Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gennych chi hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth pan fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o Absenoldeb Mabwysiadu Statudol. Yn y fan hon cewch wybod beth yw'r rhain a beth ddylech chi ei wneud os cewch unrhyw broblemau neu os nad ydych chi'n cael eich hawliau.
Pan fyddwch chi'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl bod ar gyfnod o Absenoldeb Mabwysiadu Arferol (y 26 wythnos gyntaf o'ch Absenoldeb Mabwysiadu Statudol), bydd gennych hawl i fynd yn ôl i'r un swydd dan yr un telerau ac amodau â phetaech heb fod yn absennol.
Mae hyn hefyd yn wir pan fyddwch chi'n dychwelyd ar ôl cyfnod o Absenoldeb Mabwysiadu Ychwanegol (y 26 wythnos olaf o'ch Absenoldeb Mabwysiadu Statudol). Fodd bynnag, os yw'ch cyflogwr yn dangos nad yw'n ymarferol resymol i chi ddychwelyd i'ch swydd wreiddiol (ee gan nad yw'r swydd honno'n bodoli bellach), nid yw'r un hawliau gennych. Os felly, rhaid i chi gael cynnig gwaith arall gyda'r un telerau ac amodau â phetaech chi heb fod yn absennol.
Bydd eich cyflogwr yn tybio y byddwch yn cymryd y 52 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Statudol i gyd. Os byddwch chi'n cymryd y 52 wythnos yn llawn, does dim angen i chi roi rhybudd eich bod yn dychwelyd. Fodd bynnag, gall fod yn syniad da gwneud hynny.
Os ydych chi'n awyddus i ddychwelyd yn gynharach, er enghraifft, pan fydd eich Tâl Mabwysiadu Statudol yn dod i ben neu gan fod eich partner yn cymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol, mae'n rhaid i chi roi o leiaf wyth wythnos o rybudd. Os na fyddwch yn gwneud hyn, gall eich cyflogwr fynnu nad ydych chi'n dychwelyd nes bod yr wyth wythnos wedi mynd heibio. Mae'n rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod:
Os penderfynwch beidio â dychwelyd i'r gwaith o gwbl, rhaid i chi roi rhybudd i'ch cyflogwr yn y ffordd arferol.
Os na allwch ddychwelyd i'r gwaith, oherwydd salwch, ar ddiwedd y cyfnod pan ddaw eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol i ben, rhowch wybod i'ch cyflogwr yn y ffordd arferol.
Mae gan rieni plant 16 oed ac iau, neu blant anabl 18 oed ac iau, hawl i ofyn am batrwm gweithio hyblyg. Gall hyn eich helpu i gael cydbwysedd rhwng gweithio a gofalu am eich plentyn. Rhaid i’ch cyflogwr ystyried eich cais ac ymateb i chi’n ysgrifenedig.
Os bydd arnoch chi angen mwy o amser o’r gwaith i ofalu am eich plentyn, efallai y gallwch gymryd absenoldeb rhiant. Gallwch gymryd hyd at bedair wythnos o absenoldeb rhiant ar ddiwedd eich Absenoldeb Mabwysiadu Statudol heb i hyn effeithio ar eich hawl i ddychwelyd.
Os byddwch yn cymryd mwy na phedair wythnos byddwch yn gallu dychwelyd i'r un swydd oni bai nad yw hyn yn rhesymol ymarferol. Os felly, rhaid i chi gael cynnig gwaith arall sy’n addas i chi gyda'r un telerau ac amodau â phetaech chi heb fod yn absennol.
Does dim rhaid i absenoldeb rhiant ddod yn syth ar ôl yr Absenoldeb Mabwysiadu Statudol. Gallwch gymryd absenoldeb rhiant yn nes ymlaen ar ôl i chi ddychwelyd i'r gwaith.
Os ydych chi wedi mabwysiadu plentyn ar y cyd, gallai eich gŵr/gwraig, eich partner neu'ch partner sifil fod â'r hawl i hyd at 26 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol. Mae hyn yn ychwanegol i’r pythefnos o Absenoldeb Tadolaeth Arferol y gallai fod â’r hawl i’w gael.
Gellir cymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol 20 wythnos ar ôl i’r plentyn gael ei eni. Mae’n rhaid iddo ddod i ben cyn pen-blwydd cyntaf y plentyn.
Mae'n rhaid eich bod wedi dychwelyd i'r gwaith cyn y gall yr unigolyn arall sy'n mabwysiadu gyda chi gymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol. Os bydd y tad yn penderfynu cymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol, gofynnir i chi am ddatganiad wedi'i lofnodi, a hwnnw'n dangos:
Os byddwch chi’n wynebu problem, siaradwch â’ch cyflogwr yn gyntaf – efallai mai dim ond camddealltwriaeth syml ydyw. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi wneud cwyn gan ddilyn trefn gwyno eich cyflogwr.