Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Budd-daliadau a help i rieni sy'n dychwelyd i'r gwaith

Os ydych yn dychwelyd i'r gwaith a bod gennych blant, gallwch gael help ariannol ac ymarferol gyda gofal plant. O gredydau treth i drefniadau gwaith hyblyg, mae llawer o gymorth ar gael i wneud eich bywyd yn haws

Addysg blynyddoedd cynnar

Mae hawl gan bob plentyn sy'n dair neu bedair oed fynd i hyd at bum sesiwn dwy awr a hanner bob dydd, dros dri thymor bob blwyddyn, gyda 'darparwr cofrestredig' fel ysgol, meithrinfa neu gylch chwarae.

Mae rhai cyflogwyr mawr yn darparu addysg blynyddoedd cynnar cofrestredig yn y gweithle. Gallwch ddefnyddio gwarchodwr plant cofrestredig os yw'n rhan o rwydwaith gwarchod plant cymeradwy.

Credydau treth

Os oes gennych blant, gallech gael credydau treth, ond nid oes rhaid bod gennych blant i'w hawlio. Gallwch hefyd fod yn gymwys os ydych yn gweithio ac ar incwm isel.

Credyd Treth Plant

Os ydych yn gyfrifol am o leiaf un plentyn neu berson ifanc, efallai eich bod yn gymwys i gael Credyd Treth Plant.

Credyd Treth Gwaith

Os ydych yn gweithio ac ar incwm isel, efallai y gallwch gael Credyd Treth Gwaith.

Mae Credyd Treth Gwaith yn cynnwys elfen benodol i helpu gyda chost gofal plant cofrestredig ar gyfer rhieni sy'n gweithio. Gall yr elfen gofal plant helpu gyda hyd at 70 y cant o'ch costau gofal plant cymwys.

Ceir terfynau ar y costau wythnosol y gallwch eu hawlio. Os byddwch yn talu am ofal plant ar gyfer:

  • un plentyn, yr uchafswm y gallwch ei hawlio yw £175 yr wythnos
  • dau blentyn neu fwy, yr uchafswm y gallwch ei hawlio yw £300 yr wythnos

Credyd Mewn Gwaith

Taliad di-dreth o £40 yr wythnos (£60 yn Llundain) ar gyfer rhieni sy'n magu plant ar eu pen eu hunain yw Credyd Mewn Gwaith. Fe'i telir am hyd at 52 wythnos ar ben eich enillion.

Pwy sy’n gymwys

Os bydd eich cais am fudd-dal yn dechrau cyn 1 Hydref 2012, gallech gael Credyd Mewn Gwaith os:

  • ydych yn magu plant ar eich pen eich hun
  • oes plentyn yn byw gyda chi sydd o dan 16 oed
  • ydych yn dechrau gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd ac yn cael cyflog sy'n gyfwerth â'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (neu os ydych yn hunangyflogedig)
  • ydych yn disgwyl i'r gwaith hwnnw bara am bum wythnos neu fwy

Mynnwch wybod am gyfraddau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol drwy ddilyn y ddolen ganlynol.

Rhaid i chi hefyd fod wedi bod allan o waith am o leiaf 52 wythnos cyn i chi ddechrau gweithio ac yn cael:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Ni fydd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ond yn cyfrif os:

  • gwnaethoch golli Cymhorthdal Incwm oherwydd oedran eich plentyn ieuengaf
  • nad oeddech yn gallu hawlio Lwfans Ceisio Gwaith am eich bod yn sâl

Os ydych yn byw yn Llundain ac yn cael y budd-daliadau canlynol, gallech hefyd gael Credyd Mewn Gwaith:

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Gofalwr

Bydd newidiadau i Gredyd Mewn Gwaith yn dechrau ar gyfer ceisiadau newydd am fudd-dal o fis Hydref 2012 ymlaen.
Golyga hyn na fydd unrhyw daliadau newydd o Gredyd Mewn Gwaith o 1 Hydref 2013.

Bydd taliadau sydd eisoes ar waith ar 1 Hydref, 2013 yn parhau am hyd at 52 wythnos, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r rheolau ar gyfer cael y taliad.

Rhagor o wybodaeth am Gredyd Mewn Gwaith

Rhaid i chi gwblhau'r ffurflen gais am Gredyd Mewn Gwaith a'i dychwelyd at swyddfa Canolfan Byd Gwaith agosaf o fewn pum wythnos i ddechrau gweithio.

I gael rhagor o wybodaeth am Gredyd Mewn Gwaith, cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith.

Amser i ffwrdd a gweithio hyblyg

Amser i ffwrdd ('absenoldeb rhiant')

Os ydych yn rhiant sy'n gweithio, gallwch gymryd hyd at 13 wythnos o absenoldeb rhiant ar gyfer pob plentyn hyd at ei ben-blwydd yn bump oed (cewch fwy na hyn os oes gennych blentyn anabl). Nid oes rhaid i'ch cyflogwr eich talu tra eich bod yn absennol, ond efallai y bydd yn gwneud hynny fel rhan o'ch pecyn cyflogaeth. Er mwyn bod yn gymwys i gael yr amser hwn i ffwrdd, rhaid:

  • bod gennych gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn
  • eich bod wedi gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf flwyddyn cyn i chi ei gymryd
  • i chi roi o leiaf 21 diwrnod o rybudd i'ch cyflogwr - ynghyd â'r dyddiadau pan fydd eich absenoldeb yn dechrau ac yn dod i ben

Fel arfer mae angen i chi gymryd absenoldeb rhiant mewn blociau o wythnos neu fwy, hyd at uchafswm o bedair wythnos y flwyddyn ar gyfer pob plentyn. Ond efallai y bydd eich cyflogwr yn fodlon i chi gymryd absenoldeb rhiant mewn blociau byrrach. Os yw'ch plentyn yn gymwys i gael Lwfans Byd i'r Anabl, gallwch gymryd eich absenoldeb ddiwrnod ar y tro os byddwch am wneud hynny.

Os bydd eich cyflogwr o'r farn y byddai eich absenoldeb yn amharu ar y busnes yna gall ohirio eich absenoldeb am hyd at chwe mis ar ôl y dyddiad y gofynnwch amdano.

Gweithio hyblyg

Mae gweithio hyblyg yn golygu y gallwch ofyn i'ch cyflogwr am batrwm gweithio newydd i'ch helpu i ofalu am eich plentyn. Mae gennych yr hawl i ofyn am batrwm gweithio hyblyg os oes gennych blentyn sy'n 16 oed neu'n iau, neu blentyn anabl o dan 18 oed. Rhaid i'ch cyflogwr ystyried eich cais o ddifrif.

Er mwyn bod â'r hawl i ofyn am batrwm gweithio hyblyg, rhaid:

  • eich bod wedi gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 26 wythnos
  • eich bod yn fam, tad, gwarcheidwad cyfreithiol neu riant maeth i'r plentyn neu wedi ei fabwysiadu - neu'n bartner un o'r rhain
  • bod gennych gyfrifoldeb dros fagu'r plentyn
  • eich bod yn gwneud y cais er mwyn gallu gofalu am y plentyn

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais pan fyddwch yn gwneud cais am weithio hyblyg. Gallwch ond gwneud un cais y flwyddyn.

Grant Swyddi

Taliad di-dreth untro yw'r Grant Swyddi y gallech ei gael pan fyddwch yn dechrau gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos ac yn rhoi'r gorau i gael eich budd-daliadau.

Gallech fod yn gymwys am Grant Swyddi os ydych wedi bod yn hawlio un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Anabledd Difrifol

Bydd yn rhaid i’ch cais am fudd-dal ddechrau cyn 1 Hydref 2012.

Rhagor o wybodaeth am y Grant Swyddi

Sut y mae cynhaliaeth plant yn effeithio ar eich budd-daliadau

Ers 12 Ebrill 2010, gallwch gadw'r holl gynhaliaeth a delir i chi heb iddi effeithio ar eich hawl i fudd-dal. Fodd bynnag, rhaid i chi barhau i ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith am unrhyw daliadau cynhaliaeth a gewch.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gynhaliaeth a budd-daliadau ar wefan Opsiynau Cynhaliaeth Plant.

Taflenni gwybodaeth gan y Ganolfan Byd Gwaith

Mae’r Ganolfan Byd Gwaith wedi cynhyrchu taflen sy’n rhoi rhagor o wybodaeth i chi ynghylch y cymorth y gallwch ei gael os yw’ch partner yn hawlio budd-dal. Cewch wybod mwy drwy ddilyn y ddolen ganlynol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU