Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae mabwysiadau'n cael eu cofnodi

Ers 1927, mae pob mabwysiad a ganiatawyd gan y llysoedd yng Nghymru a Lloegr, ac ambell fabwysiad dramor, yn cael eu cofnodi yn y Gofrestr Plant Mabwysiedig. Nid yw’r gofrestr ar agor i'r cyhoedd chwilio drwyddi nac i'w harchwilio, ond caiff pobl sydd wedi'u mabwysiadu wneud cais i gael tystysgrifau mabwysiadu.

Os caiff plentyn ei eni a'i fabwysiadu yng Nghymru neu Lloegr

Gall gymryd hyd at chwe wythnos i gofrestru mabwysiad, o’r adeg y bydd y llys yn rhoi’r gorchymyn mabwysiadu i’r adeg y bydd y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn diweddaru’r Gofrestr Plant Mabwysiedig. Mae hyn yn cymryd lle’r cofnod geni gwreiddiol, sydd â ‘wedi mabwysiadu’ arno.

Yna, fe gewch dystysgrif mabwysiadu cryno am ddim. Os hoffech gael mwy o gopïau cryno neu dystysgrifau llawn bydd angen i chi eu harchebu. Gallwch wneud hyn ar-lein neu dros y ffôn.

Beth os oes camgymeriad ar y Gorchymyn Llys?

Os byddwch yn sylwi ar gamgymeriad ar y Gorchymyn Llys, dylech gysylltu â'r llys a oedd yn delio â'r mabwysiadu a gwneud cais am orchymyn diwygiedig. Bydd y Gofrestr Plant Mabwysiedig yn cael ei diweddaru'n awtomatig.

Os caiff plentyn ei eni a’i fabwysiadu dramor

Gellir cofrestru plant sy’n cael eu geni a’u mabwysiadu dramor ar y Gofrestr Plant Mabwysiedig ar yr amod bod y rhiant neu’r rhieni yn byw’n arferol yng Nghymru neu Lloegr adeg y mabwysiadu. Os nad yw hynny’n wir, bydd angen i chi geisio cyngor cyfreithiol i weld a ellir cydnabod y mabwysiad yn y wlad hon.

I weld a yw'r wlad lle digwyddodd y mabwysiadu'n cael ei chydnabod ewch i wefan 'Mae pob plentyn yn bwysig' yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd.

Os caiff plentyn ei eni yng Nghymru neu Lloegr, a’i fabwysiadu dramor

Gellir cofrestru plant sy’n cael eu geni yng Nghymru neu Lloegr ond sy’n cael eu mabwysiadu dramor yn y Gofrestr Plant Mabwysiedig ar yr amod bod genedigaeth y plentyn wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr.

Beth i’w wneud os caiff plentyn ei eni neu ei fabwysiadu dramor

Gall y rhiant neu’r rhieni sy’n mabwysiadu, unigolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu’r unigolyn a fabwysiadwyd ei hun os yw dros 18 oed, wneud cais i gofrestru manylion plentyn ar y gofrestr mabwysiadu.

Gallwch lwytho’r ffurflen i lawr isod neu gysylltu â’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar +44 (0)151 471 4830. Neu gallwch anfon e-bost i:

adoptions@ips.gsi.gov.uk

Dogfennau y bydd eu hangen arnoch

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth wreiddiol o’r mabwysiad, megis:

  • copi ardystiedig o gofnod mabwysiadu
  • tystysgrif caniatáu mabwysiadu

Dylai unrhyw ddogfennau ategol gael eu darparu gan y sefydliad sy’n caniatáu’r mabwysiadu a’u llofnodi gan unigolyn sydd â'r awdurdod i wneud hynny. Chewch chi ddim anfon copïau ardystiedig gan dwrneiod.

Os nad yw’r dogfennau yn Saesneg, bydd angen i chi ddarparu cyfieithiad ohonynt. Rhaid i’r cyfieithiad gael ei lofnodi a’i ardystio gan y cyfieithydd gyda’i enw, ei gyfeiriad a datganiad bod y cyfieithiad yn gywir ac yn wir.

Bydd eich dogfennau ategol, yn ogystal â thystysgrif geni cryno a roddir am ddim, yn cael ei anfon atoch pan fydd y cais wedi ei gwblhau.

Ar gyfer digwyddiadau sydd wedi'u cofrestru yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU