Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwahanol fathau o weithio hyblyg

Nid yw gweithio hyblyg yn golygu gweithio rhan amser yn unig. Ceir sawl gwahanol fath o batrwm gweithio hyblyg, megis oriau hyblyg, gweithio o gartref ac oriau cywasgedig. Os ydych chi’n ystyried gweithio’n hyblyg, dylech ystyried pa batrwm fyddai'n addas ar gyfer eich anghenion chi cyn gwneud cais i'ch cyflogwr.

Mathau o weithio hyblyg

Gall gweithio hyblyg fod o fantais i chi wrth i chi gydbwyso eich bywyd a'ch gwaith. Gall gynyddu’r amser sydd gennych i ofalu am blentyn neu aelod arall o’r teulu, a gall ei gwneud yn llawer haws rheoli'r cyfrifoldebau hyn.

Ceir sawl gwahanol fath o batrwm gweithio hyblyg. Ceisiwch ystyried yr amrywiol batrymau gweithio hyblyg cyn i chi ofyn am gael gweithio’n hyblyg.

Gall eich cyflogwr gymryd 14 wythnos neu ragor i ystyried cais am weithio hyblyg a chyflwyno’r newidiadau, felly mae’n debyg na fydd newid yn digwydd yn syth ar ôl i chi benderfynu ar batrwm gweithio hyblyg.

Oriau hyblyg

Bydd oriau hyblyg yn caniatáu i chi ddewis, o fewn terfynau y cytunwyd arnynt, pryd i ddechrau a gorffen eich diwrnod gwaith. Byddwch yn gweithio amser craidd sylfaenol, ond gallwch amrywio pryd fyddwch yn dechrau, yn gorffen ac yn cymryd hoe bob dydd.

Er enghraifft, mae’n bosib y byddwch yn gallu trosglwyddo unrhyw oriau sy’n ormod gennych neu unrhyw ddiffyg yn y nifer o oriau y mae’n ofynnol i chi weithio, o fewn rheswm. Gall hyn fod rhywbeth yn debyg i un neu ddau ddiwrnod y mis.

Gweithio o gartref

Byddwch yn gweithio holl oriau eich contract neu ran o oriau eich contract o gartref os byddwch yn gweithio o gartref. Bydd yn eich galluogi i dreulio rhan o’ch wythnos waith, neu’ch wythnos waith gyfan, yn gwneud eich swydd o gartref neu o leoliad gwahanol i'ch gweithle.

Er enghraifft, os yw eich swydd yn seiliedig ar waith cyfrifiadurol ac os nad oes yn rhaid i chi fod yn y swyddfa bob dydd, gallwch weithio o gartref oni bai am y diwrnodau y bydd gennych chi gyfarfodydd neu hyfforddiant.

Bydd angen i chi gael yr offer, yr adnoddau, a’r gofod cywir yn eich cartref i’ch galluogi chi i wneud eich gwaith.

Gweithio yn ystod y tymor

Dyma lle bydd eich gwaith yn dilyn patrymau tymor yr ysgol. Byddwch yn gweithio fel yr arfer yn ystod y tymor, ond yn ystod gwyliau'r ysgol, ni fyddwch yn mynd i'r gwaith, ond byddwch wedi'ch cyflogi o hyd. Er enghraifft, gallech ddewis peidio â gweithio yn ystod gwyliau’r ysgol er mwyn gallu gofalu am eich plant.

Amser o’r gwaith yn lle oriau a weithiwyd, gyda strwythur

Dyma lle byddwch yn cytuno i weithio oriau hwy yn ystod y cyfnodau prysuraf. Bydd yr oriau ychwanegol hyn yn cael eu cofnodi, a gallwch gymryd amser o’r gwaith (gyda thâl) mewn cyfnod sy’n llai prysur.

Mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn gosod terfynau ar faint o oriau y gallwch eu cronni dros y flwyddyn a phryd y cewch gymryd amser o’r gwaith.

Oriau cywasgedig

Oriau cywasgedig yw lle byddwch yn gweithio’r oriau y cytunwyd arnynt dros lai o ddiwrnodau. Er enghraifft, yn hytrach na gweithio 35 awr yr wythnos dros bum niwrnod, gallech ofyn am gael gweithio'r un faint o oriau dros bedwar diwrnod.

Fel arfer, bydd cyfanswm yr oriau y byddwch yn eu gweithio bob wythnos yr un fath.

Gweithio rhan amser

Bydd gweithio rhan amser yn golygu bod eich contract yn gofyn i chi weithio llai o oriau na'ch oriau amser llawn arferol. Chi fydd fel arfer yn cytuno pa oriau i’w gweithio gyda’ch cyflogwr.

Gallai olygu eich bod yn gweithio'r un faint o ddyddiau ond am lai o oriau bob dydd, neu eich bod yn gweithio am lai o ddyddiau bob wythnos. Mae amrywiaeth eang o batrymau gwaith posib ar gael y gallech gytuno arnynt.

Oriau blynyddol

Bydd oriau blynyddol yn gosod eich amser gwaith ar gyfartaledd dros y flwyddyn, fel eich bod yn gweithio cyfanswm penodol o oriau'r flwyddyn yn hytrach na chyfanswm penodol yr wythnos. Fel arfer, caiff yr oriau eu rhannu i oriau craidd sy’n cael eu gweithio bob wythnos ac oriau sydd heb eu dyrannu y gellir eu defnyddio ar gyfer cyfnodau o alw uwch.

Er enghraifft, os yw eich cwmni yn brysur iawn rhwng mis Mai a mis Medi gallech weithio oriau ychwanegol yn ystod y cyfnod hwnnw. Yna, gallech leihau eich oriau rhwng mis Hydref a mis Ebrill pan fydd eich gweithle yn llai prysur.

Bydd oriau blynyddol yn golygu y bydd hyd eich wythnos waith yn amrywio o wythnos i wythnos neu o dymor i dymor yn unol ag anghenion y busnes.

Rhannu swydd

Wrth rannu swydd, byddwch yn gweithio un ai rhan o ddiwrnod, rhan o wythnos neu ran o flwyddyn a byddwch yn rhannu dyletswyddau a chyfrifoldebau swydd amser llawn gyda gweithiwr rhan amser arall. Bydd y ddau ohonoch yn cytuno ar yr oriau cyn rhannu'r baich gwaith, y dyletswyddau gwneud penderfyniadau, y dyletswyddau datrys problemau ac weithiau'r cyfrifoldeb o oruchwylio staff. Er enghraifft, mae’n bosib i ddau gyflogai rannu un swydd addysgu.

Amrywio oriau

Wrth amrywio oriau gall eich cyflogwr gadw oriau agor hwy wrth i chi a’ch cydweithwyr yn y gweithle gael amserau dechrau, amserau gorffen ac amserau hoe gwahanol. System sifftiau ydyw yn ei hanfod.

Bydd patrwm eich oriau gwaith o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos fel arfer yr un fath. Er enghraifft, efallai y byddwch yn dechrau am 8.00 am ac yn gorffen am 4.00 pm bob dydd.

Beth i'w wneud nesaf

Os ydych chi’n ceisio penderfynu pa batrwm gweithio hyblyg fyddai’n addas ar gyfer eich anghenion chi, darllenwch ‘Manteision gweithio hyblyg’.

Os ydych chi’n barod i wneud cais, dylech ddarllen ‘Yr hawl i ofyn am weithio hyblyg’ er mwyn cael manylion ynglŷn â'r broses y dylech ei dilyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU