Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dod o hyd i nani - cyflwyniad

Mae nanis yn darparu gofal plant yn eich cartref, ac yn ddewis poblogaidd i nifer o deuluoedd. Maent yn gallu gofalu am blant o bob oed, ac yn cymell digonedd o hwyl a chyfleoedd i ddysgu mewn awyrgylch ddiogel. Yn aml gall nanis weithio oriau hyblyg, ac maent yn gallu bod yn ddewis addas os byddwch yn gweithio ar adegau pan nad yw mathau eraill o ofal plant ar gael.

Pam mae angen nani arnoch?

Cyn i chi ddechrau chwilio am nani, byddai'n syniad da i chi benderfynu'n union beth fydd angen iddyn nhw ei wneud. Felly, bydd yn rhaid i chi ystyried y canlynol:

  • pa ddyletswyddau yr hoffech i'r nani eu gwneud
  • beth fydd oriau gwaith y nani
  • a ydych chi eisiau nani sy'n byw gyda chi ynteu nani a ddaw i'ch cartref bob dydd
  • a fydd modd i'r nani ofalu am ei blentyn/ei phlentyn ei hun yn eich ty chi tra y mae'n gofalu am eich plant chi
  • a oes gennych unrhyw ofynion arbennig, megis bod y nani ddim yn ysmygu, neu fod angen iddo/iddi allu siarad iaith wahanol
  • pa un ai yw'r nani yn hoff o anifeiliaid anwes, yn berchen ar gar, neu wedi cael profiad o ofalu am blant gydag anghenion arbennig
  • manylion talu – sut yr hoffech dalu iddo/iddi, a sut y byddwch yn ad-dalu'r arian y bydd yn ei wario ar y plant
  • telerau ac amodau cyflogaeth

Dod o hyd i nani

Mae dod o hyd i'r person cywir yn cymryd amser, felly ceisiwch ddechrau chwilio o leiaf 12 wythnos cyn i chi fod angen i'r nani ddechrau gweithio. Y ffordd fwyaf diogel o ddod o hyd i nani ddibynadwy yw drwy gysylltu ag asiantaeth recriwtio nanis. Mae ystod eang o asiantaethau ar gael, a rhai ohonynt yn delio ag anghenion penodol gan gynnwys rhannu nani gyda theulu arall.

Mae sawl asiantaeth yn hysbysebu mewn cylchgronau a phapurau newydd lleol. Am dâl, bydd asiantaeth yn dod o hyd i ymgeiswyr addas y mae eu gofynion yn cyfateb â'ch rhai chi, a byddwch yna'n gallu eu cyfweld.

Er y dylai asiantaeth dda gynnal archwiliad gofalus o gefndir pob nani sydd ar eu llyfrau, dylech ddal i ofyn i'r asiantaeth ddweud wrthych yn union pa archwiliadau y maent wedi eu cynnal.

Rhan wirfoddol Cofrestr Gofal Plant Ofsted (vOCR)

Cyflwynwyd rhan wirfoddol Cofrestr Gofal Plant Ofsted (vOCR) ym mis Ebrill 2007, ac efallai byddai'n well gennych ddefnyddio nanis sydd ar y gofrestr hon fel eich bod yn gwybod eu bod wedi cwrdd â gofynion penodol.

Bydd pob nani sydd wedi'u cofrestru ar y vOCR wedi cael eu harchwilio'n fanwl gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol a hefyd wedi cwrdd â gofynion eraill megis meddu ar gymhwyster cymorth cyntaf priodol a'u bod wedi cael hyfforddiant yn y sgiliau craidd cyffredin. Hefyd, bydd ganddynt dystysgrif Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.

Mae gofal sydd wedi'i gofrestru ag Ofsted yn galluogi rhieni i fod yn gymwys i gael elfen gofal plant y credyd treth gwaith – dylent holi Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i weld a ydynt yn gymwys cyn gwneud unrhyw drefniadau.

Hysbysebu ar gyfer nani

Os byddwch chi'n penderfynu peidio defnyddio asiantaeth, mae ffyrdd eraill ar gael i ddod o hyd i nani ddibynadwy.

Gallwch roi hysbyseb yn unrhyw un o'r canlynol:

  • cylchgrawn
  • eich papur newydd lleol
  • hysbysfyrddau mewn llefydd y bydd nanis efallai'n chwilio am waith, megis ysgolion cynradd, eich siop bapur newydd leol, neu ganolfannau galw heibio i famau a phlant

Mae angen i'ch hysbyseb gynnwys manylion am oriau gwaith, dyletswyddau, oedrannau'r plant (am resymau diogelwch - nid eu henwau) a'r ardal lle'r ydych yn byw (nid eich cyfeiriad llawn).

Dylai hefyd ofyn i'r atebwyr anfon manylion eu hoedran, eu profiad, eu cymwysterau a'u hanes cyflogaeth, a chynnwys llythyr yn egluro pam yr hoffent wneud cais am y swydd benodol hon.

Efallai bydd yn well gennych ofyn i'r nanis posib anfon eu hateb i rif blwch post (gall eich swyddfa bost leol ddweud wrthych sut i gael un o'r rhain) yn hytrach na'ch bod yn rhoi eich rhif ffôn. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd hyn yn lleihau nifer y ceisiadau a gewch.

Cysylltwch â cholegau addysg bellach lleol sy'n cynnig cyrsiau gofal plant

Os ydych chi'n fodlon cyflogi rhywun sydd newydd orffen yn y coleg, mae hyfforddiant fel arfer yn dod i ben ym mis Mehefin. Bydd nanis sydd newydd orffen eu hyfforddiant yn gymharol ddi-brofiad, ac efallai na fyddent yn addas ar gyfer gofalu am fabanod ifanc iawn.

Siaradwch â rhieni eraill neu ymunwch â mudiadau rhieni lleol

Mae'n bosib y gall rhieni eraill neu fudiadau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant (NCT) gynnig argymhellion addas.

I gael gafael ar eich cangen leol, ffoniwch linell ymholiadau'r NCT ar 08704 448 707 – rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 9.00 am a 4.00 pm ar ddydd Gwener.

Diogelwch plant

Un o'r materion mwyaf hollbwysig i rieni yw sicrhau bod eu plentyn yn ddiogel, yn hapus ac yn derbyn gofal da. Mae cyflogi nani yn gyfrifoldeb pwysig. Nid oes rhaid i berson sy'n gwneud cais i weithio fel nani fodloni unrhyw ofynion cyfreithiol.

Eich cyfrifoldeb chi, fel rhiant a chyflogwr, yw sicrhau eich bod yn cyflogi nani a fydd yn gofalu am eich plant yn dda.

Additional links

Cymorth gyda materion ariannol i’ch plant

Gyda theulu sy’n tyfu, mae’n bosib y bydd angen ychydig o gymorth ariannol arnoch. Dilynwch y dolenni isod i ddod o hyd i beth gallwch fod yn gymwys iddo.

Allweddumynediad llywodraeth y DU