Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Rhaid i bawb o fewn y system addysg wneud yr hyn sy'n synhwyrol er mwyn cadw disgyblion yn ddiogel ac yn iach. Mae hyn yn cynnwys gwneud amgylchedd yr ysgol mor ddiogel ag sy'n bosib. Mae sawl set o ganllawiau sy'n amlinellu'r arfer da a all helpu ysgolion i gyflawni eu cyfrifoldebau.
Mae'r mater o bwy sydd â chyfrifoldeb dros iechyd a diogelwch y disgybl yn y pen draw yn dibynnu ar ba fath o ysgol y mae'ch plentyn yn mynd iddi. Mae'r awdurdod lleol yn llunio polisi iechyd a diogelwch ar gyfer ysgolion cymuned ac ysgolion gwirfoddol a reolir. Mewn ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, y corff llywodraethol sy'n cyflawni hyn fel arfer. Ond ymhob ysgol, y staff sy'n delio â sicrhau bod y polisi iechyd a diogelwch yn cael ei weithredu o ddydd i ddydd.
Mae hyn yn berthnasol tra bod eich plentyn yng ngofal staff yr ysgol - p'un ai a ydynt ar safle'r ysgol ai peidio, yn ystod oriau'r ysgol ac oddi allan i oriau arferol yr ysgol.
Gall ysgolion ychwanegu at y polisi iechyd a diogelwch er mwyn adlewyrchu eu hamgylchiadau arbennig eu hunain - fel ei fod yn cynnwys, er enghraifft, beth mae eu disgyblion yn ei wneud yn ystod gwersi addysg gorfforol a gwersi gwyddoniaeth.
Anogir ysgolion i ddefnyddio'r cwricwlwm hefyd er mwyn helpu disgyblion i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i'w cadw'u hunain yn ddiogel. Gallwch helpu drwy wneud yn siŵr bod eich plentyn yn deall pam ei bod yn bwysig dilyn y rheolau a gwrando ar yr athro/athrawes.
Mae mynd allan o'r ystafell ddosbarth o bryd i'w gilydd - boed am wythnos i ffwrdd neu ar ymweliad addysgol neu wers wyddoniaeth am awr ar dir yr ysgol - yn brofiad dysgu gwerthfawr. Cyhoeddwyd y 'Maniffesto Dysgu y Tu Allan i'r Ystafell Ddosbarth' yn 2006 er mwyn annog y math hwn o weithgaredd.
Gall mynd allan o'r ystafell ddosbarth olygu bod staff a disgyblion yn wynebu peryglon na ellir eu cael yn y dosbarth - traffig, er enghraifft. Ni ellir cael gwared â'r risg yn llwyr, ond gellir ei lleihau i lefel dderbyniol drwy reoli diogelwch yn dda. Mae hyn yn golygu y gellir ymweld â llefydd hyd yn oed pan fo peryglon ychwanegol posib yn bodoli.
Mae teithiau ysgol sy'n seiliedig ar weithgareddau 'antur' yn cynnwys delio gyda pheryglon amlwg sy'n rhan naturiol ohonynt. Gall ysgolion a chanddynt staff sy'n berchen ar y sgiliau hanfodol drefnu'r math hwn o daith eu hunain, ond mae nifer o ysgolion yn defnyddio darparwyr masnachol, sy'n cael eu harchwilio ar ran y llywodraeth.
Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o ddarparwyr masnachol sy'n cynnig teithiau i rai o dan 18 oed, a'r rheini'n cynnwys dringo, crwydro ogofâu, cerdded neu chwaraeon dŵr di-bŵer, gael eu trwyddedu gan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA).
Caiff trefniadau diogelwch mudiadau a chanddynt drwydded gan yr AALA eu harolygu'n rheolaidd. Gallwch gael rhestr o fudiadau trwyddedig oddi ar wefan yr AALA - dilynwch y ddolen isod.
Mae angen i ysgolion allu dygymod ag achosion brys, ac mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i helpu disgyblion i gymryd mantais o unrhyw archwiliadau meddygol neu ddeintyddol a drefnir gan yr Adran Iechyd.
Gall y rhan fwyaf o blant a chanddynt anghenion meddygol - p'un ai a ydynt o ganlyniad i salwch neu anaf, neu'n gyflwr iechyd meddwl - fynd i'r ysgol yn rheolaidd. Gyda rhywfaint o gefnogaeth, fel arfer gallant gymryd rhan yn y rhan fwyaf o weithgareddau'r ysgol.
Bydd gan eich awdurdod lleol bolisi diogelwch cyffredinol ar gyfer pob ysgol y maent yn gyfrifol amdani.
Bydd gan bob ysgol hefyd bolisi manylach, a baratoir gan y llywodraethwyr a'r pennaeth. Gallwch gael copi gan ysgol eich plentyn.
Yn ddiweddar, mae'r llywodraeth wedi rhoi pŵer newydd i ysgolion i archwilio disgybl heb gydsyniad pan fyddan nhw'n amau bod ganddynt gyllell neu arf arall. Caiff ysgolion hefyd sgrinio disgyblion ar hap gan ddefnyddio teclynnau canfod metel mewn 'wandiau' neu fwâu diogelwch.
Bydd gan bob ysgol annibynnol ei pholisi diogelwch ei hun, a bydd yn rhaid iddi sicrhau bod ganddi drefniadau diogelwch digonol ar gyfer y tir a'r adeiladau.
Os ydych am gwyno am iechyd, diogelwch pobl neu eiddo yn ysgol eich plentyn, cysylltwch â'r pennaeth. Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus, dilynwch drefn gwyno'r ysgol ac ysgrifennwch at gadeirydd corff llywodraethu'r ysgol. Os yw'ch plentyn yn mynd i ysgol gymuned neu ysgol wirfoddol a reolir, gallech hefyd ysgrifennu at eich awdurdod lleol.