Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mabwysiadu rhwng gwledydd gwahanol

Er bod yna lawer o blant yn y DU sy’n chwilio am deulu i’w mabwysiadu, mae yna nifer o blant dramor hefyd sydd angen cartref. Gallwch roi cyfle iddynt berthyn i deulu parhaol, ond mae yna reolau a rheoliadau y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt.

Y rheoliadau ar gyfer mabwysiadu rhwng gwledydd

Caniateir mabwysiadu rhwng gwledydd yn yr achosion canlynol:

  • pan nad oes modd gofalu am y plentyn mewn amgylchedd diogel yn ei wlad ei hun
  • pan fyddai mabwysiadu er budd gorau'r plentyn a ddim yn effeithio ar ei hawliau dynol a gydnabyddir yn rhyngwladol
  • pan fydd asiantaeth mabwysiadu yn y DU yn asesu bod y sawl sy'n mabwysiadu yn gymwys ac yn addas i fabwysiadu o wlad dramor

Y camau cyntaf ar gyfer mabwysiadu plentyn o dramor

Os ydych chi’n dymuno mabwysiadu plentyn o dramor dylech gael sgwrs gydag un o’r canlynol:

  • eich awdurdod lleol
  • asiantaeth mabwysiadu wirfoddol sydd wedi’i chofrestru i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu rhwng gwledydd

Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt y rhain yn yr adran mabwysiadu rhwng gwledydd ar wefan yr Adran Addysg.

Mabwysiadu rhwng gwledydd – y broses

Pan fyddwch wedi penderfynu mabwysiadu plentyn o wlad dramor, bydd asiantaeth mabwysiadu yn y DU yn asesu pa mor addas ydych chi. Bydd yr asesiad hwn yr un fath â phe baech yn mabwysiadu yn y DU.

Yna, bydd y canlynol yn digwydd:

  • bydd y papurau perthnasol yn cael eu hanfon i’r Adran Addysg i’w gwirio a rhoddir tystysgrif sy’n dangos eich bod yn gymwys i fabwysiadu
  • yna, bydd yr Adran Addysg yn anfon y gwaith papur at yr awdurdod yn y wlad dramor, a fydd yn mynd ati i'ch paru â phlentyn
  • byddwch yn mynd i ymweld â’r plentyn yn ei wlad
  • bydd eich asiantaeth mabwysiadu yn gofyn i chi gadarnhau eich bod am fwrw ymlaen â’r broses fabwysiadu
  • bydd angen i chi ofyn am y cadarnhad angenrheidiol o’r wlad dramor a gan y DU i ddychwelyd adref gyda’r plentyn (bydd eich asiantaeth mabwysiadu yn eich cynghori)

Rheoliadau eraill y mae angen i chi eu hystyried

Bydd eich asiantaeth mabwysiadu yn gallu rhoi cyngor i chi am faterion fel y canlynol:

  • yr amodau a'r gofynion cyfreithiol ar gyfer mabwysiadu plant o wlad dramor i'r DU
  • a oes angen i chi ail fabwysiadu eich plentyn yn y DU
  • pa wledydd na chewch fabwysiadu ohonynt
  • mabwysiadu gan ddinasyddion Prydeinig sy’n byw dramor
  • cofrestru achosion mabwysiadu tramor

Gallwch gael gwybodaeth fanwl am y materion hyn yn yr adran mabwysiadu rhwng gwledydd ar wefan yr Adran Addysg.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU