Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dod o hyd i'ch cofnod geni neu'ch cofnod mabwysiadu gwreiddiol

Os ydych chi wedi eich mabwysiadu, pan fyddwch yn 18 oed gallwch wneud cais am dystysgrif eich ffurflen cofrestru genedigaeth wreiddiol. Mae gan eich perthnasau gwaed hawl i wneud cais am ganiatâd i gysylltu â chi hefyd. Dyma rywfaint o wybodaeth am sut i ymchwilio i'ch teulu biolegol.

Dod o hyd i’ch manylion geni gwreiddiol

Os cawsoch eich mabwysiadu drwy lys yng Nghymru neu Lloegr a'ch bod yn 18 oed neu'n hŷn, gallwch wneud cais am dystysgrif o'ch cofnod geni gwreiddiol a cheisio dod o hyd i wybodaeth am eich gwreiddiau.

Os cawsoch eich geni yng Nghymru neu Lloegr ond eich mabwysiadu yn yr Alban, yng Ngogledd Iwerddon neu dramor, bydd angen i gysylltu â Swyddfa Gofrestru Gyffredinol y wlad honno i gael mynediad at eich cofnodion geni eich hun.

Sut i wneud cais

I gael y ffurflenni perthnasol:

  • gallwch lwytho’r ffurflenni i lawr isod yn Gymraeg neu Saesneg
  • neu gallwch ffonio’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar 0151 471 4830 i ofyn am y ffurflenni

Pan fyddwch wedi llenwi eich ffurflen, postiwch hi i’r cyfeiriad canlynol: Adoptions section, Room C202, General Register Office, Trafalgar Rd, Southport PR8 2HH. Neu gallech ei hanfon drwy’r ffacs i: 0151 471 4755.

Mae beth fydd yn digwydd nesaf yn dibynnu pryd y cawsoch eich mabwysiadu – cyn ynteu ar ôl 1975.

Os cawsoch eich mabwysiadu cyn 1975, bydd angen i chi fynd i gyfarfod gyda chynghorydd mabwysiadu. Os cawsoch eich mabwysiadu ar ôl 1975, cewch ofyn am gyfarfod neu gael yr wybodaeth yn uniongyrchol. Pan fydd hynny’n berthnasol, bydd cynghorydd mabwysiadu o’r sefydliad rydych wedi ei ddewis yn cysylltu â chi i drefnu cyfweliad.

Byddech hefyd yn gallu holi asiantaeth gyfryngu sydd wedi’i chymeradwyo ynghylch cael mynediad at gofnodion geni i’ch helpu i gael cyswllt â rhywun sy’n perthyn i chi drwy waed.

Os ydych chi’n perthyn drwy waed i unigolyn sydd wedi’i fabwysiadu

Os ydych chi’n perthyn drwy waed i unigolyn sydd wedi'i fabwysiadu, gallwch wneud cais i gysylltu ag unigolyn sydd wedi’i fabwysiadu drwy asiantaeth gyfryngu gymeradwy.

Bydd asiantaethau cyfryngu yn cysylltu â’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol i ddod o hyd i fanylion perthnasol, gan gynnwys enw'r sefydliad neu'r llys a oedd yn rhan o'r mabwysiadu, yn ogystal â manylion ar y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu sy'n galluogi rhywun i wneud cais am dystysgrif mabwysiadu.

Gall asiantaeth gyfryngu ddefnyddio'r wybodaeth hon i benderfynu a ddylid symud ymlaen ai peidio, ond mae hyn yn dibynnu ar farn y sawl a fabwysiadwyd.

Rhagor o wybodaeth

Mae pryd gawsoch chi eich geni – cyn ynteu ar ôl 1975 – yn effeithio ar y modd y mae cael mynediad at gofnodion mabwysiadu. Defnyddiwch y dolenni isod i gael gwybod mwy

Allweddumynediad llywodraeth y DU