Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd eich hawliau yn ystod eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol yr un fath p’un ai ydych yn mabwysiadu o’r DU neu o dramor. Yma, cewch wybod sut bydd eich telerau cyflogaeth, er enghraifft eich cyfraniadau pensiwn a’ch hawl gwyliau, yn cael eu gwarchod yn ystod eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol.
Yn ystod eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol, bydd telerau ac amodau eich cyflogaeth yn cael eu gwarchod.
Byddwch yn cadw eich hawliau a’ch buddiannau cyflogaeth arferol (ar wahân i gyflog) drwy gydol eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol.
Gallai hyn gynnwys unrhyw fynediad at fuddiannau a gewch fel rhan o’ch contract cyflogaeth, er enghraifft car cwmni neu ffôn symudol. Fodd bynnag, os yw'r buddiannau’n cael eu darparu ar gyfer defnydd busnes, mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn gallu'u hatal dros dro.
Os yw eich cyflogwr yn cyfrannu at gynllun pensiwn galwedigaethol, mae'n rhaid iddo barhau i wneud ei gyfraniadau arferol:
Os ydych chi fel arfer yn gwneud cyfraniadau at eich pensiwn, dylech barhau i wneud hynny, yn seiliedig ar swm y tâl mabwysiadu yr ydych yn ei gael.
Byddwch yn dal i gronni eich holl hawliau i wyliau â thâl drwy gydol eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol. Mae hyn yn wir hyd yn oed os yw eich contract yn dweud bod gennych chi'r hawl i gael mwy na'r lleiafswm statudol.
Gallwch ychwanegu gwyliau at ddechrau neu at ddiwedd eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol. Efallai na fyddwch yn gallu cario hawl gwyliau nad ydych chi wedi’i chymryd drosodd os bydd cyfnod eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol dros ddwy flwyddyn wyliau. Mae’n aml yn well i chi gymryd y gwyliau ar ddechrau eich absenoldeb.
Mae'n annheg yn awtomatig ac yn achos o gamwahaniaethu ar sail rhyw yn awtomatig os bydd eich cyflogwr yn dewis dileu eich swydd chi, neu eich diswyddo, am reswm sy'n gysylltiedig â'r canlynol:
Gall eich cyflogwr ddileu eich swydd yn ystod eich absenoldeb mabwysiadu os gall gyfiawnhau ei ddewis yn deg. Er enghraifft, efallai y bydd eich cyflogwr yn cau’r adran o’i fusnes y byddwch chi fel arfer yn gweithio ynddi, gan ddileu swyddi pob un o weithwyr yr adran honno. Yna, gall eich cyflogwr ddileu eich swydd chi hefyd.
Fodd bynnag, os bydd eich cyflogwr yn cael gwared ar staff ar draws y cwmni, ni chaiff ddileu eich swydd chi oherwydd eich bod wedi cymryd absenoldeb mabwysiadu neu ar fin ei gymryd.
Os caiff eich swydd ei dileu yn ystod eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol, bydd gennych chi hawliau arbennig. Mae gennych chi’r hawl i gael cynnig unrhyw swydd arall addas yn y cwmni. Mae hyn yn wir hyd yn oed os oes gweithwyr eraill a allai fod yn fwy addas ar gyfer y swydd. Os cewch gynnig swydd newydd, bydd gennych chi'r hawl i gael cyfnod prawf o bedair wythnos o hyd, a ddylai ddechrau pan fyddwch yn dychwelyd o'ch absenoldeb mabwysiadu. Diben y cyfnod prawf hwn o bedair wythnos yw eich helpu i benderfynu a yw’r swydd yn addas.
Os caiff eich swydd ei dileu, neu os cewch eich diswyddo yn ystod eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol, bydd yn rhaid i’ch cyflogwr roi datganiad ysgrifenedig i chi yn egluro’r rhesymau dros ei benderfyniad. Dylech gael eich cyfnod rhybudd arferol neu dâl yn lle rhybudd a thâl dileu swydd, os oes gennych chi hawl i'w cael.
Yn ystod eich absenoldeb, gall cadw mewn cysylltiad â'ch cyflogwr fod yn fanteisiol. Mae gan eich cyflogwr hawl i gael cyswllt rhesymol gyda chi yn ystod yr Absenoldeb Mabwysiadu Statudol. Er enghraifft, gallai hyn fod i drafod trefniadau i chi ddychwelyd i'r gwaith neu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw newidiadau arwyddocaol yn y gweithle.
Mae gennych hawl hefyd i weithio am hyd at ddeg diwrnod yn ystod eich absenoldeb mabwysiadu heb golli tâl mabwysiadu, a heb i'ch absenoldeb ddod i ben.
Gelwir y rhain yn ddyddiau cadw mewn cysylltiad – ac ni chewch weithio ar y dyddiau hyn oni bai eich bod chi a’ch cyflogwr yn cytuno ar hynny.
Er eu bod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer pethau megis hyfforddiant neu ddigwyddiadau tîm, gellir defnyddio dyddiau cadw mewn cysylltiad ar gyfer unrhyw fath o waith. Dylai’r dyddiau hyn ei gwneud yn haws i chi ddychwelyd i’r gwaith ar ôl eich absenoldeb.
Bydd angen i chi a'ch cyflogwr gytuno ar ba waith y dylech ei wneud a faint o dâl y byddwch yn ei gael.
Os byddwch chi’n wynebu problem yn ystod eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol, siaradwch â’ch cyflogwr yn gyntaf – efallai mai dim ond camddealltwriaeth syml ydyw. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi wneud cwyn gan ddilyn trefn gwyno eich cyflogwr.