod yn gwahanu.

Os oes gennych ffrindiau â'u rhieni wedi gwahanu neu ysgaru, efallai y byddwch yn dymuno siarad â hwy. Mae'n bosib y gallant eich helpu drwy'r profiad wrth siarad am beth ddigwyddodd iddyn nhw.

Mynd i’r llys

Os yw'ch rhieni'n anghytuno am rywbeth, fel pa mor aml y cewch chi weld y rhiant nad ydych yn byw gydag ef, efallai y bydd y mater yn mynd gerbron y llys. Er ei bod yn annhebygol y gofynnir i chi ateb cwestiynau o flaen eich teulu, mae'n bosib y byddant yn gofyn sut rydych chi'n teimlo am y mater dan sylw.

Mae'n siŵr y bydd yn rhaid i chi siarad â swyddog adrodd ar ran plant a theuluoedd o sefydliad Cafcass. Bydd y swyddog yn egluro'r mater sy'n cael ei drafod ac yn gofyn i chi beth fyddai'r canlyniad gorau yn eich barn chi. Bydd yr hyn a ddywedwch yn y cyfweliad hwn yn cael ei roi i'r llys ar ffurf adroddiad teulu.

Trais yn y cartref neu rieni sy'n cam-drin

Efallai fod eich rhieni'n gwahanu oherwydd bod eu perthynas yn dreisgar neu'n gamdriniol, neu fod gan un ohonynt broblemau gyda chyffuriau neu alcohol. Os yw hyn yn wir, mae'n debygol yr eir â'r mater yn syth i'r llys yn hytrach na mynd drwy'r broses gyfryngu.

Yn y sefyllfaoedd hyn, eich diogelwch chi a'ch rhiant fydd prif ystyriaeth y llys.

Allweddumynediad llywodraeth y DU