Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Absenoldeb Mabwysiadu Statudol (mabwysiadu yn y DU)

Os byddwch chi'n mabwysiadu plentyn, mae'n bosib y bydd gennych chi'r hawl i gael 52 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Statudol. Yma, cewch wybod rhagor ynglŷn â bod yn gymwys i gael Absenoldeb Mabwysiadu Statudol a sut mae rhoi gwybod i’ch cyflogwr eich bod am ei hawlio.

Help personol ynghylch eich hawl i gael Tâl ac Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Gallwch gael help personol ynghylch faint o Dâl ac Absenoldeb Mabwysiadu Statudol gallech chi fod yn gymwys i’w hawlio drwy ddefnyddio’r gwasanaeth hawliau mabwysiadu ar-lein. Bydd y gwasanaeth yn llunio datganiad personol o’r Tâl a’r Absenoldeb Mabwysiadu Statudol y gallech chi fod â’r hawl i’w gael.

Cynlluniau tâl ac absenoldeb mabwysiadu cwmnïau

Efallai y bydd gan eich cyflogwr ei gynllun absenoldeb mabwysiadu ei hun a allai fod yn fwy hael na'r cynllun statudol. Edrychwch yn eich contract cyflogaeth neu'ch llawlyfr staff i weld y manylion neu holwch eich cyflogwr. Chaiff eich cyflogwr ddim cynnig llai i chi na'r cynllun statudol.

Bod yn gymwys i hawlio Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Os byddwch chi'n gymwys, bydd gennych chi'r hawl i gael 52 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Statudol, sef 26 wythnos o absenoldeb mabwysiadu arferol, a 26 wythnos o absenoldeb mabwysiadu ychwanegol ar ôl hynny.

I fod yn gymwys i hawlio Absenoldeb Mabwysiadu Statudol rhaid i’r canlynol fod yn wir:

  • rydych chi’n weithiwr cyflogedig
  • mae asiantaeth mabwysiadu newydd eich paru â phlentyn (ystyr ‘paru’ yw bod yr asiantaeth mabwysiadu’n rhoi i chi fanylion y plentyn sydd yn eu tyb nhw'n addas i chi ei fabwysiadu)
  • rydych chi wedi gweithio'n ddi-dor i'ch cyflogwr presennol am 26 wythnos o leiaf cyn dechrau'r wythnos pan gewch eich paru â phlentyn

Cyn belled â’ch bod yn bodloni’r meini prawf uchod, a’ch bod yn rhoi’r rhybudd priodol i’ch cyflogwr, cewch hawlio Absenoldeb Mabwysiadu Statudol ni waeth:

  • faint o oriau rydych chi’n eu gweithio
  • faint o arian a delir i chi

Rhaid i chi roi prawf dogfennol i'ch cyflogwr i ddangos bod gennych chi'r hawl i gael Absenoldeb Mabwysiadau Statudol gyda thâl. Fel arfer, tystysgrif paru gan eich asiantaeth mabwysiadu fydd y prawf. Rhaid i’r asiantaeth mabwysiadu fod yn gydnabyddedig yn y DU.

Ni fyddwch yn gymwys i hawlio Tâl nac Absenoldeb Mabwysiadu Statudol os byddwch:

  • yn trefnu i fabwysiadu’n breifat
  • yn dod yn warcheidwad arbennig
  • yn mabwysiadu llysblentyn
  • yn cael plentyn drwy fenthyg croth

Os byddwch yn mabwysiadu plentyn o dramor, bydd rheolau gwahanol yn berthnasol.

Os na fyddwch chi'n gymwys i hawlio Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Os na fyddwch chi'n gymwys i hawlio Absenoldeb Mabwysiadu Statudol, dylech siarad â’ch cyflogwr. Mae’n bosib y bydd yn cynnig hawliau mabwysiadu estynedig y mae gennych chi’r hawl iddynt. Fel arall, gallech ystyried cymryd gwyliau gyda thâl, gwyliau heb dâl neu absenoldeb rhiant.

Hawlio eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Gallwch ddechrau hawlio eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol naill ai:

  • o'r dyddiad pan fydd y plentyn yn dechrau byw gyda chi, neu
  • hyd at 14 diwrnod cyn y dyddiad rydych chi'n disgwyl i'r plentyn ddechrau byw gyda chi

Gall eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol ddechrau unrhyw ddiwrnod o'r wythnos.

Rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod am hawlio Absenoldeb Mabwysiadu Statudol o fewn saith niwrnod ar ôl cael gwybod eich bod wedi'ch paru gyda phlentyn i'w fabwysiadu. Os nad yw’n bosib i chi ddweud wrth eich cyflogwr o fewn saith niwrnod, rhaid i chi roi gwybod iddo mor fuan â phosib.

Ar yr un pryd, rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr:

  • pa bryd y disgwylir i'r plentyn ddod atoch
  • pryd rydych chi am ddechrau hawlio Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Gallwch chi newid dyddiad dechrau eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol cyn belled â'ch bod yn rhoi 28 diwrnod o leiaf o rybudd i'ch cyflogwr.

Dylai’ch cyflogwr ddweud wrthych ar ba ddyddiad y bydd eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol yn dod i ben o fewn 28 diwrnod ar ôl cael eich rhybudd. Bydd hyn 52 wythnos ar ôl iddo ddechrau. Gallwch ddychwelyd cyn hyn cyn belled â’ch bod yn rhoi gwybod i'ch cyflogwr wyth wythnos ymlaen llaw.

Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol

Gallai’r unigolyn sy’n mabwysiadu ar y cyd â chi fod â'r hawl i gael hyd at 26 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol. Mae hyn yn ychwanegol at y bythefnos o Absenoldeb Tadolaeth Statudol y gallai fod â’r hawl i’w gael. Gellir hawlio Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol ar ôl 20 wythnos ar ôl i’r plentyn ddechrau byw gyda chi. Rhaid iddo ddod i ben cyn i'r plentyn fod wedi byw gyda chi am flwyddyn.

Beth i’w wneud os cewch broblemau wrth hawlio eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Os cewch broblem wrth hawlio eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol, ewch i siarad â'ch cyflogwr yn gyntaf – efallai mai camddealltwriaeth syml ydyw. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno eich cyflogwr.

Allweddumynediad llywodraeth y DU