Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth yw mabwysiadu a phwy gaiff wneud cais?

Mabwysiadu yw lle mae plentyn yn dod yn aelod cyfreithiol o deulu newydd a bydd ganddo un neu ddau riant newydd. Os ydych chi’n o leiaf 21 mlwydd oed ac yn gallu darparu cartref parhaol, sefydlog a gofalgar, croesewir eich cais i fabwysiadu. Nid oes uchafswm oedran.

Gorchmynion mabwysiadu

Dim ond llys all wneud gorchymyn mabwysiadu. Effaith y gorchymyn mabwysiadu yw na fydd gan y rhieni naturiol bellach unrhyw hawliau a chyfrifoldebau fel rhieni tuag at eu plentyn. Rhoddir yr hawliau a’r cyfrifoldebau hynny i’r rhieni mabwysiadol.

Ar ôl i’r llys wneud gorchymyn mabwysiadu mae’r plentyn yn dod yn aelod llawn o’r teulu mabwysiadol. Caiff ddefnyddio cyfenw ei rieni mabwysiadol a bydd yn derbyn yr un hawliau a breintiau â phe bai wedi cael ei eni’n blentyn naturiol iddynt. Mae hyn yn cynnwys hawliau etifeddu.

A yw plentyn yn gymwys ar gyfer ei fabwysiadu?

Cyn i’r llys allu gwneud gorchymyn mabwysiadu, mae'n rhaid i'r llys fodloni ar y canlynol i gyd:

  • bod y plentyn dan 18 mlwydd oed pan gafodd y cais i fabwysiadu ei wneud
  • nad yw’r plentyn yn briod na mewn partneriaeth sifil – nac erioed wedi bod
  • bod dau riant naturiol y plentyn wedi rhoi eu caniatâd i’w plentyn gael ei fabwysiadu

Mewn rhai achosion, nid yw’n angenrheidiol cael caniatâd gan y rhiant naturiol neu’r gwarcheidwad. Mae hyn yn digwydd:

  • pan nad oes modd cael hyd i’r rhiant naturiol neu’r gwarcheidwad neu pan nad yw’n gallu rhoi ei ganiatâd
  • pan fyddai lles y plentyn yn cael ei beryglu os byddai’r gorchymyn mabwysiadu yn cael ei ohirio

Pwy all wneud cais i fabwysiadu?

Mae’r canlynol yn gymwys i wneud cais i fabwysiadu:

  • pobl sengl (beth bynnag y bo eu tueddfryd rhywiol)
  • partner i riant y plentyn sydd i’w fabwysiadu
  • cyplau priod
  • partneriaid sifil
  • cyplau nad ydynt yn briod (o’r un rhyw neu o wahanol ryw) sy’n byw fel partneriaid mewn perthynas deuluol sefydlog

Ystyrir eich cais ar sail a ydych chi’n gallu bodloni anghenion y plentyn sydd i’w fabwysiadu ai peidio. Nid oes bwys a ydych chi'n berchen ar eich cartref eich hun neu a ydych chi'n gweithio ai peidio.

Bydd gofyn i chi a phob oedolyn yn eich cartref gael archwiliad gan yr heddlu.

Oes rhaid i chi fod yn Ddinesydd Prydeinig?

Nid oes rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig. Fodd bynnag, os ydych chi’n mabwysiadu fel cwpl gyda’ch priod neu’ch partner:

  • mae’n rhaid i un ohonoch fod yn hanu o Ynysoedd Prydain ac mae’n rhaid i’r ddau ohonoch fod wedi preswylio’n arferol yno am flwyddyn o leiaf cyn i chi wneud cais i’r llys am orchymyn mabwysiadu

Os ydych chi’n mabwysiadu fel unigolyn sengl:

  • mae’n rhaid i chi fod yn hanu o Ynysoedd Prydain ac mae’n rhaid i chi fod wedi preswylio’n arferol yno am flwyddyn o leiaf cyn i chi wneud cais i’r llys am orchymyn mabwysiadu

Mae Ynysoedd Prydain yn golygu Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Dylech geisio cyngor cyfreithiol os ydych chi’n ansicr ynghylch a ydych chi’n hanu o Ynysoedd Prydain neu a ydych chi’n preswylio’n arferol yn Ynysoedd Prydain.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU