Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mabwysiadu llysblentyn

Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr ac yn bwriadu mabwysiadu plentyn eich priod neu'ch partner, bydd angen i chi roi gwybod i'ch cyngor lleol. Mae’n rhaid i chi wneud hyn o leiaf dri mis cyn dechrau eich cais i fabwysiadu gyda’r llys. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y llys yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i chi dros y plentyn.

Cael cyfrifoldeb rhiant heb fabwysiadu

Gall llys-riant gael cyfrifoldeb rhiant dros blentyn ei briod neu’i bartner, naill ai:

  • os yw’r ddau riant naturiol (neu unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant) yn cytuno, neu
  • os mai dyna yw gorchymyn y llys

Mantais hyn yw nad yw cyfrifoldeb rhiant y rhiant naturiol arall yn cael ei dynnu ymaith. Mae hefyd yn golygu nad yw'r plentyn yn peidio â bod yn aelod cyfreithiol o deulu’r rhiant naturiol arall. Mae’r mesur hwn ond yn berthnasol i gyplau priod a phartneriaid sifil.

Sut bydd eich cais i fabwysiadu yn cael ei asesu

Os ydych chi wedi penderfynu mabwysiadu, bydd y llys yn gofyn i’ch cyngor lleol ddarparu adroddiad ar:

  • eich partner
  • y plentyn
  • y rhiant naturiol arall

Bydd yr adroddiad yn cael ei baratoi gan weithiwr cymdeithasol a bydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn helpu’r llys i wneud penderfyniad. Asesir a ydych chi’n gymwys ai peidio yn yr un ffordd ag os byddech yn mabwysiadu plentyn sy’n ‘derbyn gofal’.

Fel arfer, bydd yn rhaid i riant neu rieni eraill y plentyn, neu unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto, roi caniatâd i’r plentyn gael ei fabwysiadu. Fodd bynnag, ar sail yr adroddiad, weithiau gallai’r llys benderfynu nad yw hynny’n angenrheidiol.

Dim ond os byddai cael ei fabwysiadu er lles gorau i’r plentyn y gwneir gorchymyn mabwysiadu – a fydd yn rhoi hawliau rhiant i chi. Mae sawl llys-riant yn teimlo bod angen iddo fabwysiadu ei lysblentyn er mwyn gwneud i’r teulu deimlo’n gyflawn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn rheswm digonol i’r llys wneud gorchymyn mabwysiadu.

Pwy fydd â chyfrifoldeb rhiant?

Pan fyddwch yn mabwysiadu plentyn eich partner, ni fydd y gorchymyn mabwysiadu yn ymyrryd â chyfrifoldeb rhiant eich priod neu’ch partner. Bydd y gorchymyn mabwysiadu yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i chi, sef y ceisydd, dros y plentyn.

Fodd bynnag, bydd y gorchymyn mabwysiadu yn tynnu ymaith gyfrifoldeb rhiant:

  • y rhiant naturiol arall
  • unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn

Bydd hefyd yn dileu unrhyw orchmynion sy’n bodoli’n barod, megis:

  • gorchmynion cyswllt – lle mae’r llys wedi dyfarnu sut a phryd y bydd ymweliadau cyswllt â’r plentyn yn digwydd
  • gorchmynion preswylio – lle mae’r llys wedi penderfynu gyda pha riant y dylai’r plentyn fyw
  • gorchmynion gwarcheidwadaeth arbennig – lle mae’r llys wedi rhoi cyfrifoldeb rhiant dros dro i bobl ar wahân i’r rhieni naturiol, er enghraifft i berthnasau

Mabwysiadu llysblentyn o dramor

Er mwyn mabwysiadu plentyn eich partner o dramor, bydd angen i chi fynd drwy'r un broses â phetaech yn mabwysiadu plentyn nad ydych chi’n ei adnabod o dramor. Gelwir hyn hefyd yn fabwysiadu rhwng gwledydd.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU