Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Er mwyn gweld eich cofnodion mabwysiadu, os cawsoch eich mabwysiadu cyn 1975, bydd angen i chi fynd i gyfarfod ag ymgynghorydd mabwysiadu. Os cawsoch eich mabwysiadu ar ôl 1975, cewch ofyn am gyfarfod neu gael yr wybodaeth yn uniongyrchol. Lle bo'n berthnasol, bydd ymgynghorydd mabwysiadu yn cysylltu â chi i drefnu'r cyfarfod.
Pan fyddwch wedi cael eich mabwysiadu neu yn y broses o fabwysiadu rhywun, ceir amrywiaeth o bobl a allai eich helpu - megis gweithwyr cymdeithasol, paneli mabwysiadu ac ymgynghorwyr mabwysiadu.
I gael mwy o wybodaeth darllenwch 'Y broses fabwysiadu a lle i ddod o hyd i gymorth'.
Er mwyn gweld eich cofnodion mabwysiadu, bydd angen i chi fynd i gyfarfod anffurfiol gydag un o'r canlynol:
Caiff yr wybodaeth wreiddiol am eich genedigaeth ei hanfon at yr ymgynghorydd mabwysiadu cymeradwy yr ydych wedi'i ddewis.
Mae'n bosib cynnal y cyfarfod anffurfiol yn y wlad yr ydych yn byw ynddi ar hyn o bryd, ar yr amod bod corff neu fudiad addas ar gael.
Gallwch ddod o hyd i fudiadau mabwysiadu tramor cymeradwy drwy gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar 0151 471 4830.
Os nad yw eich gwlad neu'r ardal lle rydych yn byw ynddi wedi'i chynnwys, gallwch gysylltu â mudiad cwnsela lleol. Bydd angen i chi ddarparu cadarnhad ysgrifenedig i'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol gan y mudiad sydd wedi cytuno i'ch helpu, a fydd yna'n anfon yr wybodaeth am gofnod eich genedigaeth at eich ymgynghorydd.
Os byddai'n well gennych deithio i'r DU, gallwch drefnu cyfarfod ag ymgynghorydd mabwysiadu yn yr ardal lle byddwch yn aros. Dylech roi digon o rybudd i'r Gwasanaethau Cymdeithasol eich bod am ymweld fel y gellir gwneud trefniadau ymlaen llaw.
Cyn 1975, roedd llawer o rieni'n credu na fyddai'r plentyn a gafodd ei fabwysiadu byth yn dod o hyd i enw nac enwau gwreiddiol ei rieni. Mae'r newidiadau i'r ddeddfwriaeth bellach yn galluogi pobl sydd wedi'u mabwysiadu i gael gweld eu manylion gwreiddiol. Mae'n bwysig eich bod yn deall beth allai hyn ei olygu, i chi ac i'ch perthnasau gwaed, a bydd yr ymgynghorydd mabwysiadu yn eich cynorthwyo gyda hyn.
Chi sydd i benderfynu p'un ai a hoffech weld ymgynghorydd mabwysiadu cymeradwy neu gael yr wybodaeth wedi'i hanfon atoch yn uniongyrchol. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi weld ymgynghorydd mabwysiadu, gan y gall gynnig cyngor ac arweiniad ymarferol yn ogystal â thrafod unrhyw bryderon neu faterion.
Mae'n bosib cwrdd ag ymgynghorydd mabwysiadu yn y wlad yr ydych yn byw ynddi ar hyn o bryd, ar yr amod bod corff neu fudiad addas ar gael.
Gallwch weld rhestr o fudiadau mabwysiadu tramor cymeradwy drwy gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar 0151 471 4830.