Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Proses mabwysiadu plentyn sy'n 'derbyn gofal'

Plentyn sy’n derbyn gofal yw plentyn sydd mewn gofal cyhoeddus. Mae hyn yn golygu bod awdurdod lleol yn gofalu amdanynt. Er mwyn mabwysiadu plentyn sy’n derbyn gofal, bydd angen i chi gyflwyno cais i asiantaeth fabwysiadu a fydd yn asesu a ydych chi’n addas ai peidio. Yna, bydd y llys yn penderfynu a fydd yn gwneud gorchymyn mabwysiadu o’ch plaid.

Cais cychwynnol i fabwysiadu

Y peth cyntaf y dylech ei wneud yw cysylltu â’ch asiantaeth fabwysiadu leol. Byddant yn:

  • anfon gwybodaeth ysgrifenedig gyffredinol atoch chi ynglŷn â’r broses fabwysiadu, megis faint o amser mae pob cam yn debygol o gymryd a’r hyn mae’r asiantaeth yn ei ddisgwyl gan rieni mabwysiadol
  • eich gwahodd i gyfarfod gwybodaeth grŵp, lle gallwch glywed am fabwysiadu a siarad â rhieni mabwysiadol am eu profiadau nhw
  • eich cwnsela i’ch helpu i ddeall anghenion plant y gallent fod wedi cael eu hesgeuluso neu eu cam-drin yn ystod eu plentyndod cynnar

Bydd yr asiantaeth hefyd yn eich helpu i benderfynu a yw mabwysiadu yn benderfyniad doeth ar eich cyfer chi a’ch teulu. Os byddwch chi a’r asiantaeth yn cytuno i fwrw ymlaen, bydd yr asiantaeth yn cyflwyno ffurflen gais i chi.

Paratoi, asesu a hyfforddi

Pan fydd yr asiantaeth fabwysiadu yn cael eich cais ysgrifenedig, bydd yn:

  • eich gwahodd i ddosbarthiadau paratoi – fel arfer, caiff y rhain eu cynnal yn lleol a byddant yn cynnig cyngor am fagu plant a gwybodaeth am faterion megis y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer mabwysiadu, anghenion plant sydd wedi cael eu mabwysiadu, a'r effaith y gallai mabwysiadu ei gael ar bawb sy'n gysylltiedig
  • cynnal archwiliadau gan yr heddlu i sicrhau nad ydych chi neu oedolyn arall sy'n aelod o'ch teulu wedi cyflawni trosedd a fyddai'n golygu na fyddech yn gymwys i fabwysiadu
  • cyfweld â chanolwyr sy’n eich adnabod chi a’ch teulu
  • trefnu i chi gael archwiliad meddygol llawn
  • trefnu i weithiwr cymdeithasol ymweld â chi a chynnal asesiad manwl i weld a ydych chi’n addas ar gyfer bod yn rhiant mabwysiadol - gan gynnwys eich cryfderau a’ch gwendidau, meysydd lle efallai y bydd arnoch angen cefnogaeth, a sefydlogrwydd eich perthynas os ydych chi’n mabwysiadu fel cwpl

Oherwydd y prosesau hyn, mae’r asesiad yn gofyn llawer, yn hir, yn bwrw golwg fanwl ar eich bywyd ac yn gallu teimlo’n ymwthiol. Bwriad hyn yw bod yr asiantaeth am sicrhau y gallwch fodloni anghenion y plentyn a mabwysiadu’n llwyddiannus.

Pan fydd eich gweithiwr cymdeithasol wedi gorffen eich asesiad, bydd yn anfon eich papurau at y panel mabwysiadu. Grŵp o bobl sydd â phrofiad ym myd mabwysiadu yw’r panel. Cewch fynd i gyfarfod y panel mabwysiadu i ofyn ac i ateb cwestiynau. Bydd y panel mabwysiadu yn gwneud argymhelliad i’r asiantaeth a fydd yna’n penderfynu a ydych chi'n rhieni mabwysiadol addas ai peidio.

Faint o amser mae'r broses fabwysiadu'n debygol o gymryd?

Bydd faint o amser mae'n ei gymryd i fabwysiadu yn amrywio. Bydd yn cymryd ychydig dros 8 mis i’r asiantaeth fabwysiadu gwblhau ei hasesiad a phenderfynu a ydych chi’n rhieni mabwysiadol addas. Yna, dim ond mater o wythnosau y gallai gymryd i'r asiantaeth eich paru â phlentyn.

Ar ôl i’r plentyn ddod i fyw atoch, eich penderfyniad chi yw pryd i wneud cais i’r llys am orchymyn mabwysiadu. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r plentyn fod wedi byw gyda chi am o leiaf ddeg wythnos. Byddai gorchymyn mabwysiadu yn golygu y bydd hawliau a chyfrifoldebau rhiant dros y plentyn yn cael eu rhoi i’r rhieni mabwysiadol.

Sut mae paru plant â rhieni mabwysiadol?

Ar ôl i’ch asiantaeth benderfynu eich bod yn rhieni mabwysiadol addas, bydd yn dechrau’r broses o ddod o hyd i blentyn sydd ag anghenion y gallwch eu bodloni. Os na chewch eich paru ar ôl tri mis, gallwch gael eich cyfeirio at y Gofrestr Fabwysiadu ar gyfer Cymru a Lloegr.

Mae’r Gofrestr yn cynnwys manylion plant ar hyd a lled Cymru a Lloegr y mae angen teulu arnynt. Chwilir y Gofrestr er mwyn dod o hyd i blentyn y gallwch fodloni ei anghenion. Ar ôl i gyswllt gael ei wneud, caiff eich manylion eu rhoi i weithiwr cymdeithasol y plentyn.

Os na fydd asiantaeth fabwysiadu yn penderfynu eich bod chi’n addas

Mae gennych chi ddau opsiwn os ydych chi'n anghytuno gyda phenderfyniad asiantaeth fabwysiadu. Gallwch naill ai:

  • herio penderfyniad yr asiantaeth ac egluro pam eich bod yn anghytuno, neu
  • gwneud cais i’r Mecanwaith Adolygu Annibynnol i edrych ar broses yr asiantaeth o wneud penderfyniadau

Cefnogaeth i rieni mabwysiadol

Mae’n bosib y bydd angen cefnogaeth arnoch chi a’ch plentyn mabwysiadol ac mae gennych chi’r hawl i gael asesiad o anghenion eich teulu. Mae’n rhaid bod yr ystod ganlynol o wasanaethau cefnogi ar gyfer mabwysiadu ar gael gan awdurdodau lleol:

  • cyngor, gwybodaeth a chwnsela
  • cymorth ariannol
  • grwpiau cefnogi ar gyfer plant sydd wedi cael eu mabwysiadu a rhieni mabwysiadol
  • gwasanaethau therapiwtig ar gyfer plant sydd wedi cael eu mabwysiadu, megis ailgyflwyno’r synhwyrau o gyffwrdd, arogli, blasu a gweld, drwy gyfrwng gemau ac ymarferion therapiwtig i blant sydd wedi’u cam-drin a’u hesgeuluso yn y gorffennol
  • cefnogaeth ar gyfer trefniadau cyswllt rhwng plentyn sydd wedi cael ei fabwysiadu a’i deulu naturiol
  • gwasanaethau i gefnogi’r berthynas rhwng y plentyn sydd wedi cael ei fabwysiadu a’i rieni mabwysiadol

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU