Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Chwilio am rywun rydych chi wedi colli cysylltiad â nhw

Yma, cewch wybod sut i ddefnyddio gwybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd i’ch helpu chi i chwilio am bobl rydych chi wedi colli cysylltiad â nhw. Mae rhai elusennau hefyd yn darparu gwasanaethau chwilio am deulu, sy’n helpu i aduno perthnasau sydd wedi colli cysylltiad â’i gilydd. Gall yr elusennau hyn hefyd helpu pobl a fabwysiadwyd i ddod o hyd i’w teuluoedd biolegol.

Chwilio drwy gofrestri etholiadol

Gallwch chi ddefnyddio’r gofrestr etholiadol i chwilio am rywun os ydych chi’n gwybod ym mha ardal yr oeddynt yn byw ynddo ddiwethaf. Mae’r gofrestr etholiadol yn rhestru enw a chyfeiriad pawb sydd wedi’i gofrestru i bleidleisio mewn ardal benodol. I gael gwybod sut i archwilio cofrestr etholiadol, cysylltwch â chyngor lleol yr ardal honno

Cedwir set gyflawn o gofrestri etholiadol ar gyfer y DU, er 1947, gan y Llyfrgell Brydeinig

Os na allwch chi ddod o hyd i’r unigolyn ar y gofrestr, gall olygu:

  • nad yw wedi ei gofrestru i bleidleisio
  • ei fod wedi symud
  • ei fod wedi priodi ac wedi newid ei enw
  • nad yw bellach yn fyw

Chwilio drwy wybodaeth am enedigaethau, priodasau a marwolaethau

Mae’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO) yn dal cofnodion o’r canlynol ar gyfer Cymru a Lloegr:

  • genedigaethau
  • priodasau
  • partneriaethau sifil
  • marwolaethau
  • pob achos lle mae’r llys wedi caniatáu mabwysiadu

Gweler ‘Defnyddio’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol i ymchwilio hanes teulu’ i gael gwybod sut i chwilio am yr wybodaeth hon.

Gallwch archebu copïau o dystysgrifau geni, tystysgrifau priodas a thystysgrifau marwolaeth gan y GRO ar-lein, drwy’r post neu dros y ffôn. Gallwch hefyd gysylltu â’r swyddfa gofrestru leol yn ardal y digwyddiad. Dylai tystysgrifau gynnwys cyfeiriadau, a gallwch ddefnyddio’r rhain i edrych ar y gofrestr etholiadol ar gyfer yr ardal.

Chwilio drwy ewyllysion

Os ydych chi’n meddwl bod yr unigolyn rydych chi’n chwilio amdano wedi marw, gallwch chi chwilio drwy’r cofnodion o ewyllysion a gedwir yn Ystafell Chwilio y Brif Gofrestrfa Brofiant yn Llundain. Mae’n bosib y bydd arnoch eisiau chwilio drwy’r cofnodion hyn rhag ofn bod yr unigolyn rydych chi’n chwilio amdano wedi marw dramor neu tra roedd ar ddyletswydd gyda lluoedd arfog.

Gallwch wneud y canlynol:

  • mynd yn bersonol
  • gofyn i chwiliad gael ei wneud ar eich rhan am ffi fechan

Gallwch ddefnyddio ffurflen PA1S, sydd ar gael o’r ddolen isod, i ofyn am chwiliad. Os oes arnoch eisiau mynd yn bersonol, bydd rhaid i chi wneud apwyntiad o flaen llaw.

Mae gan yr Archifau Cenedlaethol gofnodion o ewyllysion o 1858 i 1943.

Chwilio am rywun sydd wedi newid ei enw

Mae’n bosib bod yr unigolyn rydych chi’n chwilio amdano wedi newid ei enw. Defnyddir y broses Gweithred Newid Enw fel arfer i newid enwau. Mae Gweithred Newid Enw yn cynnwys defnyddio twrnai i newid rhan o enw, neu enw cyfan, yn gyfreithlon. Yr unig gofnodion swyddogol o Weithredoedd Newid Enw yw'r rheini sydd wedi cael eu cofrestru neu eu 'hymrestru' gyda'r Llysoedd Barn Brenhinol. Mae modd cael gwybodaeth am enwau sydd wedi'u newid ac wedi'u hymrestru o fewn y pum mlynedd diwethaf drwy ysgrifennu at y Llysoedd Barn Brenhinol yn Llundain. Cedwir enwau sydd wedi'u newid ac wedi'u hymrestru dros bum mlynedd yn ôl gan yr Archifau Cenedlaethol yn Kew.

Dod o hyd i berthnasau

Os ydych chi’n chwilio am eich teulu biolegol neu eich teulu mabwysiadol, gallwch chi weld eich cofnod cofrestru genedigaeth gwreiddiol ar ôl i chi droi yn 18 mlwydd oed.

Gallwch chi hefyd ddefnyddio'r gwasanaethau chwilio am deulu sy’n cael eu darparu gan Fyddin yr Iachawdwriaeth neu’r Groes Goch.

Gwasanaeth Chwilio am Deulu Byddin yr Iachawdwriaeth

Mae Gwasanaeth Chwilio am Deulu Byddin yr Iachawdwriaeth yn helpu i ddod o hyd i berthnasau sydd dros 18 mlwydd oed. I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth, ffoniwch 0845 634 4747.

Y Groes Goch

Mae’r Groes Goch yn cynnig gwasanaeth chwilio ar gyfer perthnasau sydd wedi colli cysylltiad â’i gilydd o ganlyniad i ryfel neu drychinebau rhyngwladol.

Gweler ‘Pobl Coll – cymorth a chefnogaeth’ i gael rhestr o elusennau eraill sy’n helpu i ddod o hyd i bobl sydd ar goll.

Additional links

Cyngor iechyd

Ewch i NHS Choices i gael gwybodaeth am iechyd a gwasanaethau iechyd lleol yn Lloegr

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU