Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Disgyblaeth a gwahardd o'r ysgol

Dylai fod gan ysgol eich plentyn bolisi ysgrifenedig sy'n nodi'r safonau ymddygiad y mae'n eu disgwyl. Dylai'r polisi amlinellu beth fydd yr ysgol yn ei wneud os bydd ymddygiad eich plentyn yn disgyn islaw'r safonau hyn.

Hybu ymddygiad da

Bydd pob disgybl mewn ysgol yn elwa o ymddygiad da. Mae safonau ymddygiad da yn bwysig wrth helpu plant i deimlo'n ddiogel ac i ddysgu'n dda, ac mae rhieni a gofalwyr yn chwarae rhan allweddol yn hyn.

Mae'r llywodraeth yn cynghori ysgolion i ganolbwyntio ar hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol, gan helpu i feithrin hunanddisgyblaeth ac annog parch at eraill. Ond mae angen i ysgolion gael cosbau hefyd er mwyn atal disgyblion rhag camymddwyn.

Polisïau ymddygiad

Dylai ysgolion adolygu eu polisïau ymddygiad yn rheolaidd a gwneud yn siŵr bod rhieni, staff a disgyblion yn ymwybodol ohonynt.

Dylai polisïau ymddygiad gynnwys cod ymddygiad i ddisgyblion. Gall rheolau ymddygiad fod yn berthnasol cyn ac ar ôl ysgol, yn ogystal ag yn ystod y diwrnod ysgol ei hun. Gall y polisïau nodi disgwyliadau ynghylch sut y dylai disgyblion ymddwyn ar y coridorau, mewn ciw wrth aros am y bws ac yn ystod amseroedd cinio ac amseroedd egwyl, yn ogystal ag yn yr ystafell ddosbarth.

Cosb

Mae gan ysgolion hawl gyfreithiol i roi cosb resymol i ddisgybl os yw'n camymddwyn. Dyma rai o'r cosbau y gellid eu defnyddio gan ysgol:

  • cerydd
  • llythyr at rieni neu ofalwyr
  • tynnu disgybl o ddosbarth neu grŵp
  • colli breintiau
  • cymryd rhywbeth y mae eich plentyn yn berchen arno oddi arno os yw'n anaddas ar gyfer yr ysgol (er enghraifft, ffôn symudol, neu beiriant chwarae cerddoriaeth)
  • cadw ar ôl

Disgyblaeth a chyswllt corfforol

Ni chaiff athrawon gosbi disgyblion yn gorfforol, ond gallant eu hatal yn gorfforol pan fydd angen er mwyn rhwystro disgybl rhag anafu ei hun neu rywun arall, difrodi eiddo neu aflonyddu'n ddifrifol ar rywun neu rywbeth.

Gall staff chwilio disgybl sydd dan amheuaeth o gario arf, cyffuriau anghyfreithlon, alcohol neu eitemau sydd wedi’u dwyn a hynny gyda'i ganiatâd neu hebddo.

Eich plentyn a chadw'ch plentyn ar ôl

Gellir cadw'ch plentyn ar ôl yn ystod oriau ysgol, amser cinio, ar ôl yr ysgol neu ar benwythnosau. Os na fydd eich plentyn yn dod yno heb esgus rhesymol, mae'n bosib y bydd yr ysgol yn rhoi cosb fwy difrifol iddynt.

Dylai polisi ymddygiad yr ysgol nodi ymagwedd yr ysgol i gadw eich plentyn ar ôl.

Gwaharddiadau am gyfnodau penodol

Mae'n bosib gwahardd plentyn sy'n mynd i drwbl difrifol am gyfnod penodol.

Dyma rai pwyntiau i'w cofio:

  • dim ond y pennaeth neu'r pennaeth dros dro gaiff wahardd plentyn
  • ni ellir gwahardd plentyn am gyfnod penodol (nad yw'n barhaol) sy'n hwy na chyfanswm o 45 diwrnod ysgol mewn unrhyw flwyddyn ysgol

Ar ôl gwaharddiad rhaid i’r ysgol ddweud y canlynol wrthych:

  • y cyfnod a'r rheswm dros y gwaharddiad
  • sut y gallwch ofyn i’r gwaharddiad gael ei ystyried gan y corff llywodraethol
  • eich dyletswydd yn ystod pum niwrnod cyntaf y gwaharddiad i gadw’ch plentyn draw o lefydd cyhoeddus yn ystod oriau ysgol arferol, oni bai bod rheswm da dros ddim gwneud hynny
  • y trefniadau a wnaed ganddynt os yw eich plentyn wedi’i wahardd am fwy na bum niwrnod

Gwaharddiadau parhaol

Fel arfer dim ond pan fydd pethau wedi mynd i'r pen y bydd ysgol yn gwahardd plentyn yn barhaol, a hynny ar ôl ceisio gwella ymddygiad y plentyn drwy ddefnyddio dulliau eraill. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, fe all pennaeth benderfynu gwahardd disgybl yn barhaol am gamymddwyn un waith yn unig.

Dyma rai pwyntiau eraill i'w cofio:

  • rhaid i gorff llywodraethu'r ysgol adolygu penderfyniad y pennaeth a chewch gyfarfod â nhw i esbonio'ch barn chi am y gwaharddiad
  • os bydd y corff llywodraethu'n cadarnhau'r gwaharddiad, cewch apelio i banel apelio annibynnol a drefnir gan yr awdurdod lleol neu’r ymddiriedolaeth academi (os mai academi yw’r ysgol)
  • rhaid i'r corff llywodraethol anfon llythyr atoch yn rhoi’r rhesymau dros eu penderfyniad, sut mae gofyn am apêl a’r dyddiad erbyn pryd y dylid derbyn eich cais
  • rhaid i'r ysgol ddarparu addysg amser llawn i’ch plentyn o chweched diwrnod y gwaharddiad parhaol ymlaen

Allweddumynediad llywodraeth y DU