Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Plant sy'n teithio ar eu pennau eu hunain

Ydy eich plentyn yn barod i fynd ar siwrnai hir ar ei ben ei hun? Tra bo rhai trefniadau ychwanegol y gallech chi neu'ch plentyn eu hystyried er mwyn sicrhau eu diogelwch, dyma rai o'r prif faterion a fydd angen sylw.

Llongau a threnau

Holwch gwmnïau fferi annibynnol am eu polisïau yn ymwneud â phlant yn teithio ar eu pennau eu hunain.

Mae gan wefan Eurostar wybodaeth ynghylch plant sy’n teithio ar eu pennau eu hunain ar drenau Eurostar.

Awyrennau

Cyn archebu sedd ar awyren, dylech holi'r cwmni hedfan beth yw eu polisi am blant yn teithio ar eu pennau eu hunain.

Ystyriaethau ar gyfer plant ifanc:

  • ysgrifennwch eich rhif ffôn, eich cyfeiriad a manylion cyswllt y person y bydd eich plentyn yn ei gyfarfod
  • rhowch deganau a gemau yn y bag a fydd ganddynt ar yr awyren fel y gallant chwarae â nhw

Ar gyfer pob plentyn:

  • dim ond am 5 mlynedd y bydd pasportau i blant dan 16 yn ddilys, felly sicrhewch fod eu pasport yn ddilys cyn iddynt deithio a'ch bod wedi derbyn unrhyw deithebau (visas) angenrheidiol ar gyfer y daith (holwch lysgenhadaeth y wlad y maent yn teithio iddi neu drwyddi)
  • sicrhewch fod ganddynt lungopi (neu ddau) o'u pasport sy'n cael ei gadw ar wahân i'w pasport iawn. Gallech chithau hefyd gadw copi fel y byddai modd ei ffacsio i unrhyw le o amgylch y byd pe bai rhaid
  • rhowch gopi o'r trefniadau teithio i'ch plentyn (yn cynnwys manylion dychwelyd ar yr awyren)
  • sicrhewch fod eich manylion cyswllt wedi eu hysgrifennu ar basport eich plentyn
  • sicrhewch fod ganddynt enw, cyfeiriad a rhif ffôn y person maent i fod i'w gyfarfod yn y maes awyr. Cynghorwch nhw i beidio â mynd gyda neb arall
  • sicrhewch fod gan eich plentyn gyfeiriad y Llysgenhadaeth neu Is-Genhadaeth Brydeinig agosaf rhag ofn y bydd arnynt angen cysylltu â rhywun ar frys
  • rhowch rywfaint o arian i'ch plentyn fel y gall eich ffonio cyn gadael y maes awyr pe byddai angen. Sicrhewch eu bod yn gwybod beth yw cod y wlad

Sicrhewch fod y person sy'n gofalu am gasglu eich plentyn yn gwybod manylion yr amser hedfan.

Pwysig

Mae'n werth ymweld â gwefan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad er mwyn cael mwy o wybodaeth am bethau y dylid eu hystyried cyn teithio (nid yw pob gwlad yn cyhoeddi'r wybodaeth hon ar y wefan).

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU