Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cerdded a beicio i’r ysgol

Os oes modd, mae’n syniad da i’ch plant gerdded neu feicio i’r ysgol – mae’n helpu i’w cadw’n iach ac mae hefyd yn dda i’r amgylchedd. Gallwch chi hefyd fwynhau’r manteision hyn drwy gerdded gyda nhw. Os na allwch chi ymuno â nhw, edrychwch i weld pa gynlluniau sydd ar gael i’w helpu nhw i gyrraedd yno’n ddiogel.

Manteision cerdded neu feicio i’r ysgol

Mae mynd i’r ysgol ar droed neu ar feic yn llesol i chi ac i’ch plant oherwydd:

  • bydd yr ymarfer corff ychwanegol yn gwella eu hiechyd, eu stamina a’u hegni ac yn lleihau’r risg o broblemau iechyd
  • mae’n eu dysgu nhw i deithio’n annibynnol
  • os bydd mwy o bobl yn cerdded ac yn beicio, bydd llai o geir ar y ffyrdd ac felly llai o lygredd
  • mae’n gallu rhoi amser rhydd i chi wneud pethau eraill (os na fyddwch chi’n cerdded gyda nhw)

Cerdded i’r ysgol yn ddiogel

Gwneud yn siŵr bod eich plant yn ddiogel yw’r peth pwysicaf. Efallai na fyddwch chi’n gallu cerdded i’r ysgol gyda’ch plant bob amser. Os yw hyn yn wir – neu os ydyn nhw’n rhy ifanc neu ddim am fynd ar eu pen eu hunain – mae dewisiadau eraill ar gael, fel y cynllun Bws Cerdded.

‘Bysiau cerdded’

Mae’r cynllun Bws Cerdded yn ffordd ddiogel ac iach i grwpiau o blant gerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.

Mae gan bob bws cerdded oedolyn yn ei ‘yrru’ yn y blaen ac oedolyn yn ‘docynnwr’ yn y cefn. Bydd y plant yn cerdded ar hyd llwybr penodol yn casglu ‘teithwyr’ mewn ‘arosfannau bws’ ar hyd y ffordd. Bydd y bws yn teithio ymhob tywydd a bydd pawb yn gwisgo siaced adlewyrchol.

Cysylltwch ag ysgol eich plentyn i gael gwybod rhagor am y cynllun Bws Cerdded.

Ymgyrch Cerdded i’r Ysgol

Mae’r ymgyrch Cerdded i’r Ysgol yn annog disgyblion i gerdded i’r ysgol yn amlach. Mae’r ymgyrch yn cynnwys y cynllun poblogaidd Cerdded ar ddydd Mercher (WOW), sy’n helpu i hyrwyddo cerdded rheolaidd ymhlith plant.

Gallwch chi a’ch plentyn hefyd gymryd rhan yn Wythnos Cerdded i’r Ysgol (a gynhelir ym mis Mai fel arfer) a’r Mis Cerdded i’r Ysgol Rhyngwladol (ym mis Hydref fel arfer). Mae’r rhain yn gyfleoedd gwych i gymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n hyrwyddo holl fanteision cerdded.

Bod yn ddiogel wrth gerdded

Mae yna ychydig o reolau syml i gerddwyr a all eich helpu chi i fod yn ddiogel. Gallwch chi gael gwybod rhagor yn Rheolau’r Ffordd Fawr, sy’n cynnwys rheolau i gerddwyr. Ceir hefyd gwybodaeth fanwl am ddiogelwch ar y ffyrdd ar wefan Think! Road Safety.

Mae Tales of the Road, sef y wefan diogelwch ar y ffyrdd i blant, yn esbonio Rheolau’r Groes Werdd.

Beicio i’r ysgol yn ddiogel

Os bydd eich plant yn bwriadu mynd i’r ysgol ar feic, bydd angen i chi eu dysgu nhw sut mae bod yn ddiogel. Mae’n bwysig hefyd i chi osod esiampl dda ar y ffyrdd eich hun.

Hyfforddiant beicio Bikeability

Gallwch chi annog eich plant i feicio’n ddiogel ac yn hyderus drwy drefnu eu bod nhw’n cael rhywfaint o hyfforddiant beicio Bikeability. Mae’r rhan fwyaf o gynghorau lleol yn darparu hyfforddiant Bikeability i blant mewn ysgolion lleol. Mae rhai ysgolion hefyd yn cynnig hyfforddiant Bikeability yn uniongyrchol. Bydd eich plentyn yn dysgu i reoli ei feic a theithio’n ddiogel ar ffyrdd tawel drwy gwblhau lefel un a dau Bikeability.

Allweddumynediad llywodraeth y DU