Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymdopi â marwolaeth

Pan fydd rhywun agos atoch yn marw, mae'n brofiad gofidus a allai effeithio arnoch am amser hir. Ond mae'n bwysig eich bod yn rhannu'ch teimladau ag eraill er mwyn sicrhau nad ydych yn ceisio ymdopi ar eich pen eich hun.

Y broses o alaru

Mae'n anodd iawn delio â'ch emosiynau pan fydd rhywun agos atoch wedi marw, a gallwch fynd trwy nifer o deimladau gwahanol. Does dim ffordd iawn o ymdopi â marwolaeth rhywun - bydd pawb yn ymateb yn wahanol.

Os yw rhywun wedi marw'n annisgwyl, mae'n bosib y cewch fraw ac y byddwch yn teimlo'n gymysglyd ynghylch pam ei fod wedi digwydd. Efallai y byddwch hefyd yn teimlo'n ddig bod rhywun wedi cael ei gymryd oddi wrthych.

Os bydd perthynas oedrannus neu rywun sydd wedi dioddef salwch tymor hir yn marw, mae'n bosib y bydd eich teimladau yr un fath hyd yn oed os ydych chi wedi bod yn paratoi ar ei gyfer. Mae hefyd yn bosib y cewch ryddhad o feddwl nad yw rhywun a oedd mor annwyl i chi yn dioddef mwyach.

Gallai galaru am anwylyd effeithio ar bob agwedd o'ch bywyd. Efallai y cewch hi'n anodd cysgu, bwyta, neu ganolbwyntio yn eich gwaith. Os ydych yn cael trafferth yn yr ysgol, yn y coleg neu yn y gwaith, efallai y byddai modd i chi gael rhagor o amser i ffwrdd os byddwch yn egluro'r sefyllfa wrth eich bos neu wrth athrawes.

Siarad am y peth

Mae'n bwysig iawn eich bod yn siarad â phobl a allai'ch cynorthwyo i ddelio â'ch galar - does dim rhaid i chi geisio ysgwyddo'r sefyllfa ar eich pen eich hun.

Os yw aelod o'ch teulu wedi marw, mae'n bosib y bydd eich rhieni neu berthynas arall yn profi teimladau tebyg. Gallai rhannu'ch teimladau â hwy eich cynorthwyo i ddod i delerau â'r farwolaeth.

Efallai bod rhai o'ch ffrindiau wedi mynd trwy brofiad tebyg eu hunain, felly gallai siarad â hwy hefyd eich helpu i ddeall beth rydych chi'n ei brofi.

Angladdau

Mewn angladd, bydd pobl yn dathlu bywyd y person sydd wedi marw ac yn rhoi cyfle i ffrindiau a theulu alaru gyda'i gilydd a rhannu atgofion. Cynhelir hwy mewn man o addoliad fel rheol, ond does dim rhaid i'r seremoni fod yn grefyddol ac weithiau bydd y corff yn cael ei gladdu, dro arall, ei losgi.

Eich penderfyniad chi yw a ydych am fynd i'r seremoni ai peidio, ond bydd rhai pobl yn canfod fod hyn yn gwneud y broses o alaru yn haws. I'ch helpu i wneud y penderfyniad, efallai y byddech yn dymuno siarad â'ch rhieni neu ffrindiau ynglwn â beth sy'n digwydd mewn angladdau.

Ffyrdd eraill o ddelio â marwolaeth

Yn ogystal â siarad gyda ffrindiau a theulu, efallai y byddwch yn dymuno siarad â'ch meddyg hefyd. Mae yna hefyd nifer o fudiadau a all eich helpu i ddeall eich teimladau. Mae gan rai ohonynt linellau cymorth, ac mae gan ambell un fyrddau negeseuon ar-lein lle gallwch ofyn cwestiynau neu roi atgofion am y person sydd wedi marw.

Allweddumynediad llywodraeth y DU