Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae a yw ffeil mabwysiadu yn dal yn bodoli ai peidio yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys sut yr aethpwyd ati i fabwysiadu.
Hyd at yr 1970au, gellid trefnu i fabwysiadu drwy gymdeithas mabwysiadu neu awdurdod lleol, neu gellid cael trefniant preifat drwy feddyg, twrnai, cyfaill, neu'r fam ei hun. Mabwysiadwyd rhai plant gan eu neiniau a'u teidiau neu gan berthnasoedd eraill, megis llys rieni.
Os trefnwyd i chi gael eich mabwysiadu drwy gymdeithas mabwysiadu neu awdurdod lleol, mae'n bosib bod y cofnodion yn dal yn bodoli. Efallai y bydd gan awdurdodau lleol wybodaeth am achosion o fabwysiadu yn eu hardaloedd hwy, hyd yn oed os nad hwy wnaeth eu trefnu.
Yn wreiddiol, byddai asiantaethau mabwysiadu yn cadw cofnodion am 25 mlynedd, ond erbyn hyn maent yn cadw cofnodion am 75 i 100 mlynedd. Nid oedd cofnodion y llysoedd yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gellir dod o hyd i hen bapurau, ac efallai y byddai ymgynghorydd mabwysiadu yn gallu dweud mwy wrthych am hyn.
Os yw'ch ffeil mabwysiadu'n bodoli, nid yw eto'n bosib dweud pa wybodaeth sydd ynddi gan fod pob achos yn wahanol. Efallai y ceir ynddi gryn dipyn o wybodaeth am eich rhieni gwaed a manylion yn ymwneud â'ch mabwysiadu, ond cofiwch y gallai'r wybodaeth fod yn brin hefyd.