Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beicio’n ddiogel i blant

Gan fod beicio'n hwyl ac yn llesol, mae’n ffordd dda i blant deithio o le i le, ond mae’n bwysig eu bod yn ymwybodol o'r peryglon hefyd. Drwy osod esiampl dda a gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn cael yr hyfforddiant, yr offer a'r dillad priodol, gallwch helpu i’w gadw’n ddiogel.

Siarad â’ch plentyn yn gyson a gosod esiampl dda

Y ffordd orau o helpu’ch plentyn i ddysgu am ddiogelwch ar y ffyrdd yw gofalu eich bod chi’n gosod esiampl dda bob amser. Pan rydych chi’n beicio gyda’ch plentyn:

  • dylech chithau hefyd wisgo helmed
  • dylech ufuddhau i arwyddion traffig, bod yn ystyriol o bobl eraill sy’n defnyddio’r ffyrdd a pheidio â defnyddio ffôn symudol na gwrando ar gerddoriaeth – pethau fydd yn tynnu’ch sylw
  • dylech eu hannog i sylwi ar bethau sy’n digwydd o’u cwmpas ar y ffordd, a thrafod y pethau hynny
  • dylech wneud yn siŵr eu bod yn gwybod ei bod yn rhaid iddynt ganolbwyntio a chadw llygad ar ddefnyddwyr eraill bob amser pan maent ar y ffordd
  • dylech eu hannog i wneud eu penderfyniadau eu hunain – ddylen nhw ddim dilyn eraill a gwneud yr un fath â nhw heb feddwl am y peth eu hunain yn gyntaf
  • dylech ymarfer barnu cyflymder a phellter gyda nhw
  • dylech eu helpu i ganfod y llwybrau mwyaf diogel ar gyfer pob siwrnai

Hyfforddiant beicio i’ch plentyn

Gallwch helpu eich plentyn i fwynhau beicio’n ddiogel drwy wneud yn siŵr ei fod yn dilyn hyfforddiant. Gall eich plentyn ddechrau cael hyfforddiant cyn gynted ag y mae’n gallu reidio beic, sef pan fydd rhwng saith a naw oed fel rheol. Gall eich plentyn fanteisio ar wahanol lefel o hyfforddiant wrth iddo fynd yn hŷn.

Holwch a yw ysgol eich plentyn yn cynnig hyfforddiant, neu dilynwch y ddolen isod i gael gwybodaeth am Bikeability, sef y rhaglen hyfforddiant beicio genedlaethol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant yn eich ardal chi gan eich Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd lleol.

Gwisgo’r dillad priodol

Mae’n bwysig bod defnyddwyr eraill y ffordd yn gallu gweld beicwyr. Gellir cael dillad ac offer arbennig y gallai eich plentyn eu defnyddio i’w helpu i fod yn ddiogel:

  • gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwisgo dillad golau neu ddillad fflwroleuol os yw’n mynd ar ei feic yn ystod y dydd neu mewn golau gwael
  • pan fydd hi'n dywyll, dylai plant wisgo dillad adlewyrchol, gan na fydd modd gweld dillad fflwroleuol na dillad lliw golau.

Helmedau Diogelwch

Ar gyfartaledd, wyneb a phen beicwyr sy'n cael eu hanafu yn hanner y damweiniau sy'n digwydd ar ffyrdd. Gwnewch yn siŵr bob amser bod eich plentyn yn gwisgo helmed sy'n ei ffitio'n iawn er mwyn ei amddiffyn rhag anafiadau i'r pen pe bai'n disgyn. Dylid ei gwisgo’n gywir:

  • dylai fod yn sgwâr ar ben y plentyn ac yn gorwedd ychydig uwchben yr aeliau – ni ddylai fod ar ogwydd yn ôl nac yn pwyso ymlaen
  • dylai ffitio’n gyfforddus ar y pen, heb fod yn rhy lac nac yn rhy dynn
  • ni ddylai’r helmed rwystro’r plentyn rhag gweld yn glir, ac ni ddylai ddisgyn dros ei glustiau
  • rhaid i strapiau’r helmed gael eu cau'n dynn, heb dro ynddynt, gyda dim ond digon o le i ddau fys rhwng gên y plentyn a'r strap

Paratoi beic eich plentyn

Sicrhewch fod eich plentyn yn defnyddio beic o'r maint cywir, a’i fod yn cael ei gadw'n dda:

  • mae'n drosedd reidio beic yn y nos heb olau gwyn ar y tu blaen a golau ac adlewyrchydd coch ar y cefn
  • os oes gan eich plentyn ddynamo ar ei feic, dylid ei atgoffa y bydd y goleuadau’n diffodd pan fydd y beic yn stopio
  • nodwch eich cod post ar ffrâm y beic
  • atgoffwch eich plentyn i ddefnyddio clo beic bob amser, ac i ddefnyddio raciau cadw beiciau

I gael cyngor ynghylch gwneud yn siŵr bod beic yn ddiogel i’w ddefnyddio, ewch i ‘Paratoi eich beic cyn ei ddefnyddio’.

Rheolau’r ffordd fawr

Pan fydd eich plentyn yn crwydro ar ei feic, dylech ei annog i ddilyn rheolau sylfaenol y ffordd:

  • edrych y tu ôl iddo cyn troi, goddiweddyd neu stopio
  • gwneud arwyddion braich cyn troi
  • ufuddhau i oleuadau traffig ac arwyddion ffordd
  • peidio â reidio’r beic ar y palmant oni bai fod arwydd yn dweud bod hynny’n iawn
  • peidio â beicio wrth ymyl rhywun arall ar ffordd gul
  • cadw golwg am ddrysau ceir yn agor yn sydyn pan fydd yn pasio ceir sydd wedi'u parcio

Cyngor beicio i blant yn eu harddegau

Mae’r cyngor uchod yr un mor berthnasol, os nad yn fwy perthnasol, i blant yn eu harddegau, gan eu bod yn fwy tebygol o feicio ar brif ffyrdd. Dyma'r grŵp lleiaf tebygol o wisgo helmed ac maent yn fwy tebygol o ddefnyddio ffôn symudol neu wrando ar gerddoriaeth drwy glustffonau. Dylech eu hatgoffa i fod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas bob amser, peidio â gadael i ddim byd arall fynd â’u sylw, a pheidio â dangos eu hunain o flaen y rheini sydd o’u cwmpas.

Mae cael hyfforddiant a gofalu am eu beic yn hanfodol os ydynt am fod yn fwy diogel ar y ffordd.

Cyrraedd yr ysgol yn ddiogel

Gall eich cyngor lleol eich helpu i ddod o hyd i’r llwybrau mwyaf diogel i’ch plentyn feicio neu gerdded i’r ysgol. Cliciwch ar y ddolen isod i ddod o hyd i’ch cyngor lleol ac i gael cyngor ynghylch teithio i’r ysgol mewn ffordd ddiogel ac amgylcheddol gyfeillgar yn eich ardal chi.

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU