Teithio dramor
Mae'n bwysig cynllunio ymlaen llaw er mwyn sicrhau taith ddiogel. Gallwch gael cyngor ynghylch eich cyrchfan gan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad, a chael gwybod ynghylch brechiadau a gofal iechyd pan rydych dramor.
Gwybodaeth deithio gan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad
Mae gwefan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad yn cynnig llawer o wybodaeth deithio gan cynnwys:
- cyngor teithio swyddogol y Swyddfa Dramor ar gyfer mwy na 200 o wledydd, awgrymiadau teithwyr ar gyfer y gwledydd, a dolenni at gyngor teithio gan lywodraethau tramor
- beth i'w wneud cyn i chi gychwyn, pasportau a theithebau (visas), yswiriant teithio, materion ariannol, materion iechyd, peryglon cyffuriau a diogelu'ch cartref tra'r ydych i ffwrdd
- rhestr wirio teithwyr er mwyn sicrhau eich bod wedi paratoi'n drylwyr ac y byddwch yn cael gwyliau diogel
- rhagofalon tra'r ydych oddi cartref: diogelwch ac awgrymiadau ynghylch tollau, cyfreithiau a gyrru dramor hyd yn oed
- beth i'w wneud os oes rhywbeth yn mynd o'i le yn ystod eich taith
- atebion i gwestiynau a ofynnir yn aml
Brechiadau a iechyd
Mae gan gwefan Yr Adran Iechyd gyngor am sut y gellir:
- osgoi peryglon sy'n ymwneud â iechyd, yn cynnwys cyngor ynglŷn â brechiadau sy'n berthnasol i'r gwahanol wledydd
- cynllunio ar gyfer teithio iach
- cael triniaeth feddygol mewn argyfwng
- cael Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC), sy'n rhoi hawl i chi dderbyn triniaeth feddygol mewn argyfwng am ddim neu'n rhatach mewn ambell wlad yn Ewrop
Mae gwybodaeth y wefan yn seiliedig ar lyfryn Cyngor Iechyd i Deithwyr sydd ar gael mewn Swyddfeydd Post neu drwy ffonio'r Llinell Llenyddiaeth Iechyd ar 0870 155 54 55.
Mae triniaeth feddygol yn gallu bod yn ddrud iawn mewn amryw o wledydd felly ystyriwch gael yswiriant teithio priodol i'ch gwarchod chi a'ch teulu.
Gall dod i gysylltiad â gormod o haul achosi canser y croen (mae nifer yr achosion yn cynyddu), trawiad gwres a llosg haul.