Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os yw eich plentyn yn y broses o gael ei fabwysiadu a’ch bod chi ddim am i hyn ddigwydd, dylech geisio cyngor cyfreithiol ar unwaith. Gall yr asiantaeth fabwysiadu hefyd eich darparu â gwasanaethau gweithiwr cymorth annibynnol i’ch cynghori ynghylch eich hawliau a’ch cyfrifoldebau.
Mae'n bosib y gallwch gael cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol yn y llys gyda chymorth ariannol cyhoeddus. Gall twrnai roi cyngor i chi.
Gallwch geisio atal y broses fabwysiadu hyd at y pwynt lle bydd y darpar rieni mabwysiadol yn gwneud cais am orchymyn mabwysiadu. Os gwnewch hyn, bydd yn rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu wneud cais i'r llys am orchymyn lleoli. Bydd y gorchymyn hwn yn rhoi caniatâd i’r asiantaeth leoli eich plentyn ar gyfer cael ei fabwysiadu gan deulu newydd.
Cyn i'r llys allu penderfynu y gallai eich plentyn gael ei fabwysiadu gan deulu arall, mae'n rhaid i un o'r canlynol ddigwydd:
Ni fydd y llys yn bwrw ymlaen â gorchymyn mabwysiadu heb eich caniatâd chi, oni bai ei fod yn teimlo bod hynny'n angenrheidiol, er enghraifft, os oes gan y llys bryderon ynghylch diogelwch a lles eich plentyn. Bydd y llys yn anfon y dystiolaeth mae wedi’i chael atoch chi, a dylech ei thrafod gyda’ch twrnai cyn gynted ag y gallwch.
Hefyd, bydd y llys yn gofyn i asiantaeth gweithwyr cymdeithasol annibynnol (a elwir hefyd yn warcheidwaid plant) ymweld â chi. Eu gwaith nhw yw:
Gallwch fynd i'r llys yn bersonol os ydych yn dymuno egluro pam nad ydych yn caniatáu i’ch plentyn gael ei fabwysiadu. Ni ellir gwneud gorchymyn mabwysiadu oni bai fod y llys yn sicr y byddai’r mabwysiadu er lles gorau eich plentyn. Bydd yn rhaid i’r llys bwyso a mesur eich teimladau chi wrth ddod at y penderfyniad hwnnw.
Bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn gallu eich cynghori ynghylch cysylltu â’ch plentyn. Yn ddelfrydol, gall pob parti gytuno ar drefniadau cysylltu – llythyrau, cardiau a chyfarfod mewn rhai achosion. Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd angen i’r rhain gael eu newid os yw amgylchiadau ac anghenion y plentyn yn newid. Pan fydd yn briodol, bydd y plentyn yn gallu gohebu yn ôl gyda chi drwy’r asiantaeth er mwyn rhoi gwybod i chi am ei gynnydd a’i ddatblygiad.
Os oes gennych chi gyfrifoldeb fel rhiant tuag at eich plentyn, bydd gofyn i chi roi caniatâd iddo gael ei fabwysiadu. Os nad ydych chi’n dymuno caniatáu i’r plentyn gael ei fabwysiadu, dylech fynd i weld eich twrnai.
Gall tad nad oedd yn briod â mam y plentyn, nac wedi’i enwi ar y dystysgrif geni pan gofrestrwyd genedigaeth y plentyn, wneud cais i’r llys am Orchymyn Cyfrifoldeb Rhiant. Bydd y gorchymyn hwn yn golygu y bydd yn cael ei gydnabod yn gyfreithiol fel tad y plentyn a bydd yn rhoi cyfrifoldeb fel rhiant iddo.