Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Yr hawl i ofyn am weithio hyblyg

Gall gweithio hyblyg fod o fantais i chi ac i’ch cyflogwr. Yma, cewch wybod am yr amrywiol ffyrdd y gallech weithio’n hyblyg, a oes gennych chi'r hawl i ofyn am gael gwneud, a sut mae gwneud cais.

Pwy all ofyn am weithio hyblyg?

Mae gweithio hyblyg yn disgrifio amrywiaeth o batrymau gweithio a all fod o fantais i chi wrth i chi gydbwyso eich bywyd a’ch gwaith. Cewch wybod a oes gennych chi hawl statudol (gyfreithiol) i ofyn am weithio hyblyg drwy ddilyn y ddolen isod.

Gweithio hyblyg: gwneud cais

Os oes gennych chi hawl statudol i ofyn am weithio hyblyg, yna bydd yn rhaid i chi ddilyn proses benodol er mwyn gwneud cais. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod ynglŷn â gwneud eich cais a'r wybodaeth y dylech ei chynnwys.

Gweithio hyblyg: canlyniad eich cais

Dylai eich cyflogwr ddilyn proses benodol wrth ystyried eich cais. Os na chaiff eich cais ei dderbyn, dylai eich cyflogwr drafod hyn ymhellach gyda chi. Os caiff eich cais ei wrthod, bydd gennych chi'r hawl i apelio am nifer o resymau gwahanol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU