Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynnal chwiliadau diogelwch mewn ysgolion

Caiff staff ysgolion chwilio eich plentyn am unrhyw eitem gyda’i ganiatâd. Mae gan benaethiaid ac aelodau o staff awdurdodedig y grym i chwilio eich plentyn heb ei ganiatâd am eitemau penodol yn unol â’r gyfraith. Os nad ydynt yn cael caniatâd eich plentyn, mae’n rhaid iddynt ddilyn rheolau penodol os ydynt am barhau â’r chwiliad. Yma cewch wybod beth yw’r rheolau hynny.

Chwilio eich plentyn gyda’i ganiatâd

Caiff staff ysgolion chwilio eich plentyn am unrhyw eitem os yw'ch plentyn yn cytuno. Gallai hyn gynnwys pethau fel chwaraewyr MP3, ffonau symudol a gwm cnoi. Mae gan staff hawl i gymryd yr eitemau hyn oddi ar eich plentyn os byddai gwneud hynny'n rhesymol.

Chwilio eich plentyn heb ei ganiatâd

Mae gan benaethiaid a’r staff a awdurdodir ganddynt hawl i chwilio eich plentyn neu ei eiddo heb ei ganiatâd. Ni cheir gwneud hyn oni bai y bydd aelod o’r staff yn amau’n rhesymol bod eich plentyn yn cario eitemau penodol sydd wedi’u gwahardd.

Dyma’r eitemau y gellir chwilio amdanynt heb ganiatâd eich plentyn:

  • cyllyll neu arfau
  • alcohol
  • cyffuriau anghyfreithlon
  • eitemau sydd wedi’u dwyn
  • tybaco a phapurau sigaréts
  • lluniau pornograffig
  • tân gwyllt
  • unrhyw eitem sydd wedi cael ei defnyddio, neu sy’n debygol o gael ei defnyddio, i achosi anaf, difrodi eiddo neu gyflawni trosedd
  • unrhyw eitem sydd wedi’i gwahardd o dan reolau’r ysgol ac sydd wedi’i nodi yn y rheolau fel eitem a chaiff ei chwilio amdan

Gellir cymryd unrhyw un o’r eitemau hyn oddi ar eich plentyn a chael gwared arnynt os bydd staff yr ysgol yn dod o hyd iddynt wrth eu chwilio yn unol â’r gyfraith.

Gofynion cyfreithiol ar gyfer chwilio heb ganiatâd

Mae’n rhaid i unrhyw athro neu athrawes sy’n dymuno chwilio eich plentyn heb ei ganiatâd ddilyn y gofynion cyfreithiol perthnasol. Mae’r gofynion hyn fel a ganlyn:

  • mae’n rhaid i ddau aelod o staff fod yn bresennol drwy gydol y chwiliad
  • mae’n rhaid i bob chwiliad gael ei gynnal gan aelod o staff o'r un rhyw â'ch plentyn
  • mae’n rhaid i’r sawl sy’n dyst i’r chwiliad fod o’r un rhyw â’ch plentyn pan fydd hynny’n bosib
  • fodd bynnag, mewn amgylchiadau cyfyngedig lle bo perygl o niwed difrifol i rywun os na chaiff y chwiliad ei gynnal ar unwaith, efallai caiff eich plentyn ei chwilio gan rywun o’r rhyw arall a heb aelod arall o staff fod yn bresennol
  • ni cheir gofyn i’ch plentyn dynnu ei ddillad, ac eithrio'r haenau uchaf, megis côt neu siaced

Teclynnau canfod metel

Yn ogystal â’u grym i chwilio, caiff athrawon chwilio eich plentyn am arfau drwy ddefnyddio teclynnau canfod metel ar ffurf bwa neu ‘wialen’. Os bydd eich plentyn yn gwrthod cael ei chwilio neu ei sgrinio, gellir ei atal rhag dod i mewn i adeilad yr ysgol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU