Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ers 2005, mae gan berthnasau gwaed hawl i ddefnyddio asiantaeth gyfryngu er mwyn olrhain a chysylltu â pherthynas a fabwysiadwyd. Yn yr un modd, gall oedolion a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 hefyd ddefnyddio asiantaeth gyfryngu er mwyn olrhain a chysylltu â'u perthnasau gwaed.
Os mabwysiadwyd perthynas waed i chi cyn 30 Rhagfyr 2005, gallwch ofyn i asiantaeth gyfryngu eu holrhain a'ch helpu i gysylltu â hwy. Gall oedolion a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 wneud yr un peth er mwyn dod o hyd i'w perthnasau gwaed eu hunain.
Cynigir gwasanaethau cyfryngu gan asiantaethau mabwysiadu neu asiantaethau cymorth mabwysiadu. I ddod o hyd i un o'r rhain yn eich ardal, cliciwch ar y ddolen isod.
Pan fydd asiantaeth gyfryngu yn dod o hyd i'r sawl yr oedden nhw'n chwilio amdanynt, rhaid iddynt ofyn i'r person hwnnw/honno am ganiatâd i ddweud eu henw wrth y ceisydd, ac i gysylltu â hwy.
Os nad ydyn nhw'n cytuno i'r cysylltiad, efallai y gall yr asiantaeth rannu rhywfaint o wybodaeth, fel amgylchiadau teuluol neu ddomestig y person, eu hiechyd a'u lles cyffredinol, ond ni fydd yr asiantaeth yn datgelu eu henw na'u lleoliad.
Os byddan nhw'n cytuno i'r cysylltiad, gall yr asiantaeth helpu i drefnu hynny, a chynnig unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnoch.
Cyn penderfynu a ydynt am fwrw ymlaen â chais, rhaid i'r asiantaeth gyfryngu ystyried lles yr oedolyn a fabwysiadwyd, y berthynas gwaed ac unrhyw berson arall y gallai hyn gael effaith arnynt.
Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r effaith y gall cael rhywun o asiantaeth gyfryngu yn cysylltu â hwy ei chael ar rywun. Efallai na fydd oedolion a fabwysiadwyd yn gwybod eu bod wedi eu mabwysiadu, ac mae'n bosib nad yw eu perthnasau gwaed, yn enwedig brodyr a chwiorydd ieuengach, yn gwybod am eu bodolaeth hyd yn oed. Efallai y bydd angen amser arnynt i feddwl sut i ymateb.
Hyd yn oed os byddant yn penderfynu nad ydynt eisiau cysylltu â chi - efallai nad dyma'r amser iawn iddynt - mae'n bosib y gallant newid eu meddwl maes o law.
Gallwch gofrestru gyda'r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu, sy'n creu cysylltiad rhwng oedolion a fabwysiadwyd a'u perthnasau gwaed sy'n oedolion - os mai dyna ddymuniad y ddwy ochr.
Os ydych chi'n oedolyn a fabwysiadwyd, gallwch gofrestru ar y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu gan ddweud eich bod eisiau cysylltu ag unrhyw berthynas waed sy'n oedolyn, neu nad ydych ond eisiau i berthynas benodol gysylltu â chi, er enghraifft, eich mam neu'ch brawd biolegol.
Gall perthnasau gwaed gofrestru gyda'r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu gan ddweud nad ydynt eisiau cyswllt ag oedolyn a fabwysiadwyd.
Os ydych chi'n oedolyn a fabwysiadwyd, gallwch gofrestru gyda'r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu gan ddweud nad ydych eisiau cyswllt gydag unrhyw berthynas waed, neu nad ydych eisiau cyswllt gyda pherthynas benodol, er enghraifft brawd neu fodryb. Os nad ydych eisiau i asiantaeth gyfryngu gysylltu â chi, gallwch ddweud wrth eich asiantaeth fabwysiadu a chofrestru gwaharddiad.
Mae 'gwaharddiad absoliwt' yn golygu na chaiff asiantaeth gyfryngu ddod atoch a'ch holi dan unrhyw amgylchiadau. Fodd bynnag, gall eich asiantaeth fabwysiadu gysylltu â chi i roi gwybodaeth i chi, er enghraifft am gyflwr meddygol etifeddol, neu fanylion etifeddiaeth.
Mae 'gwaharddiad amgylchiadol' yn golygu y gallwch nodi rhai amgylchiadau lle byddech yn fodlon i asiantaeth gyfryngu gysylltu â chi. Gallech nodi, er enghraifft, na fyddai cael rhywun yn cysylltu â chi ar ran eich rhiant biolegol yn dderbyniol, ond y croesewid cyswllt â'ch brawd neu'ch chwaer.