Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Absenoldeb Mabwysiadu Statudol (mabwysiadu dramor)

Os ydych yn byw ym Mhrydain ac yn mabwysiadu plentyn dramor, gallech fod â’r hawl i gael hyd at 52 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Statudol a chael Tâl Mabwysiadu Statudol ar gyfer rhan o'r cyfnod hwnnw. Efallai y gall eich partner gael Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth Statudol hefyd.

Cynlluniau tâl ac absenoldeb mabwysiadu cwmnïau

Mae’n bosib y bydd gan eich cyflogwr gynllun tâl ac absenoldeb mabwysiadu a allai fod yn fwy hael na'r cynllun statudol. Edrychwch yn eich contract cyflogaeth neu'ch llawlyfr staff i weld y manylion neu holwch eich cyflogwr. Chaiff eich cyflogwr ddim cynnig llai i chi na'ch hawliau statudol.

Bod yn gymwys i gael Absenoldeb Mabwysiadu Statudol wrth fabwysiadu dramor

Os byddwch chi'n gymwys, bydd gennych chi'r hawl i gael 52 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Statudol. Mae hyn yn cynnwys 26 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Arferol gyda 26 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Ychwanegol i ddilyn.

I fod yn gymwys i gael Absenoldeb Mabwysiadu Statudol, rhaid i'r canlynol fod yn wir:

  • chi sydd wedi mabwysiadu'r plentyn
  • rydych chi wedi gweithio’n barhaus i’ch cyflogwr am o leiaf 26 wythnos erbyn y dyddiad y bydd arnoch eisiau dechrau eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol
  • rydych chi wedi cael hysbysiad swyddogol yn cadarnhau bod yr awdurdod canolog wedi cyhoeddi, neu'n barod i gyhoeddi, tystysgrif yn cadarnhau eich bod yn gymwys i fabwysiadu a’ch bod wedi cael eich asesu a’ch cymeradwyo fel rhiant addas i fabwysiadu

Cyn belled â’ch bod yn bodloni’r meini prawf uchod, a’ch bod yn rhoi’r rhybudd cywir i’ch cyflogwr, gallwch gael Absenoldeb Mabwysiadu Statudol ni waeth:

  • faint o oriau rydych chi’n eu gweithio
  • beth yw eich cyflog

Rhaid i chi roi rhybudd i'ch cyflogwr eich bod am gael Absenoldeb Mabwysiadu Statudol. Bydd angen i chi allu cadarnhau wrth eich cyflogwr eich bod wedi cael hysbysiad swyddogol. Dyma pryd fyddwch yn derbyn hysbysiad bod yr awdurdod canolog yn barod i gyhoeddi tystysgrif, neu wedi cyhoeddi’r dystysgrif.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yr awdurdod canolog; yn Lloegr, yr Adran Addysg; ac yn yr Alban, Gweithrediaeth yr Alban.

Os byddwch chi’n mabwysiadu perthynas o dramor, gallwch hefyd fod yn gymwys i gael Tâl ac Absenoldeb Mabwysiadu Statudol os ydych wedi cael eich asesu a'ch cymeradwyo fel rhiant addas i fabwysiadu.

Os na fyddwch chi'n gymwys i gael Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Os na fyddwch chi'n gymwys i gael Absenoldeb Mabwysiadu Statudol, ewch i siarad â’ch cyflogwr. Mae’n bosib y bydd yn cynnig hawliau mabwysiadu estynedig y mae gennych chi’r hawl i’w cael.

Os ydych chi’n weithiwr, mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn caniatáu i chi gymryd absenoldeb di-dâl. Neu, fel arall, gallech ystyried cymryd gwyliau â thâl, absenoldeb di-dâl neu absenoldeb rhiant. Efallai y bydd gennych chi'r hawl i gael Tâl Mabwysiadu Statudol o hyd.

Cymryd eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Os byddwch chi'n gymwys, bydd gennych chi'r hawl i gael 52 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Statudol. Mae hyn yn cynnwys 26 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Arferol gyda 26 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Ychwanegol i ddilyn.

Cewch ddechrau eich absenoldeb un ai:

  • o'r dyddiad pan fydd y plentyn yn dechrau byw gyda chi, neu
  • hyd at 14 diwrnod cyn y dyddiad yr ydych chi'n disgwyl i'r plentyn ddechrau byw gyda chi

Gall eich absenoldeb ddechrau ar unrhyw ddiwrnod o'r wythnos.

Dweud wrth eich cyflogwr am eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Bydd yn rhaid i chi roi’r canlynol i'ch cyflogwr:

  • y rhybudd priodol ynghylch pryd rydych am ddechrau cael eich Tâl a’ch Absenoldeb Mabwysiadu Statudol
  • tystiolaeth i gadarnhau’ch hawl
  • copi ysgrifenedig o’r rhybudd hwn os bydd eich cyflogwr yn gofyn am hynny

Bydd yn rhaid i chi ddilyn tri cham wrth roi rhybudd:

Cam un

Dylech ddweud wrth eich cyflogwr:

  • ar ba ddyddiad y cawsoch yr hysbysiad swyddogol
  • ar ba ddyddiad y disgwylir i’ch plentyn gyrraedd Prydain Fawr

Bydd pryd y bydd yn rhaid i chi wneud hyn yn dibynnu ar am ba hyd rydych chi wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr.

Mae’n rhaid i chi roi rhybudd i’ch cyflogwr o fewn 28 diwrnod ar ôl i chi gael hysbysiad swyddogol os ydych chi wedi gweithio iddo am 26 wythnos.

Os nad ydych chi wedi gweithio iddo am 26 wythnos, rhaid i chi roi rhybudd o fewn 28 diwrnod ar ôl cwblhau 26 wythnos o wasanaeth.

Cam dau

Bydd rhaid i chi roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd i'ch cyflogwr o'r union ddyddiad y bydd arnoch eisiau dechrau’ch Absenoldeb Mabwysiadu Statudol a'ch Tâl Mabwysiadu Statudol. Gallwch roi’r rhybudd hwn adeg y cam cyntaf os ydych chi’n gwybod beth yw’r dyddiad. Ni all Tâl nac Absenoldeb Mabwysiadu Statudol ddechrau cyn i’r plentyn gyrraedd Prydain Fawr.

Gallwch newid eich meddwl ynghylch y dyddiad rydych chi am i’ch absenoldeb ddechrau, ond mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad newydd. Os na fydd hyn yn bosib, rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr cyn gynted ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

Cam tri (ar ôl i’r plentyn gyrraedd Prydain Fawr)

Bydd yn rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr ar ba ddyddiad y gwnaeth eich plentyn gyrraedd Prydain Fawr. Bydd yn rhaid i chi wneud hyn o fewn 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y daeth eich plentyn i Brydain Fawr. Os ydych chi hefyd yn hawlio Tâl Mabwysiadu Statudol, bydd angen i chi roi tystiolaeth o'r dyddiad hwn. Gallai’r dystiolaeth hon fod yn gopi o stamp pasbort neu fisa.

Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol

Gallai’r unigolyn sy’n mabwysiadu ar y cyd â chi fod â'r hawl i gael hyd at 26 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol. Mae hyn yn ychwanegol i’r pythefnos o Absenoldeb Tadolaeth Statudol y gallai fod â’r hawl i’w gael. Gellir cymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol hyd at 20 wythnos ar ôl i’r plentyn gael ei eni. Mae’n rhaid iddo ddod i ben cyn pen-blwydd cyntaf y plentyn.

Beth i’w wneud os ydych chi’n wynebu problemau wrth gymryd Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Os byddwch chi’n wynebu problem yn ystod eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol, siaradwch â’ch cyflogwr yn gyntaf – efallai mai dim ond camddealltwriaeth syml ydyw. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi wneud cwyn gan ddilyn trefn gwyno eich cyflogwr.

Allweddumynediad llywodraeth y DU