Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mynediad i ysgolion

Rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol beidio â gwahaniaethu yn erbyn disgyblion anabl am resymau sy'n ymwneud â'u hanabledd. Dylent hyrwyddo'r gwaith o gynnwys plant anabl yn eu trefniadau derbyn ac ymhob agwedd o fywyd yr ysgol.

Cynlluniau mynediad ac 'addasiadau rhesymol'

Bydd ysgolion yn amrywio'n fawr o ran pa mor hwylus ydynt i ddisgyblion anabl unigol. Dylech holi pa welliannau sydd wedi cael eu gwneud i ysgol a beth sydd ar y gweill wrth ystyried pa ysgol yr hoffech i'ch plentyn ei mynychu.

Rhaid i bob ysgol gael cynllun mynediad sy'n dangos sut y bwriadant wella mynediad i ddisgyblion anabl. Rhaid i'r cynllun gael ei gyhoeddi a gallwch ofyn am gael ei weld. Bydd yn amlinellu sut y bydd yr ysgol yn gwneud y canlynol:

  • gwella'r amgylchedd ffisegol
  • gwneud gwelliannau i'r wybodaeth a ddarperir
  • gwella mynediad i’r cwricwlwm

Gall ysgolion hefyd wella mynediad ar gyfer disgyblion unigol drwy wneud 'addasiadau rhesymol'. Gall y rhain fod yn newidiadau syml megis gwneud yn siŵr y cynhelir pob gwers mewn ystafelloedd dosbarth ar y llawr gwaelod ar gyfer dosbarth lle mae un disgybl yn defnyddio cadair olwyn, a dim lifft ar gael.

Dylech bob amser siarad ag ysgol i drafod yr hyn y gall ei wneud yn rhesymol i gynnwys eich plentyn.

Gwelliannau i’r amgylchedd ffisegol

Dyma rai newidiadau y gellid eu gwneud i'r amgylchedd ffisegol er mwyn gwella mynediad:

  • cynlluniau goleuo a pheintio i helpu plant â nam ar eu golwg
  • lifftiau a rampiau i helpu plant â nam corfforol
  • carpedu dosbarthiadau a defnyddio teils acwstig i helpu disgyblion â nam ar eu clyw

Gwella'r ffordd y cyflwynir gwybodaeth i ddisgyblion anabl

Gellir gwneud gwybodaeth a ddarperir fel arfer yn ysgrifenedig (megis taflenni, amserlenni a llyfrau) yn fwy hwylus drwy ei darparu:

  • mewn Braille
  • mewn print bras
  • ar dâp sain
  • drwy ddefnyddio system symbolau

Gwella mynediad i’r cwricwlwm

Dyma rai addasiadau y gellid eu gwneud a fyddai'n helpu plant anabl i gael gwell mynediad i'r cwricwlwm:

  • newidiadau i drefniadau addysgu a dysgu
  • trefn y dosbarth
  • amserlennu
  • cefnogaeth disgyblion eraill

Technoleg gynorthwyol

Gall technoleg sy'n addas ar gyfer anghenion eich plentyn ei helpu i ddysgu'n gynt ac yn haws. Gall hyn olygu gwell mynediad iddynt i’r cwricwlwm.

Dyma enghreifftiau o dechnoleg a allai helpu:

  • cyfrifiaduron sgrîn-gyffwrdd, ffyn rheoli a pheli tracio
  • bysellfyrddau sy'n hawdd eu defnyddio
  • byrddau gwyn rhyngweithiol
  • meddalwedd testun-i-lais
  • meddalwedd cyfieithu i Braille
  • meddalwedd sy'n cysylltu geiriau â lluniau neu symbolau

Efallai fod y technolegau hyn ar gael mewn rhai ysgolion yn barod, ac efallai fod rhai'n bwriadu'u cael yn y dyfodol.

Mae'r trefniadau ar gyfer dosbarthu adnoddau a chyllid ar gyfer cyfarpar yn amrywio ar draws y DU. Os oes gan eich plentyn ddatganiad anghenion addysgol arbennig, rhaid darparu'r cymorth a nodir ar y datganiad (a all gynnwys cyfarpar arbennig).

Cludiant ysgol

Er bod rheolau sylfaenol yn berthnasol i bob plentyn, gall Awdurdodau Addysg Lleol benderfynu darparu cludiant ar sail achosion unigol ar gyfer plentyn anabl.

Bydd eich Awdurdod Addysg Lleol yn asesu anghenion eich plentyn wrth wneud penderfyniad, gan ystyried iechyd ac/neu anabledd eich plentyn a'u hoedran. Os cynigir cludiant ysgol i'ch plentyn, dylai bod gan y cerbyd offer perthnasol ar gyfer anghenion eich plentyn - er enghraifft ramp neu lifft.

Mae'r rhan fwyaf o gynghorau lleol hefyd yn darparu tywyswyr ar gludiant ysgol os oes angen.

Efallai y cewch gymorth gyda'ch costau chi eich hun ar gyfer mynd â'ch plentyn i'r ysgol. Gall eich Awdurdod Addysg Lleol ddweud wrthych os yw hyn yn bosibl.

Mae gan rai Awdurdodau Addysg Lleol wahanol bolisïau cludiant gyda golwg ar blant sy'n mynd i ysgolion arbennig.

Os nad yw’ch plentyn yn gallu mynychu’r ysgol am resymau meddygol

Os na all eich plentyn fynd i'r ysgol oherwydd anghenion meddygol neu broblemau iechyd, mae gan eich awdurdod lleol gyfrifoldeb i ganiatáu iddynt barhau â'u haddysg. Mae modd cyflawni hyn drwy addysgu gartref, er enghraifft.

Allweddumynediad llywodraeth y DU