Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Manteision gweithio hyblyg

Cyn gwneud cais am batrwm gweithio hyblyg, dylech ystyried effaith hyn arnoch chi a'ch cyflogwr. Yma cewch wybod beth yw manteision y gwahanol fathau o batrymau gweithio hyblyg.

Ystyried gweithio hyblyg

Gall gweithio hyblyg ddwyn amryw o fanteision wrth i chi gydbwyso eich bywyd a'ch gwaith. Gall sicrhau bod gennych fwy o amser i ofalu am blentyn neu aelod arall o’r teulu, a’i gwneud yn haws o lawer i chi reoli'r cyfrifoldebau hyn.

Ceir sawl gwahanol fath o batrwm gweithio hyblyg. Cyn gwneud cais am weithio hyblyg, dylech feddwl yn ofalus am eich sefyllfa ac am y patrwm gweithio a fyddai’n addas i chi. Darllenwch yr adrannau isod sy'n amlinellu rhai o'r elfennau y byddwch am eu hystyried o bosib.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol y gall gymryd 14 wythnos neu fwy i’ch cyflogwr ystyried eich cais am weithio hyblyg ac i gyflwyno’r newidiadau. Ar ôl i chi benderfynu pa batrwm gweithio hyblyg sy’n addas i chi, mae'n debyg na fydd y newid yn digwydd yn syth.

Ymrwymiadau teuluol

Os oes gennych blant neu os ydych am ddilyn patrwm gweithio hyblyg er mwyn gofalu am aelod arall o’r teulu, gallech ystyried y canlynol:

  • oriau cywasgedig
  • oriau hyblyg
  • gweithio gartref
  • rhannu swydd
  • gwaith rhan-amser
  • amser o’r gwaith yn lle oriau a weithiwyd, gyda strwythur
  • gweithio yn ystod y tymor

Yr effaith ar eich cyflog

Os byddwch yn lleihau nifer yr oriau rydych yn eu gweithio o dan eich contract cyflogaeth, mae'n debygol y bydd eich cyflog yn lleihau. Os oes arnoch eisiau gweithio oriau hyblyg a pharhau i gael yr un cyflog, dylech ystyried y canlynol:

  • oriau cywasgedig
  • oriau hyblyg
  • gweithio gartref
  • amser o’r gwaith yn lle oriau a weithiwyd, gyda strwythur
  • amrywio oriau
  • oriau ar sail blwyddyn

Cyfrifoldebau dyddiol

Efallai fod gennych ddyletswyddau dyddiol na ellir eu rhoi i neb arall, ac y mae'n rhaid eu gwneud yn y gweithle neu ar adeg benodol. Yn yr achosion hyn, efallai y byddwch am ystyried:

  • rhannu swydd
  • oriau hyblyg

Os gall eich cyflogwr roi eich dyletswyddau arferol i rywun arall, efallai y gallwch ystyried opsiynau gweithio hyblyg eraill. Neu, efallai y bydd yn bosib i chi weithio ar yr adeg y byddwch yn arfer cyflawni'r dyletswyddau.

Oriau gwaith amrywiol

Efallai fod eich oriau gwaith yn amrywio’n ôl cyfnodau prysur yn y gwaith neu oriau tymhorol, neu efallai yr hoffech allu gweithio oriau gwahanol bob wythnos. Os felly, efallai y byddwch am ystyried un o’r patrymau gweithio canlynol:

  • oriau ar sail blwyddyn
  • oriau hyblyg
  • amrywio oriau
  • amser o’r gwaith yn lle oriau a weithiwyd, gyda strwythur
  • gweithio yn ystod y tymor

Mae’r patrymau gweithio hyn yn eich galluogi i gymryd amser o’r gwaith yn ystod cyfnodau tawelach.

Oriau gwaith penodedig

Os hoffech weithio'r un nifer o oriau bob wythnos, dylech ystyried y patrymau gweithio canlynol:

  • oriau cywasgedig
  • rhannu swydd
  • gweithio gartref
  • gwaith rhan-amser
  • amrywio oriau

Mae’r patrymau gweithio hyn yn eich galluogi i gydblethu'ch oriau gwaith â'ch anghenion gofalu. Fodd bynnag, os bydd eich ymrwymiadau gofalu'n effeithio ar eich diwrnod gwaith, bydd angen i chi gytuno â'ch cyflogwr i weithio y tu allan i'ch oriau arferol.

Parhau i weithio yn ystod oriau gwaith arferol

Os hoffech ddilyn patrwm gweithio hyblyg o fewn oriau gwaith arferol, gallech ystyried y canlynol:

  • oriau hyblyg
  • rhannu swydd
  • gwaith rhan-amser
  • amrywio oriau

Gwaith ar alwad

Os ydych chi'n gweithio ar alwad, gall y patrymau gweithio canlynol fod yn opsiwn da:

  • oriau ar sail blwyddyn
  • oriau cywasgedig
  • amser o’r gwaith yn lle oriau a weithiwyd, gyda strwythur

Gallwch ddewis cyfnodau pan fyddwch yn gweithio llai o oriau i wneud iawn am yr oriau ychwanegol y byddwch yn eu gweithio pan fyddwch ar alwad.

Beth i'w wneud nesaf

Os ydych chi’n barod i wneud cais am batrwm gweithio hyblyg, dylech ddarllen ‘Yr hawl i wneud cais am batrwm gweithio hyblyg’ i gael manylion y broses y dylech ei dilyn.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gwahanol fathau o batrymau gweithio hyblyg, darllenwch 'Gwahanol fathau o batrymau gweithio hyblyg'.

Allweddumynediad llywodraeth y DU