Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall y rhan fwyaf o blant a chanddynt anghenion meddygol fynd i'r ysgol, a chyda rhywfaint o gefnogaeth gallant gymryd rhan yn y mwyafrif o weithgareddau'r ysgol. Os na all eich plentyn fynd i'r ysgol oherwydd problemau iechyd, mae gan eich awdurdod lleol gyfrifoldeb i wneud trefniadau er mwyn iddynt barhau â'u haddysg.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ysgolion ddarparu lle a all gael ei ddefnyddio i drin disgyblion sy'n sâl neu wedi eu hanafu, ac ar gyfer cymorth cyntaf ac archwiliadau meddygol.
Yn ddelfrydol, mae hyn yn golygu dau le ar wahân, a'r ddau ohonynt yn cynnwys basn ymolchi ac yn rhesymol agos at doiled:
Yn ôl trefniant o'r fath, gellid defnyddio'r ystafell archwilio at ddibenion eraill (ond nid i ddysgu), cyn belled â'i bod ar gael bob amser ar gyfer archwiliadau meddygol.
Ni fydd angen i'r rhan fwyaf o blant a chanddynt gyflwr meddygol gymryd eu meddyginiaeth yn ystod oriau'r ysgol. Ond os oes angen i'ch plentyn wneud hynny - neu os byddai arnynt angen meddyginiaeth mewn achos o argyfwng - dylech wneud apwyntiad i drafod y mater â phennaeth yr ysgol cyn gynted ag y bo modd.
Gall y pennaeth ddweud wrthych pa fath o gefnogaeth sydd ar gael. Dylai'r mater hwn gael ei drafod ym mholisi iechyd a diogelwch yr ysgol. Os oes angen ei gwneud yn fwy eglur beth yn union y gall yr ysgol ei wneud, efallai y byddan nhw'n awgrymu llunio cynllun gofal iechyd.
Nid oes rheidrwydd ar staff yr ysgol i helpu'ch plentyn i reoli ei feddyginiaeth (oni bai eu bod yn cael eu cyflogi i wneud hynny - er enghraifft, fel cynorthwy-ydd gofal iechyd). Ond dylai staff sy'n gwirfoddoli i wneud hynny gael eu hyfforddi yn y modd cywir.
Cynghorir ysgolion i ymgynghori â phobl broffesiynol ym maes iechyd ar y materion hyn. Byddwch yn amyneddgar os bydd eich ysgol yn cymryd agwedd ofalus at y mater.
Gallwch ddod hyd i ganllawiau i ysgolion ynglŷn â datblygu polisi ar gefnogaeth feddygol - a gwybodaeth am gynlluniau iechyd - drwy dudalen Teachernet am 'Reoli meddyginiaeth mewn ysgolion'. Mae yno hefyd ddolenni sy'n arwain at wybodaeth am rai o'r cyflyrau mwyaf cyffredin a allai fod angen cefnogaeth yn yr ysgol.
Mae gan ysgol eich plentyn ran hanfodol i'w chwarae, a dylech roi gwybod iddynt os yw'n dod yn amlwg y bydd eich plentyn yn absennol am gyfnod sylweddol. Mae hyn yn neilltuol o bwysig os ydynt yn debygol o fod i ffwrdd o'r ysgol am fwy na thair wythnos. Dylai'r ysgol wneud y canlynol:
Os yw'ch plentyn yn rhy wael i fynd i'r ysgol, bydd eich awdurdod lleol yn ceisio darparu'r addysg mwyaf arferol posib o dan amgylchiadau'r salwch.
Gallai hyn olygu, er enghraifft, trefnu i'r plentyn gael ei addysgu gartref, mewn ysgol yn yr ysbyty neu wasanaeth dysgu yn yr ysbyty, neu wasanaeth addysg cartref/ysbyty integredig.
Dylai fod gan awdurdodau lleol uwch swyddog sy'n gyfrifol am oruchwylio'r trefniadau. Dylai fod ganddynt bolisi ysgrifenedig hefyd, sy'n egluro sut y byddant yn mynd ati i gyflawni eu cyfrifoldebau.
Mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol am sicrhau:
Ceir safonau cenedlaethol sylfaenol ar gyfer addysgu plant na allan nhw ddim mynd i'r ysgol oherwydd eu bod yn sâl neu wedi cael anaf. Fe'u hamlinellir mewn canllaw o'r enw 'Mynediad at addysg i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion meddygol'.