Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Defnyddio'r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu

Mae’r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu yn rhoi pobl a fabwysiadwyd a’u perthnasau gwaed mewn cysylltiad â’i gilydd, os yw’r ddwy ochr yn dymuno hynny.

Beth a phwy sydd ar y gofrestr

Nid oes modd i chi gael gwybod beth yw hanes unigolyn a fabwysiadwyd neu berthynas waed oni bai eu bod wedi dewis cael eu henwi ar y Gofrestr Cyswllt. Hefyd, mae modd i’r rheini sydd am fod ar y gofrestr gofnodi eu bod yn dymuno cael cyswllt penodol ag unigolyn y maent yn ei enwi, neu nad ydynt am gael cyswllt unigolyn penodol.

Cysylltu â pherthynas waed os ydych chi wedi cael eich mabwysiadu

Gallwch ychwanegu eich manylion at y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu os ydych chi dros 18 oed, os cofrestrwyd eich genedigaeth gyda’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, a’ch bod yn gwybod:

  • eich enw genedigol gwreiddiol
  • eich dyddiad geni
  • enw(au) llawn y fam a roddodd enedigaeth i chi (a'ch tad biolegol os ydych chi’n ei wybod)

Os nad yw’r holl wybodaeth hon gennych, gallwch wneud cais am gael gweld eich cofnod geni.

Chwilio am frodyr a chwiorydd sydd wedi cael eu mabwysiadu hefyd

Mae’n bosib i unigolyn sydd wedi’i fabwysiadu gael cyswllt â brodyr a chwiorydd sydd wedi’u mabwysiadu, ond dylech gofio bod angen i chi gofrestru ar ddwy ran y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu – yn rhan 1 fel unigolyn wedi'i fabwysiadu ac yn rhan 2 fel perthynas waed.

Cysylltu ag unigolyn a fabwysiadwyd os ydych yn perthyn drwy waed

Os ydych chi’n perthyn drwy waed, mae angen i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn a darparu dogfennau boddhaol yn dystiolaeth o’ch perthynas â’r unigolyn a fabwysiadwyd yr ydych am gysylltu ag ef.

I gael gwybod pa dystiolaeth ddogfennol sydd ei hangen, yn dibynnu ar eich perthynas â'r unigolyn yr ydych yn chwilio amdano, llwythwch y tabl tystiolaeth a welir isod i lawr.

Rhoi eich enw ar y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu

Mae gennych sawl dewis pan fyddwch yn rhoi eich enw ar y Gofrestr:

  • cyswllt – os yw’r ddau barti wedi dewis caniatáu cyswllt, bydd yr unigolyn a fabwysiadwyd yn cael enw a chyfeiriad y berthynas, neu’r cyfryngwr
  • cyswllt penodol – mae hyn yn caniatáu i’r unigolyn a fabwysiadwyd ddewis rhai perthnasau y maent am gysylltu â hwy o bosib; tybir nad oes arnynt eisiau cael cyswllt â pherthnasau nad ydynt wedi'u henwi
  • dim cyswllt – os oes un parti’n dweud nad oes arno eisiau cael cyswllt, rhoddir gwybod i’r ddwy ochr am y dymuniadau penodol; os yw’r ddwy ochr yn dweud nad oes arnynt eisiau cyswllt, ni chewch eich hysbysu os ceir cyswllt
  • dim cyswllt yn benodol – mae hyn y caniatáu i’r unigolyn a fabwysiadwyd ddewis perthnasau penodol nad ydynt am gael cyswllt â hwy; tybir bod arnynt eisiau cyswllt â pherthynas nad yw wedi ei enwi

Os ydych chi wedi cael eich mabwysiadu – cofrestru ar Ran 1

  • llwythwch ffurflen ACR 105 i lawr, gan roi eich enw a’ch cyfeiriad cyfredol yn ogystal â’ch manylion geni gwreiddiol
  • y ffi ar gyfer cofnodi manylion unigolyn wedi’i fabwysiadu ar Ran 1 y Gofrestr Cyswllt yw £15.00
'

Os ydych chi’n perthyn drwy waed – cofrestru ar Ran 2

  • llwythwch ffurflen ACR 108 i lawr a’i llenwi, gan roi eich enw a’ch cyfeiriad cyfredol a darparu tystiolaeth ddogfennol i brofi eich perthynas â’r unigolyn a fabwysiadwyd
  • y ffi ar gyfer cofnodi manylion perthynas ar Ran 2 y Gofrestr Cyswllt yw £30.00

Anfon eich cais

Dylid anfon ceisiadau i’r cyfeiriad canlynol:
Adoptions Section
Room C202
General Register Office
Trafalgar Road
SOUTHPORT
PR8 2HH
Fax: +44 (0) 151 471 4755

Ar gyfer digwyddiadau sydd wedi'u cofrestru yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU